Ar ddechrau’r mis, penderfynodd ein Bwrdd Gweithredol i gasglu biniau gwyrdd bob mis yn ystod y gaeaf.
Oherwydd bod y galw am finiau gwyrdd yn lleihau’n sydyn ystod misoedd y gaeaf, rydym wedi penderfynu y bydd y biniau gwyrdd yn cael eu casglu unwaith bob mis ym misoedd Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.
Os ydych chi’n dymuno cadw llygad ar bryd bydd y biniau gwyrdd yn mynd allan yn ystod misoedd y gaeaf, cofrestrwch ar gyfer ein hysbysiadau MyUpdate – byddant yn anfon neges e-bost atoch ddiwrnod cyn y casgliad, fel nodyn i atgoffa. Os ydych chi eisoes yn derbyn hysbysiadau MyUpdate, nid oes angen newid unrhyw beth.
Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar staff rheng flaen; bydd yn ein helpu i ryddhau staff i fynd i’r afael ag unrhyw broblem a achosir gan y gaeaf, megis llwybrau graeanu neu gynnal a chadw cyffredinol. A gallwn ddisgwyl fwy o’r rheiny wrth i’r tywydd newid.
“Ymateb cadarnhaol”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu hymateb i’r penderfyniad o gyfyngu casgliadau biniau gwyrdd i unwaith y mis yn ystod y gaeaf – mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol ac mae pobl wedi gweld y rheswm dros ein penderfyniad.
“Mae’r cyfanswm a gesglir mewn biniau gwyrdd yn gostwng yn sylweddol dros fisoedd y gaeaf, bydd cyfyngu nifer y casgliadau i un y mis yn rhyddhau staff i ddarparu cefnogaeth pan mae tywydd garw yn cyrraedd.”
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I