Aeth eco-gyngor o 4 ysgol gynradd yn Wrecsam i Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! ar gyfer digwyddiad dathlu i gydnabod y gwaith a wnaed mewn Gweithdai Lleihau Carbon yn ddiweddar.
Cyflwynwyd tystysgrifau i ddisgyblion o Ysgol Alexandra, Ysgol Maes y Mynydd, Ysgol Cynddelw ac Ysgol Gynradd Rhosduu, a’u llongyfarch am eu gwaith caled yn ystod y gweithdai a gynhaliwyd yn yr ysgolion.
Yn ystod y gweithdai bu iddynt edrych ar adeiladau a defnyddio llai o ynni, plannu mwy o goed a blodau gwyllt, ystyried sut ydym yn prynu’r pethau sydd eu hangen arnom ac o ble’r ydym yn eu cael a gwneud mwy o’n teithiau trwy ddulliau egnïol a chynaliadwy.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Fel rhan o’r dathliadau bu iddynt hefyd gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth creu cymeriad datgarboneiddio a allai weld y cynnig buddugol yn dod yn arweinydd ar gyfer gweithgareddau i gefnogi cymunedau lleol wrth i ni gyd chwarae ein rhan i leihau ein hôl troed carbon.
Dywedodd Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn Xplore!, “Mae’r gweithdai wedi mynd yn dda gyda’r grwpiau. Rydym wedi cael ein plesio â faint o blant sydd eisoes yn deall effaith eu gweithredoedd bob dydd. Rydym yn edrych ymlaen at glywed am yr addewidion y maent wedi’i wneud i geisio lleihau eu heffaith ymhellach a chyflwyno tystysgrif i bob plentyn.”
Dywedodd Jayne Rodgers, Rheolwr Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon, “Mae’r gweithdai yn ffordd wych o ddangos canlyniadau ein gweithredoedd i bobl ifanc mewn ffordd hwyliog ac ymgysylltiol.
“Rydym wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 ac rydym yn gobeithio y bydd gweithdai fel y rhain yn ein galluogi i gyflawni hyn a’i wneud yn gynaliadwy i bawb yn ein cymunedau.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH