Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall casgliadau bin gwyrdd leihau yn y gaeaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gall casgliadau bin gwyrdd leihau yn y gaeaf
Pobl a lleY cyngor

Gall casgliadau bin gwyrdd leihau yn y gaeaf

Diweddarwyd diwethaf: 2018/10/17 at 4:25 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
green bin
RHANNU

Ydych chi’n defnyddio bin gwyrdd yn rheolaidd?

Cynnwys
Beth am y biniau gwyrdd ychwanegol?Sut fyddwn i’n cadw golwg ar gasgliadau?

Os ydych chi, darllenwch hwn…

Pan wnaethom gynnal ein hymarfer Penderfyniadau Anodd yn y gaeaf 2017, un o’r cynigion a gyflwynwyd i’r cyhoedd oedd codi ffi am finiau gwyrdd ychwanegol – a weithredwyd yn ddiweddarach.

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Ond daeth llawer ohonoch yn ôl yn dweud er mwyn gwneud defnydd gwell o adnoddau, y gallem leihau’r nifer o gasgliadau bin gwyrdd yn ystod y gaeaf, pan mae’r galw am finiau gwyrdd yn draddodiadol isel.

Rydym wedi bod drwy’r niferoedd, a faint o wastraff gardd mae bobl yn ei adael ar ymyl palmant ac mae casgliadau yn tueddu i ostwng yn sylweddol ym mis Rhagfyr ac nid yw’n cynyddu eto tan fis Mawrth pan mae pobl yn dechrau gwneud mwy o arddio yn y gwanwyn.

Felly rydym yn ystyried lleihau’r casgliadau bin gwyrdd i un y mis yn ystod misoedd Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yn hytrach na’r casgliadau arferol bob pythefnos.

Ar 23 Hydref, cynhelir cyfarfod arbennig o’r Bwrdd Gweithredol, a bydd y newidiadau posibl i gasgliadau bin gwyrdd yn un o’r eitemau a drafodir.

Beth am y biniau gwyrdd ychwanegol?

Os ydych wedi talu am fin gwyrdd ychwanegol, o dan y cynigion hyn byddant yn parhau i gael eu casglu yr un amser â’ch bin gwyrdd am ddim – ni fydd y newid yn nifer y casgliadau yn effeithio ar hynny.  Byddwch yn parhau i gael gwagu’ch biniau gwyrdd.

Sut fyddwn i’n cadw golwg ar gasgliadau?

Os bydd y symudiadau hyn yn cael eu cymeradwyo, byddwn yn diweddaru ein rhybuddion e-bost FyNiweddariad i hysbysu pobl pryd ddylai eu biniau gwyrdd fynd allan yn ystod misoedd y gaeaf.

A byddwn yn rhoi digon o rybudd ar gyfryngau cymdeithasol a blog Newyddion Cyngor Wrecsam cyn i’r symud ddod i rym, i sicrhau nad yw pobl yn methu’r dyddiad casglu.

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Celf i bawb - Canoedd yn mynychu noson gyntaf Arddangosfa Agored Wrexham Celf i bawb – Canoedd yn mynychu noson gyntaf Arddangosfa Agored Wrexham
Erthygl nesaf pint Meddyliwch cyn llyncu peint ar eich talcen…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 5, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall Mawrth 4, 2026
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!

Mawrth 5, 2026
LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English