Mae ein huned Hawliau Lles wedi derbyn gwobr Safon Ansawdd Cyngor (AQS) a wobrwyir i sefydliadau sy’n darparu cyngor annibynnol i aelodau o’r cyhoedd.
Mae sefydliadau sydd â’r Safon wedi dangos eu bod yn hygyrch, wedi’u rheoli’n effeithiol, ac yn cyflogi staff gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i fodloni anghenion eu cleientiaid.
Mae’r Uned wedi bod yn gweithredu ers 1996 a’i rôl yw sicrhau bod pobl yn derbyn yr holl fudd-daliadau sydd â hawl ganddynt iddo, gyda phwyslais penodol ar ddefnyddwyr gwasanaeth Gofal Cymdeithasol. Mae gan yr Uned nifer o brosiectau eraill hefyd, gan ddarparu gwaith achos a hyfforddiant i grwpiau a dinasyddion gogledd ddwyrain Cymru. Mae cleientiaid wedi’u targedu yn cael cymorth gyda gwybodaeth, cyngor, hawliadau, herio penderfyniadau a chynrychiolaeth apêl.
“£8 miliwn a mwy”
Mae’r uned yn darparu gwasanaeth gwaith achos llawn i oddeutu 3,000 o bobl y flwyddyn ac wedi llwyddo i ddiogelu taliadau nawdd cymdeithasol llywodraeth o £8miliwn a mwy iddynt.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae’r cleientiaid sydd wedi derbyn cymorth yn cynnwys y rhai sy’n mynd neu’n byw mewn gofal preswyl a defnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl oedolion; cleifion cancr wedi eu hatgyfeirio gan weithwyr iechyd proffesiynol megis nyrsys arbenigol clinigol, gofalwyr a gwasanaethau a gyllidir gan Teuluoedd yn Gyntaf. Mae staff hefyd yn hapus i helpu unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn y fwrdeistref sirol sy’n ffonio Llinell Cyngor Budd-dal yr Uned (01978 298255, Llun – Gwener 9.30 – 12.00). Mewn rhai achosion, gall fod tâl am y gwasanaeth; ffoniwch am ragor o wybodaeth am hyn.
“Staff ymroddedig a chydwybodol”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn falch iawn bod ein staff wedi gweithio’n galed i dderbyn y Safon Ansawdd hon. Mae’n dangos i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn Wrecsam bod staff yn gweithio i’r safonau proffesiynol uchaf bosib.
“Mae’r staff yn ymroddedig a chydwybodol ac maent i gyd wedi gweithio’n galed iawn i gyflawni’r Safon hon. Rwy’n sicr y byddent yn parhau i gynnal y safonau uchel yma dros y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y budd-daliadau maent yn eu haeddu. Llongyfarchiadau a da iawn i bawb ynghlwm, dylech ymfalchïo yn eich cyflawniadau.”
Mae’r wobr AQS yn cael ei wobrwyo gan y grŵp ambarél cenedlaethol, Cynghrair Gwasanaethau Cyngor, a dywedodd eu Cyfarwyddwr Lindsey Poole: “Mae’r AQS yn feincnod caled i’w chyflawni, yn arbennig yn ystod amseroedd heriol ar gyfer y sector a’n cleientiaid, ac felly dymunwn longyfarch staff Hawliau Lles Wrecsam am gyrraedd y nod.”
Byddwn yn arddangos y logo AQS â balchder, gan ymuno â chymuned o dros 650 o sefydliadau ar draws y wlad.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION