Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolbwynt ar Bêl-droed i’r Bwrdd Gweithredol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Canolbwynt ar Bêl-droed i’r Bwrdd Gweithredol
ArallPobl a lle

Canolbwynt ar Bêl-droed i’r Bwrdd Gweithredol

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 7, 2018 2:52 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
community sports clubs
RHANNU

Bydd pêl-droed ar draws y fwrdeistref sirol yn cael hwb enfawr os bydd cynlluniau yn cael eu cymeradwyo yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol ar 13 Mawrth.

Gofynnir i Aelodau gefnogi datblygiad prosiect partneriaeth a gaiff ei arwain gan Gymdeithas Bêl‑droed Cymru (Ymddiriedolaeth) i ddatblygu cyfres o fodelau gweithredu newydd ar gyfer rheoli a datblygu pêl-droed yn y dyfodol yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd hyn yn cynnwys trefniadau ar gyfer y dyfodol ar gyfer caeau a phafiliynau pêl-droed y cyngor ei hun.

Os cânt eu cymeradwyo, byddai manteision i bêl-droed yn Wrecsam yn cynnwys gwell canlyniadau pêl-droed, clybiau mwy cryf a llwyddiannus, cyfleusterau gwell mewn ysgolion, a mwy o gyfranogiad gan bobl ifanc gan gynnwys mwy o ferched yn cymryd rhan.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch iawn o fod yn cyflwyno’r adroddiad hwn i aelodau ar yr adeg hon. Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Bêl‑droed Cymru (Ymddiriedolaeth) am gymryd amser i edrych ar ddarpariaeth pêl-droed ar draws y fwrdeistref sirol a llunio’r adroddiad hwn i’r Bwrdd Gweithredol ei ystyried.”

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn rheoli a gofalu am 28 o gaeau pêl-droed mae modd eu harchebu, ac 13 o bafiliynau pêl-droed. Mae ansawdd y caeau yn gymedrol i wael, o ganlyniad i lefelau is o gynnal a chadw, draenio/adeiladu gwael a diffyg buddsoddi cyfalaf dros nifer o flynyddoedd. Mae pafiliynau mewn cyflwr tebyg gyda nifer yn dirywio ac mewn cyflwr gwael. Heb y buddsoddiad angenrheidiol, byddant yn wynebu cau, yn anochel.

Mae’r adroddiad yn nodi bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Ymddiriedolaeth) wedi canfod sylfaen cymharol gryf o glybiau pêl-droed lleol, mae llawer yn wynebu anawsterau ariannol ac mae hyn yn aml yn cael ei waethygu pan fo rhaid iddynt symud i ddod o hyd i gae cartref ar gyfer gemau.  Mae gan y rhan fwyaf uchelgeisiau, ond nid oes ganddynt strategaeth gref, gynaliadwy i fodloni eu huchelgeisiau. Er bod y Cyngor yn cynnig tocyn tymor am ostyngiad ar gyfer archebu caeau, mae hyn wedi helpu’n rhannol yn unig gyda’r anhawster mae clybiau lleol yn ei wynebu.

Os cânt eu cymeradwyo, bydd partneriaid gan gynnwys y Cyngor, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Ymddiriedolaeth), Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Ddwyrain Cymru a’r cynghreiriau/clybiau yn cydweithio i ddatblygu cynllun i symud y prosiect ymlaen i’r cam nesaf. Mae partïon eraill â diddordeb a allai gyfrannu at y prosiect yn cynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam, Freedom Leisure, Prifysgol Glyndŵr, Coleg Cambria a chyrff llywodraethu’r ysgol.

Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod am 10.00 yn Neuadd y Dref ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu. Bydd y cyfarfod yn cael ei weddarlledu hefyd ac mae’r manylion i’w gweld yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwobrau Chwaraeon yn cyflwyno sêr chwaraeon disglair Wrecsam Gwobrau Chwaraeon yn cyflwyno sêr chwaraeon disglair Wrecsam
Erthygl nesaf Decarbonisation Oes gennych chi gar trydan?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English