Bydd uned brofi symudol yn agor ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam i’w gwneud yn haws i bobl sy’n gweithio yno gael prawf Covid-19.
Mae hyn yn rhan o waith parhaus i helpu i gadw achosion o’r firws yn isel yn Wrecsam.
Bydd y cyfleuster profi mynediad-rhwydd yn cynnig prawf llif unffordd cyflym ym Mharc Busnes Redwither, bob dydd Llun gan gychwyn ar 7 Mehefin
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Bydd y cyfleuster wedi ei leoli yn y maes parcio ychwanegol ger y maes parcio staff, a bydd ar agor rhwng 8am a 4pm ar 7fed Mehefin, a rhwng 12pm a 8pm ar 14eg Mehefin. Ar ôl hynny bydd oriau agor yn cael eu hadolygu.
Anogir staff sy’n gweithio ar y stad ddiwydiannol ac na allant weithio o’r cartref, i gael prawf yn yr uned (dylid unrhyw un gyda symptomau hunan-ynysu ar unwaith a bwcio prawf) prun ai bod ganddynt symptomau neu beidio.
Nid yw tua un ym mhob tri o’r rhai sy’n dioddef o’r coronafeirws yn dangos symptomau, ond gallant ddal i heintio eraill.
Yr unig ffordd o wybod os yw’r firws arnoch, yw cael prawf rheolaidd. Os yw pobl yn profi’n bositif ac yn hunan-ynysu, mae’n helpu i atal lledaeniad y firws.
Mae’r gwaith yn cael ei gydlynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Wrecsam, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Cyflym a chyfleus
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Warchod y Cyhoedd: “Mae hyn yn newyddion da a bydd yn cynnig ffordd gyflym a chyfleus i bobl sy’n gweithio ar y stad ddiwydiannol i gael prawf.
“Mae nifer o bobl sy’n gweithio ar y stad wedi methu â gweithio o gartref yn ystod y pandemig ac maen nhw’n gorfod teithio i’w gweithle bob dydd. Felly, bydd gwybod y gallan nhw gael prawf yn hawdd yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw a’u cyflogwyr, ac yn helpu i atal lledaeniad y firws.
“Mae’n bwysig nodi fod hwn yn gam cadarnhaol a rhagweithiol. Mae’r ffigurau’n dda iawn yn Wrecsam, gyda nifer isel iawn o achosion, a dyma ffordd arall o’n helpu ni aros gam ar y blaen a chadw niferoedd achosion i lawr.”
Ychwanegodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam i gynnig mynediad at brawf i weithwyr yn ardal Wrecsam yn ein Huned Brofi Symudol sy’n agos atynt.
“Byd hyn yn sicrhau y gall staff yr ardal hon gael mynediad at brawf yn agosach at ble maen nhw’n gweithio heb bryderu am gymryd amser o’r gwaith i gael prawf. Bydd gweithwyr yn dod yn fwy hyderus wrth iddynt hunan-brofi a fydd hwn yn rhoi sicrwydd i weithleoedd.
Mae nifer yr achosion o Covid-19 wedi gostwng, er ei fod yn dal i gylchredeg o fewn ein cymunedau ac mae’n bwysig ein bod yn dal i brofi i adnabod unigolion nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau ac nad ydym yn ymwybodol eu bod yn heintio eraill.
Rhaid i unrhyw un sy’n profi symptomau Covid-19 hunan-ynysu ar unwaith ac archebu prawf.
Os na allwch weithio o gartref, gallwch hefyd archebu cit prawf llif unffordd cyflym i’w anfon i’ch cartref drwy’r .
Os na allwch eu casglu yn bersonol.
Os yw eich prawf yn gadarnhaol, dylech o fewn 24 awr i ganlyniad y prawf llif unffordd cadarnhaol.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF