Mae tymereddau eithriadol o uchel wedi’u rhagweld dros yr ychydig ddyddiau nesaf, felly byddwn yn dechrau ein casgliadau biniau ychydig yn gynnar i helpu ein criwiau i osgoi rhan boethaf y dydd.
Rhowch eich biniau neu’ch ailgylchu allan yn gynnar (yn ddelfrydol y noson cynt), fel bod popeth yn barod i’w gasglu erbyn 6am.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros yr Amgylchedd: “Disgwylir i’r tywydd fod yn hynod o boeth yr wythnos hon a bydd y mesurau cynnar hyn o gymorth i’n criwiau. Rhowch eich biniau a’ch ailgylchu allan cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi casgliadau a gollwyd.”
Diolch am eich cymorth – mae ein criw yn ei werthfawrogi’n fawr.



