Building Skills Officer job

Efallai mai eich swydd nesaf fydd gweithio i Gyngor Wrecsam? Mae mwy o swyddi wedi eu hychwanegu i’n tudalen swyddi gwag diweddaraf, felly os nad ydych wedi cael golwg ers tro, mae’n werth cael golwg nawr.

Yn aml, mae swyddi gwag mewn addysg, tai, glanhau, gwasanaethau i gwsmeriaid, TG a gofal cymdeithasol, i enwi ond y rhai!

Gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da – mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, a sefydlogrwydd cymharol.

GWELD Y SWYDDI DIWEDDARAF

Dyma rai o’n swyddi diweddaraf a fyddai efallai o ddiddordeb i chi 🙂

Swyddog Sgiliau Adeiladu Traddodiadol

Rydym angen rhywun i reoli datblygiad a darpariaeth ein rhaglen sgiliau adeiladu, sy’n cefnogi adfywio canol y dref. Ydych chi eisiau gwybod mwy?
Dyddiad cau 11/10/2019

Cynorthwyydd Addysgu – Ysgol Mwynglawdd

Mae’r swydd Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 hon yn 10 awr yr wythnos. Allwch chi roi cefnogaeth un i un i blentyn gydag anghenion unigol? Dangoswch fwy i mi am y swydd hon…
Dyddiad cau 12/10/2019

Ymarferydd Teulu – Canolfannau Teulu

Oes gennych chi brofiad o weithio gyda phlant a’u teuluoedd? Rydym angen rhywun fydd yn ffynnu yn y swydd amrywiol hon. Gallwch weld y swydd yma…
Dyddiad cau 11/10/2019

Rheolwr rhwydwaith – Ysgol Uwchradd Rhosnesni

Ydych chi’n dda gyda thechnoleg? Oherwydd rydym angen rheolwr brwdfrydig ac ymroddedig i arwain ein gwasanaethau TG mewnol. Cliciwch yma i weld mwy…
Dyddiad cau 07/10/2019

Syrfëwr Adeiladau

Dyma gyfle i unigolyn dynamig ac egnïol weithio yn ein tîm unedau gwag. Allwch chi helpu i gael trefn ar ein tai gwag? Os felly, hoffem glywed gennych…
Dyddiad cau 11/10/2019

Eisiau gweld mwy? Cliciwch ar y ddolen isod 🙂

GWELD Y SWYDDI DIWEDDARAF