Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Plant a phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru i elwa o raglen haf a chwaraeon Actif
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Plant a phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru i elwa o raglen haf a chwaraeon Actif
Pobl a lle

Plant a phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru i elwa o raglen haf a chwaraeon Actif

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 22, 2026 2:59 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
sportwales
RHANNU

Erthygl Gwadd – Gogledd Cymru Actif

Buddsoddiad o £50,000 i ariannu gweithgareddau am ddim a digwyddiadau cymunedol yn ystod gwyliau’r haf.

Bydd cannoedd o blant a phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru yn cael y cyfle i fynychu sesiynau chwaraeon a gweithgareddau am ddim yn ystod gwyliau’r haf wedi buddsoddiad o £50,000 gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Andy Dunbobbin a Chronfa Arloesedd Gogledd Cymru Actif. Mae’r cyllid wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad Loteri Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Bydd Rhaglen Haf a Chwaraeon Actif yn darparu gŵyl gymunedol a hyd at chwe wythnos o weithgareddau am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol, gan helpu plant a phobl ifanc i gadw’n actif, adeiladu hyder, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau profiadau bositif yn agos i adra.

Mi fydd y rhaglen yn cael ei ddarparu gan dimau Actif ar draws y chwech awdurdod leol, bydd y rhaglen yn dod â gwasanaethau ieuenctid, clwbiau chwaraeon, ysgolion, cymdeithasau tai a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i ddarparu gweithgareddau wedi’u teilwra i gymunedau lleol.

Gall sesiynau gynnwys gweithgareddau aml-chwaraeon, sesiynau ffitrwydd, gemau tîm ac cyfleoedd cynhwysol sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o oedrannau a gallu.

Nod y rhaglen yw creu manau diogel a chroesawgar i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau’r haf tra’n agor ei llygid i bosibyliadau â chyfleoedd i fod yn actif yn eu cymunedau ymhell heibio’r gwyliau.

“Mae’r haf yn aml yn dod â mwy o amser rhydd i blant a phobl ifanc, ond heb ddigon o gyfleoedd gadarnhaol, gall hyn arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae pob person ifanc yn haeddu cael profiadau fel y rhai a ddarperir trwy Raglen Haf a Chwaraeon Actif. Drwy fuddsoddi mewn partneriaethau fel hyn, rydym yn creu mannau diogel, yn cryfhau rhwydweithiau, ac yn darparu gweithgareddau adeiladol drwy’r gwyliau haf. Mae’r gwaith yma yn hanfodol i leihau agwedd beryglus, gwella diogelwch cymunedol, a sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo’n hyderus ac yn gysylltiedig. Rwy’n falch o weithio gyda Gogledd Cymru Actif i gyflwyno’r rhaglen hon ac edrychaf ymlaen at weld plant a phobl ifanc ledled Gogledd Cymru’n cael y cyfle i allu mynd allan, dod yn ffit, dysgu sgiliau newydd a chryfhau bond gyda’u ffrindiau.” Andy Dunbobbin Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

“Mae’r Rhaglen Haf a Chwaraeon Actif yn enghraifft wych o bartneriaid ar draws Gogledd Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i greu cyfleoedd cadarnhaol i blant a phobl ifanc. Bydd ein chwe tîm Actif, yn gweithio ar draws y chwech awdurdod lleol, yn arwain a cyflwyno’r rhaglen trwy ddod â phartneriaid a chymunedau lleol at ei gilydd i siapio gweithgareddau o amgylch anghenion a diddordebau lleol. Trwy’r dull sy’n seiliedig ar le, rydym yn gobeithio y bydd mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod cyfleoedd i fod yn actif, adeiladu hyder a chadw’n actif yn eu cymunedau y tu hwnt i wyliau’r haf.” Peter Parry, Cadeirydd, Gogledd Cymru Actif

“Rydym am i bob person ifanc gael y sgiliau, yr hyder i fwynhau a datblygu mwynhad oes o chwaraeon. Mae rhagleni fel hyn yn helpu i ddarparu’r profiadau i roi sylfaeni gadarn i hyn.” Joanne Nicholas, Cyfarwyddwr Cymorth Cyflenwad System Chwaraeon a Chysylltiadau Chwaraeon Cymru

Bydd mwy o wybodaeth am y gweithgareddau sy’n digwydd ledled Gogledd Cymru yn cael ei rhannu trwy sianeli awdurdodau lleol a Gogledd Cymru Actif dros yr wythnosau nesaf.

Rhannu
Erthygl flaenorol Armed Forces Day Diwrnod y Lluoedd Arfog
Erthygl nesaf Wonder Quilt of Wrexham 150 mlynedd o Gwilt Rhyfeddod Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English