Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolbwyntio ar ein Perfformiad – sut ydym ni’n perfformio?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham Guildhall
Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Canolbwyntio ar ein Perfformiad – sut ydym ni’n perfformio?
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Canolbwyntio ar ein Perfformiad – sut ydym ni’n perfformio?

Diweddarwyd diwethaf: 2019/10/04 at 12:57 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Canolbwyntio ar ein Perfformiad – sut ydym ni’n perfformio?
RHANNU

Rydym wedi llunio adolygiadau blynyddol o’n perfformiad ar draws nifer o feysydd, gan edrych ar bob maes gwaith y cyngor – meysydd fel addysg, gofal cymdeithasol i oedolion, yr amgylchedd, priffyrdd, yr economi ac eraill.

Cynnwys
Lle rydym ni’n perfformio’n ddaLle rydym ni eisiau gwella

Mae canlyniadau’r adolygiadau hynny wedi’u cyhoeddi yn ein hadroddiadau blynyddol – Canolbwyntio ar ein Perfformiad.

Mae adroddiad Canolbwyntio ar ein Perfformiad ar gyfer 2018/19 bellach ar gael i’w ddarllen, a bydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol yr wythnos nesaf.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Mae’n mesur ein perfformiad yn erbyn yr amcanion yng Nghynllun y Cyngor 2018-19, a’r pedwar thema pwysig y mae’n ei nodi – economi, pobl, lle a threfniadaeth.

Nid yw’n gwirio popeth rydym ni’n ei wneud, ond yn hytrach mae’n edrych sut rydym ni’n perfformio mewn meysydd allweddol.

Bydd adroddiad Canolbwyntio ar ein Perfformiad eleni yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth 8 Hydref.

Gadewch i ni daro golwg ar ychydig o’r prif feysydd sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

Lle rydym ni’n perfformio’n dda

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle rydym ni’n perfformio’n dda, sydd wedi’u nodi’n wyrdd.

Mae rhai o’r gwelliannau sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • gwerth mwy na £5miliwn o fuddsoddiad yn adfywiad ffisegol ein marchnadoedd;
  • 84% o holl eiddo masnachol yn y fwrdeistref sirol wedi’i feddiannu;
  • Mwy na 11,000 o fusnesau wedi’u cofnodi eu bod yn gweithredu yn yr ardal – yn cynnwys 72 busnes newydd yn y flwyddyn ddiwethaf;
  • Mwy na 10,000 o ymweliadau wedi’u cofnodi yn ein cyfleusterau hamdden – cynnydd mawr o’i gymharu â’r llynedd;
  • 93 uned newydd o dai fforddiadwy, a 35 eiddo gwag y gellir eu defnyddio eto;
  • Canrannau uchel o gartrefi’r cyngor yn diwallu Safon Ansawdd Tai Cymru
  • 66% o’r holl wastraff yn cael ei ailgylchu

Mae’n cynnwys pethau megis faint mae ymwelwyr yn ei wario yn y fwrdeistref sirol; faint o eiddo masnachol sydd wedi’u meddiannu; y nifer o ofalwyr rydym ni’n gweithio neu’n ymgysylltu â nhw; nifer yr ymweliadau i’n canolfannau hamdden; nifer yr eiddo gwag sydd bellach yn cael eu defnyddio eto – a nifer o rai eraill.

Lle rydym ni eisiau gwella

Mae yna feysydd eraill yn yr adroddiad Canolbwyntio ar ein Perfformiad lle nad ydym wedi cyflawni’r gwelliannau roeddem eisiau, neu angen gwneud yn well, neu wedi’u graddio naill ai’n oren neu’n goch yn yr adroddiad.

  • Ar gyfartaledd, mae’n cymryd tua 206 diwrnod i ddarparu Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, i wneud gwelliannau i’r cartref i helpu pobl fyw’n fwy annibynnol gartref.
  • Yn arolwg diweddaraf Canfyddiadau Diogelwch – bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’n fuan – dim ond 35% o’r ymatebwyr ddywedodd eu bod yn teimlo’n ddiogel yng nghanol tref Wrecsam.
  • Yn yr un arolwg, dywedodd tua 72% o’r ymatebwyr eu bod yn teimlo’n ddiogel yn ardal eu cartrefi.
  • Canran y ffyrdd dosbarth A mewn cyflwr gwael cyffredinol ydi 3.3%, tra bod nifer y ffyrdd dosbarth B mewn cyflwr gwael yn 2.6%.

Mae rhai o’r meysydd uchod yn mynd i’r cyfeiriad cywir – ond mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed i wneud gwelliannau lle gallwn ni.

Er mwyn gwylio’r drafodaeth am adroddiad Canolbwyntio ar ein Perfformiad, gwyliwch y gweddarllediad byw o gyfarfod ein Bwrdd Gweithredol am 10am ddydd Mawrth, 7 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Fe hoffwn ddiolch i’r holl staff sydd wedi parhau i gyflwyno gwasanaethau o ansawdd uchel mewn amodau anodd iawn, ac yn erbyn cefndir parhaus o galedi, ar ôl i Lywodraeth Cymru dorri ein cyllid o £62 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Building Skills Officer job Mwy o swyddi diweddaraf y cyngor yma! Ydy un o’r rhain i chi?
Erthygl nesaf Hero Inspire Awards Pwy sydd yn eich ysbrydoli? Enwebwch eich arwr beunyddiol yn awr!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor Medi 11, 2025
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor Medi 11, 2025
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Pobl a lle

Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol

Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y cyngor

Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd

Medi 11, 2025
Ty Pawb
Pobl a lleY cyngor

Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m

Medi 11, 2025
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
DigwyddiadauPobl a lle

Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon

Medi 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English