Ar ôl erlyniad diweddar gan ein Tîm Safonau Masnach, dedfrydwyd Tiffany Stanley o Danyfron i 6 mis o garchar yn Llys Ynadon Wrecsam.
Plediodd Stanley’n ddieuog i 17 trosedd gan gynnwys twyll, ond ar ôl ei hachos llys, fe’i cafwyd yn euog o bob trosedd.
Daeth yr achos i’r amlwg ar ôl i Wasanaeth Safonau Masnach y Cyngor, sy’n dod o fewn yr adran Gwarchod y Cyhoedd, gael nifer o gwynion am fusnes crefftau Stanley, yr oedd yn ei redeg dros Facebook.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Byddai Stanley’n cymryd archebion a thaliad ymlaen llaw am eitemau crefft cartref ar gyfer dathlu genedigaethau neu ben-blwyddi, ond weithiau i gofio digwyddiadau trasig fel marwolaeth plentyn ifanc.
Ni fyddai’r nwyddau’n cyrraedd fel y bwriad, a byddai hi’n rhoi esgusodion i ddechrau wrth i gwsmeriaid holi, ond os byddent yn parhau i holi, byddent yn cael negeseuon hynod o ymosodol a chas trwy Facebook.
Oherwydd mai dim ond trwy drosglwyddo arian i’w chyfrif banc yn uniongyrchol roedd modd talu Stanley, nid oedd gan ei chwsmeriaid lawer o ddewisiadau i gael iawndal, a thalodd llawer o gwsmeriaid am nwyddau na chafodd eu derbyn, heb unrhyw ffordd realistig o gael eu harian yn ôl.
Dywedodd Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, Roger Mapleson, “Dyma’r trydydd tro i ni erlyn Tiffany Stanley am yr un gweithgaredd yn union.
“Yr ail dro iddi gael ei chollfarnu, cafodd ddedfryd ohiriedig, ond parhaodd i fasnachu yn syth ar ôl ei chollfarn y tro hwnnw, ac nid oedd gennym ddewis ond erlyn am drydydd tro, a arweiniodd yn anochel at ei charcharu.
“Mae hi wedi twyllo ei chwsmeriaid trwy gymryd arian a methu â darparu’r nwyddau a archebwyd, ac wedi cyfuno hyn gydag ymddygiad ymosodol tuag atynt a’u sarhau dros gyfryngau cymdeithasol.
“Mae’r math hwn o ymddygiad yn gwbl annerbyniol. Rydym wedi ceisio’n galed i ymgysylltu â Stanley ond fe fethodd â dderbyn unrhyw gyngor droeon, gan ein gorfodi i weithredu fel hyn a arweiniodd at eich charcharu.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL