Categori: Busnes ac Addysg

  • Gyrfa mewn TGCh – Cwrdd â’n Rheolwr Gwasanaethau Technegol TGCh

    Gyrfa mewn TGCh – Cwrdd â’n Rheolwr Gwasanaethau Technegol TGCh

    Wrth i chi ystyried gyrfa ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, efallai mai gweithio i gwmni yn ‘Sillicon Valley’ neu gylchfan silicon Llundain yw’r freuddwyd. Ond efallai nad ydych yn ymwybodol o’r yrfa TGCh lwyddiannus sydd yn disgwyl amdanoch ar garreg eich drws.
    Photo of Germaine Hughes
    Gofynnom i Germaine Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Technegol TGCh Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fynegi barn am ei gwaith yn yr Adran TGCh a pha mor werthfawr yw’r gwaith hwnnw.

    Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am weithio yn yr Adran TGCh?
    Rwy’n mwynhau gweithio yn yr Adran TGCh, yn enwedig mewn amgylchedd menter mor fawr, rwyf yn dysgu rhywbeth newydd yn gyson ac mae ystod eang o dechnolegau ar gael er mwyn dysgu a datblygu eich gwybodaeth.

    Gan ein bod yn dîm bychan, mae’r gallu gennym i weithio ar draws yr holl ddisgyblaethau heb gael ein gosod mewn un maes technoleg penodol.

    Mae’r adran TGCh hefyd yn alluogwr allweddol o ran y gwaith ail-lunio sy’n cael ei wneud o fewn yr Awdurdod. Does dim yn rhoi mwy o foddhad na gweld y gwaith technegol rydym yn ei wneud yn gwella ein gwasanaethau rheng flaen gan eu gwneud yn fwy effeithlon wrth ddarparu ar gyfer trigolion Wrecsam.

    Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n awyddus i weithio ym maes TGCh?
    Mae llawer o swyddi gwahanol o fewn yr Adran TGCh, a phob un swydd yn gofyn am gyfres o sgiliau gwahanol. Nid oes rhaid i chi o reidrwydd feddu ar yr holl sgiliau TGCh hyn yn barod, dim ond i chi ddangos eich bod yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu.

    BASWN I’N CARU GWEITHIO GYDA GERMAINE, CYMERWCH FI I’R FFURFLEN GAIS

    Beth yw dy hoff beth am weithio i Gyngor Wrecsam?
    Rwy’n mwynhau gweithio mewn sefydliad mor wahanol sydd â gwasanaeth cwsmer wrth wraidd pob dim y mae’n ei wneud.

    Ar lefel bersonol, rwy’n hoff iawn o oriau gweithio hyblyg Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ynghyd â’r ffaith fy mod yn ddigon ffodus i fod mewn swydd sy’n caniatáu i mi weithio mewn ffordd hyblyg ac oddi cartref o bryd i’w gilydd.

    Fel mam, mae hyn yn golygu fy mod yn treulio llai o amser yn teithio bob dydd a fy mod yn gallu gorffen gweithio’n gynnar er mwyn mynychu rhai digwyddiadau, megis noson rieni a sioe Nadolig yr ysgol, pethau na fyddwn wedi gallu eu gwneud mewn swydd 9-5, sydd yn rhoi cydbwysedd da i mi rhwng fy mywyd gartref a’r gwaith.

    Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am fyw yng Ngogledd Cymru?
    Rwy’n byw ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, sydd tua 10 milltir o Wrecsam ac felly mae cymudo’n hawdd. Rwyf yn hoff iawn o’r ffaith ein bod yn cael y gorau o ddau fyd – mae gennym ddinasoedd, megis Manceinion a Lerpwl, ar garreg ein drws yn ogystal â mynyddoedd Eryri ac arfordir Gogledd Cymru.

    Noder bod y swydd yma bellach wedi cau i geisiadau.

    Swnio’n dda? Rydym yn chwilio am ddadansoddwr technegol profiadol ar hyn o bryd i ymuno â’r tîm TGCh yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ydych chi’n ateb y gofynion?

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=FF461279-E821-4F5E-89CCF43D0BAA3887″] YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO![/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://news.wrexham.gov.uk/”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]

  • Mae ein prosiect gwella tai yn gyfle gwych i brentisiaid lleol.

    Mae ein prosiect gwella tai yn gyfle gwych i brentisiaid lleol.

    Fel y gwyddoch chi, efallai, rydym ni ar hyn o bryd yn buddsoddi llawer iawn o arian i wella ein stoc dai. Ac rydym ni’n buddsoddi £56.4 miliwn eleni yn unig!

    Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr o £7.5 miliwn a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru i helpu awdurdodau lleol i gyrraedd y safon newydd.

    Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod cartrefi yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru.

    Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn cynnwys gosod miloedd o geginau, ystafelloedd ymolchi a systemau gwres canolog newydd, ail-doi, insiwleiddio waliau a llawer, llawer mwy!

    Mae arnom ni eisiau sicrhau bod ein cymunedau a’n heconomi yn gallu elwa cymaint â phosibl ar y buddsoddiad enfawr yma. Rydym ni’n gwneud hyn mewn sawl ffordd, fel penodi contractwyr lleol a’u hannog i recriwtio prentisiaid modern lleol.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Helpu i foderneiddio Plas Madoc

    A dyma’n union sy’n digwydd Mhlas Madoc.

    Mae cannoedd o dai ar y stad yn cael eu moderneiddio ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda.

    Mae dau brentis o Goleg Cambria Wrecsam wedi llwyddo i gael profiad gwerthfawr ar y safle, a fydd yn help garw iddyn nhw barhau â’u gyrfa yn y maes adeiladu.

    Maen nhw ar hyn o bryd ym mlwyddyn gyntaf eu cwrs NVQ mewn gosod brics ac yn cwblhau cynlluniau prentisiaeth gydag Adeiladu Cynaliadwy.

    Profiad gyda’r gweithwyr proffesiynol

    Dywedodd Kieran: “Rydym ni’n treulio deuddydd yn astudio yn y coleg ar Ffordd y Bers a thridiau ar y safle. Mae’n rhaid i ni wneud y gwaith coleg, ond mae cael profiad ar safle gwaith go iawn yn fantais, gan weithio ar dai go iawn gyda gweithwyr proffesiynol.

    “Rydym ni’n cael amrywiaeth o dasgau i’w gwneud, o waith toi i insiwleiddio. Mae’n brofiad gwych ac yn mynd i fod o gymorth i ni wrth i ni ddilyn ein gyrfaoedd.”

    Ychwanegodd Morgan: “Mae’n yrfa dda i’w dilyn oherwydd bod llawer iawn o waith adeiladu i’w gael ar y funud, gyda thai newydd yn cael eu hadeiladu ymhob man. Mae’n mynd yn brysurach, ac mae hynny’n beth da i ni.”

    Partneriaeth lwyddiannus

    Meddai Paul Sinclair, Rheolwr Safle ar gyfer Sustainable Buildings: “Rydym wedi bod yn falch o weithio ochr yn ochr â Chyngor Wrecsam ar eu prosiect gwella tai ac wedi datblygu partneriaeth lwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf.

    “Yn ogystal â’r gwaith toi a inswleiddio wal allanol ar eiddo ym Mhlas Madoc, rydym hefyd wedi gweithio ar eiddo’r cyngor mewn ardaloedd gan gynnwys Llai a Choedpoeth.

    “Rydym yn gwbl ymrwymedig i ddarparu buddion cymunedol yn y meysydd rydym yn gweithio ac rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu recriwtio dau brentis lleol lleol addawol a fydd, heb unrhyw amheuaeth, yn elwa’n fawr o’r gwaith uchelgeisiol a wneir ar ystad Plas Madoc.”

    Bydd buddsoddiad o fudd i’n cymunedau

    Dywedodd yr Aelod Lleol ar gyfer Plas Madoc, y Cyng. Paul Blackwell: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Blas Madoc. Mae’n braf gweld y gwaith yn mynd rhagddo ac rydym ni eisoes yn gallu gweld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud.

    Mae’r prosiect wedi rhoi cyfle i ni fuddsoddi yn y gymuned hon a’n heconomi leol, ac felly rydw i’n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i recriwtio dau brentis modern.

    Yn ogystal â chyflogaeth a hyfforddiant, gall Cynlluniau Mantais Gymunedol hefyd gynnwys cyfraniadau gan gontractwyr i wella cyfleusterau lleol a chyfraniadau i grwpiau cymunedol.

    Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Rydym ni wedi ymgymryd â gwelliannau ar hyd a lled y fwrdeistref sirol ac, o ganlyniad, mae’r contractwyr wedi cefnogi nifer o gymunedau. Mae sawl canolfan gymunedol a chyfleuster lleol wedi eu hailwampio ac mae’r contractwyr hefyd wedi prynu cyflenwadau gan fusnesau lleol a chyflogi gweithwyr lleol.

    “Mae llawer o waith eto i’w wneud er mwyn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ond rydym ni ar y trywydd cywir i gwrdd â therfyn amser Llywodraeth Cymru. Byddwn hefyd yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod cymaint o’r buddsoddiad hwn â phosibl yn dod yn ôl i’n heconomi leol.”

    Yn y prif lun: Morgan Jones (Prentisiaeth Fodern, Sustainable Building), Paul Sinclair (Rheolwr Safle, Sustainable Building), Kieron Yardley (Prentisiaeth Fodern, Sustainable Building), Ceri Postle (Rheolwr Prosiect Ailfodelu Ystâd Plas Madoc, CBSW

    Os hoffech gael gwybod mwy am Fudd-daliadau Cymunedol a Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i wefan y cyngor

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Ydych chi awydd masnachu yn Tŷ Pawb?

    Ydych chi awydd masnachu yn Tŷ Pawb?

    Mae pawb yn paratoi at agoriad Tŷ Pawb, canolfan farchnad a chanolfan gymunedol a chelfyddydol newydd Wrecsam, a fydd yn agor yn ystod dathliadau Dydd Llun Pawb ar 2 Ebrill.

    Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi’r newyddion am yr arddangosfa gyntaf a fydd yn oriel y ganolfan, Ai’r Ddaear yw Hon?/Is This Planet Earth?

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Ond yn ogystal â denu selogion celfyddydol, rydyn ni hefyd yn awyddus i weld a fyddai gan unrhyw fusnesau – yn Wrecsam neu’r tu hwnt – ddiddordeb mewn cadw stondin yn Tŷ Pawb pan fydd wedi agor.

    Os ydych chi’n entrepreneur neu’n fusnes lleol sy’n chwilio am le i werthu, ymunwch â ni i fod yn rhan o deulu Tŷ Pawb drwy gysylltu â Jade Parry yn ein tîm Tai a’r Economi ar 01978 315404.

    “Bydd Tŷ Pawb yn rhan bwysig o ganol y dref.”

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae Tŷ Pawb yn gyfle gwych i fusnesau bach – bydd yn rhan bwysig o ganol y dref, ac yn ganolfan farchnad fodern a deniadol.

    “Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cadw stondin gysylltu â’r tîm Tai a’r Economi.”

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Gwyddoniaeth i roi bywyd newydd i siop ganol tref!

    Gwyddoniaeth i roi bywyd newydd i siop ganol tref!

    Mae yna newyddion gwych i ganol tref Wrecsam wrth i atyniad mawr ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg agor mewn hen siop.

    Fe fydd Techniquest Glyndŵr, yr atyniad ymarferol sydd yn helpu pobl ifanc i roi cynnig ar ryfeddodau’r maes gwyddoniaeth a thechnoleg, yn agor atyniad yn hen adeilad TJ Hughes rhwng Stryt Henblas a Stryt Caer.

    Mae gan Techniquest Glyndŵr safle sefydledig ym Mhrifysgol Glyndŵr eisoes. Diolch i gefnogaeth gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Glyndŵr, mae Techniques Glyndŵr t wedi sicrhau prydles 12 mis o hyd ar hen siop TJ Hughes, gan olygu y bydd y ganolfan darganfod gwyddoniaeth yn dod reit i ganol tref Wrecsam.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Fe fydd y ganolfan newydd yn rhoi cyfle i Techniquest Glyndŵr gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a datblygu cysylltiadau cryfach gyda’r dref. Fe fydd safle Glyndŵr yn cael ei gadw hefyd.

    Fe fydd y cynlluniau ar gyfer y safle newydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan ac er na fydd y ganolfan ar agor drwy’r dydd bob dydd, bydd rhaglen lawn o weithgareddau yn cael eu cynnal i gyd-fynd â digwyddiadau yng nghanol y dref, gwyliau a phrosiectau yng nghanolfan Glyndŵr.

    Dywedodd Mandy Jones, Cydlynydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Techniquest Glyndŵr: “Mae newyddion diweddar yn dangos fod gan Wrecsam economi twristiaeth sydd yn tyfu ac sydd bellach werth bron i £116miliwn.

    “Rydym yn gobeithio gallu cyfrannu ymhellach at y twf yma trwy ddenu ymwelwyr newydd ac os bydd y prosiect yma’n llwyddiannus, efallai y gallwn ni ystyried safle parhaol yng nghanol y dref”.

    “Newyddion gwych i Wrecsam”

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Mae hyn yn newyddion da iawn.

    “Mae Techniquest Glyndŵr yn atyniad addysgiadol, hwyliog a dymunol sydd yn addas i’r teulu cyfan, ac mae ganddo gysylltiad cryf gyda Wrecsam yn barod ynghyd â chynulleidfa leol gref o’r ganolfan ym Mhrifysgol Glyndŵr – fe fydd denu’r gynulleidfa honno i ganol y dref yn hwb ardderchog i Wrecsam.

    “Mae hen siop TJ Hughes wedi cyfrannu’n helaeth at drafodaethau yn ymwneud ag adfywio canol y dref, felly dwi’n falch iawn o glywed y newyddion y bydd Techniquest Glyndŵr newydd yn ei ddefnyddio.

    “Ar ben hynny, fe fydd Techniquest Glyndŵr canol y dref wedi’i leoli ar draws y ffordd i Tŷ Pawb – gan olygu y bydd gennym atyniadau ardderchog ar gyfer y celfyddydau a gwyddoniaeth reit yng nghanol y dref.

    “Mae hyn yn newyddion gwych, ac fe hoffwn ddiolch i Techniquest Glyndŵr am eu penderfyniad i dreialu lleoliad yng nghanol y dref – yn ogystal â’r swyddogion a fu’n gymorth i sicrhau prydles 12 mis o hyd ar y safle”.

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Mae’n Diwrnod Diogelwch y Rhyngrwyd! Edrychwch ar ein hawgrymiadau gwych i aros yn ddiogel pan fyddwch ar-lein….

    Mae’n Diwrnod Diogelwch y Rhyngrwyd! Edrychwch ar ein hawgrymiadau gwych i aros yn ddiogel pan fyddwch ar-lein….

    Ysgrifennir y neges flog hon fel rhan o gyfres o erthyglau i hyrwyddo Wrecsam Ifanc

    Mae’r rhyngrwyd yn lle gwych i gysylltu ag eraill, bod yn greadigol a chanfod pethau newydd.  Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a gaiff ei ddathlu ar draws y byd, yn hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol i blant a phobl ifanc.

    Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i aros yn ddiogel ar-lein:

    • Peidiwch byth â rhoi eich gwybodaeth bersonol i bobl ar-lein
    • Peidiwch â chysylltu â phobl ar-lein ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook a Snapchat os nad ydych yn siŵr pwy yw’r unigolyn
    • Mae’n well cadw ffrindiau ar-lein dim ond ar-lein, gall cyfarfod dieithriaid fod yn beryglus iawn
    • Mae’n bosibl nad yw pobl yn bod yn onest am pwy ydynt
    • Byddwch yn wyliadwrus wrth agor ffeiliau gan bobl nad ydych yn eu hadnabod, gallent gynnwys firws neu gynnwys amhriodol
    • Byddwch yn ofalus am beth rydych yn ei ysgrifennu i bawb ei weld – cwestiwn cyflym i chi eich hun cyn rhoi neges ar-lein yw “a fyddwn i’n argraffu hyn ar grys-t a cherdded i lawr y stryd yn ei wisgo?”
    • Mae gan y rhan fwyaf o wefannau rhwydweithio cymdeithasol osodiadau preifatrwydd gallwch eu newid i sicrhau mai dim ond eich ffrindiau sy’n gallu gweld eich proffil

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cynnig cyfle i amlygu defnydd cadarnhaol o dechnoleg ac edrych ar y rôl rydym i gyd yn ei chwarae wrth helpu i greu cymuned ar-lein well a mwy diogel.

    I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ar y rhyngrwyd, a chyngor defnyddiol arall i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, ewch i wefan Wrecsam Ifanc

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Cymryd Eich Busnes i’r Lefel Nesaf

    Cymryd Eich Busnes i’r Lefel Nesaf

    Ydych chi’n berchen ar fenter fach neu ganolig yng Wrecsam? Hoffech chi ddatblygu’ch busnes ymhellach? Os felly, mae gennym ni’r union beth i chi.

    Os hoffech chi fod ar eich ennill gyda’ch marchnata digidol, drwy ddenu cwsmeriaid a chleientiaid newydd na feddylioch chi erioed y bysech chi’n eu cael, yna gall gweithdy rhad ac am ddim Busnes Cymru fod yn berffaith ar eich cyfer chi.

    Mae’r gweithdai yn cael eu cynnal o fis Ionawr tan ddiwedd mis Mawrth, mewn lleoliadau amrywiol gyda lle i niferoedd cyfyngedig mewn rhai gweithdai. Byddwch yn dysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar eich strategaeth farchnata a gwasgu’r holl botensial posibl allan o’ch cynulleidfa.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Byddwch hefyd yn dysgu sut y gall offer marchnata digidol eich helpu chi ymgysylltu â’ch marchnad darged, sut i ddatblygu strategaeth a fydd yn cynhyrchu gwerthiannau a’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio.

    Dyma weithdy profedig sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda 97% o’r mynychwyr yn dweud bod y gweithdy wedi bod o fudd iddyn nhw a rhai yn datgan eu bod nhw wedi “mwynhau ac elwa llawer ar y cwrs” a oedd yn “llawn gwybodaeth, gyda chynnwys a darpariaeth wych”.

    Os yw’ch busnes chi wedi ei gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yna fe allwch chi fanteisio ar gefnogaeth un-i-un wedi ei theilwra, cynllun wedi ei lunio yn arbennig ar eich cyfer, adolygiad o’ch gwefan ac awgrymiadau ar sut i wella a chynyddu gwelededd eich gwefan. Byddwch hefyd yn derbyn cyngor ar y pecynnau a’r dechnoleg sy’n gallu’ch helpu chi i fod ar eich ennill a gweld gwelliannau yn gyflym.

    Mewn byd sy’n newid yn barhaus, mae marchnata hefyd yn newid ac felly mae’n bwysig eich bod chi ar flaen y gad ac yn dal i ymgysylltu â’ch cynulleidfa a derbyn cyngor arbenigol sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

    Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • 5 rheswm pam y dylech weithio i Gyngor Wrecsam

    5 rheswm pam y dylech weithio i Gyngor Wrecsam

    Nid oes gan lywodraeth leol yr enw da mwyaf hudol fel gweithle, ond gall golwg fod yn dwyllodrus a gall gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gynnig mwy o fuddion na fyddech yn feddwl.

    1. Torri lawr ar deithio

    Wedi cael digon ar eistedd mewn traffig oriau brys? Wedi disbyddu eich llyfrgell podlediad? Mae gweithio’n lleol yn golygu nad ydych yn gorfod gwastraffu amser gwerthfawr yn teithio yn ôl ac ymlaen o’r gwaith.

    Trwy weithio’n agosach at adref gallwch adael yn hwyrach i fynd i’r gwaith, bod adref mewn pryd i roi’r plant yn eu gwelyau, neu yn ôl yn eich pyjamas yn gynt.   Gallech hyd yn oed ymweld â’r deintydd yn eich awr ginio!

    1. Manteision y swydd

    Mae llywodraeth leol yn cynnig pensiwn a gwyliau hael ac nid yw CBSW ddim gwahanol gan gynnig cyflogau cystadleuol ynghyd â chynllun pensiwn llywodraeth leol.

    Gallech hefyd fanteisio ar ostyngiad mewn pris aelodaeth mewn canolfannau hamdden, y cynllun beicio i’r gwaith a gostyngiadau mewn amrywiol sefydliadau.
    Snapchat

    1. Dywedwch ffarwel wrth 9 tan 5

    Gyda Chyngor Wrecsam gallwch weithio oriau hyblyg, felly gallwch ddweud ffarwel wrth 9 tan 5 a mwynhau’r cydbwysedd bywyd/gwaith perffaith.

    1. Datblygwch eich gyrfa a meithrin sgiliau newydd

    Mae Cyngor Wrecsam yn cymryd hyfforddiant a datblygiad parhaus o ddifrif.  Mae’r Cyngor yn ddigon mawr i gynnig twf gyrfa ac yn ddigon bach i ddatblygu sgiliau unigol.

    Cefnogir pob gweithiwr i ddatblygu eu sgiliau, a all gynnwys dilyn cymwysterau a hyfforddiant pellach.

    1. Gwneud gwahaniaeth

    Gweithio mewn swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned eich hun.  Mae gweithio fel gwas cyhoeddus yn golygu eich bod yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella eich cymuned leol.

    Gall olygu eich bod yn teimlo’n agosach at eich amgylchedd a buddsoddi eich oriau gwaith i wneud newidiadau pendant.

    Swnio’n dda? Rydym yn chwilio am ddadansoddwr technegol profiadol ar hyn o bryd i ymuno â’r tîm TGCh yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.   Ydych chi’n ateb y gofynion?

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=FF461279-E821-4F5E-89CCF43D0BAA3887″] YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO![/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://news.wrexham.gov.uk/”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]

  • Hyfforddwr Pêl-Droed Wrecsam yn Ceisio Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

    Hyfforddwr Pêl-Droed Wrecsam yn Ceisio Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

    Mae atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwysig mewn unrhyw dref neu ddinas, ond yn Wrecsam mae un hyfforddwr yn ceisio mynd i’r afael â’r mater drwy chwaraeon.

    Mae Andrew Ruscoe yn hyfforddwr pêl-droed llwyddiannus sydd wedi helpu i godi Brickfield Rangers yn Wrecsam a’i gynllun BR in the Community o dîm cyffredin i dîm pwerus yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

    Mae’r hyfforddwr 31 oed wedi ei eni a’i fagu yn Wrecsam, a bu’n chwarae i Brickfield, Cefn Druids a Chester City yn ei ddydd.

    Mae’n teimlo y gall chwaraeon chwarae rôl hanfodol o ran llywio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac – fel rhan o BR in the Community – mae’n cyflwyno prosiect pêl-droed ar gyfer ysgolion.

    “Nid oes bai ar neb, ond rwy’n meddwl bod plant yn cael eu harwain i ymddwyn yn wrthgymdeithasol weithiau”, meddai Andrew.

    “Felly rwy’n meddwl mai dyma’r amser gorau i ddechrau cyflwyno’r math yma o waith mewn ysgolion lleol.

    “Os gall lywio rhai plant drwy eu cynnwys mewn gweithgareddau pêl-droed, yna rwy’n barod i wneud hynny. Bydda i’n gwneud hynny i ysgolion am ddim.”

    Ffordd wych o gynnwys plant

    Ysgol Gynradd Brynteg yw un o’r ysgolion sy’n cymryd rhan.

    Meddai’r athro Blwyddyn Chwech, Shaun Valentine: “Mae’n rhaid mai dyma’r trydydd neu’r pedwerydd tro i Andy ddod i’n hysgol ac mae o bob amser yn wych, ond roedd yn grêt ei gael yn yr ystafell ddosbarth am ran o’r sesiwn y tro hwn hefyd.

    “Rydyn ni’n methu aros i gael bod yn rhan o’r prosiect ac yn teimlo bod defnyddio diddordeb mewn pêl-droed yn ffordd wych o gynnwys plant yn y drafodaeth ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, am nad yw’n rhywbeth y bydden ni’n ei gynnwys yn y cwricwlwm fel arfer.

    “Roedd y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn ennyn diddordeb y plant yr holl amser, tra’n cyfleu negeseuon pwysig iddyn nhw – nid yn unig o ran beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol – ond hefyd yr effeithiau posibl ar y gymuned.”

    Gwreiddiau cymunedol

    Nid dyma’r tro cyntaf i Andrew ddefnyddio pŵer pêl-droed i helpu pobl a chymunedau.

    Yn ogystal â helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Andrew yn cynnal prosiectau i helpu i fynd i’r afael â materion iechyd, hyrwyddo pêl-droed i ferched, pêl-droed cerdded a llawer mwy.

    A bellach mae 32 o dimau yn cynrychioli Brickfield. Er na ddaeth heb rywfaint o ofid, meddai cefnogwr CPD Wrecsam.

    “Gall clybiau fel Brickfield Rangers ddarparu llawer”, meddai Andrew.

    “Dywedodd llawer ar y dechrau na fyddai cynllun pêl-droed yn gymuned a thîm amateur trydedd haen yn gweithio, ond fe ddywedais i y byddai ac rwyf wedi profi y byddai.

    “Rwy’n teimlo angerdd i roi yn ôl i bobl a’r gymuned.”

    Mae Brickfield wedi ennill gwobr Clwb Cymunedol Cymreig y Flwyddyn yn y gorffennol, ac mae Andrew wedi ennill gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn yng ngwobrau chwaraeon Cyngor Wrecsam yn 2016, ynghyd â Gemma Owen o Racecourse Foundation CPD Wrecsam.

    Am wybod mwy am BR in the Community? Cliciwch yma 

  • Mae ein gwasanaeth TGCh eich angen chi!

    Mae ein gwasanaeth TGCh eich angen chi!

    Noder bod y swydd yma bellach wedi cau i geisiadau.

    Wedi cael digon o gontractau tymor byr? Wedi colli diddordeb yn eich swydd bresennol?

    Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rydym yn chwilio am ddadansoddwr technegol profiadol i ymuno’r tîm isadeiledd TGCh talentog.

    Beth allwn ni ei wneud i chi?

    Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm ag ystod o sgiliau a fydd yn ail-lunio’r gwasanaeth ar gyfer ein gweithwyr a’n cwsmeriaid dros y blynyddoedd nesaf.

    Ychwanegwch at eich gyrfa a meithrin doniau newydd mewn amgylchedd sydd yn ddigon mawr i gynnig twf gyrfaol ond yn ddigon bach i ddatblygu sgiliau unigol.

    FEDRAI DDIM AROS, CYMERWCH FI I’R FFURFLEN GAIS.

    Beth allwch chi ei wneud i ni?

    Ydych chi’n gallu arddangos gwybodaeth a phrofiad o weithio mewn amgylchedd TGCh prysur?

    Byddwch yn darparu, cefnogi a chynnal cynnyrch a gwasanaethau gwahanol sydd ar y cyd yn ffurfio gwasanaeth cyfrifiadurol dibynadwy a chost effeithiol i gefnogi anghenion busnes yr awdurdod.

    Er y cefnogir ystod eang o dechnolegau gan y tîm, byddai profiad o ddefnyddio technoleg Cisco, Rhwydwaith Ardal Eang, Rhwydwaith Ardal Leol a Di-wifr yn fanteisiol yn ogystal â gwybodaeth am Firewall, UTM a datrysiadau diogelwch eraill.

    Rydym eich angen chi!

    Os y gallwch ddarparu gwasanaethau cynnal o ansawdd a gyda lefel uchel o arloesi a chreadigrwydd wrth ddatrys problemau technegol neu ddatblygu atebion yna rydym eich hangen chi.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=B38FFAF4-F73B-8813-AB9420BE21DD6105″] YDW! RYDW I EISIAU YMGEISIO![/button]
    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://news.wrexham.gov.uk/”]NA, MI WNÂI ANWYBYDDU’R CYFLE RHAGOROL HWN[/button]

  • A hoffech chi’r lleoliad gwych hwn?

    A hoffech chi’r lleoliad gwych hwn?

    Ydych chi’n dymuno ehangu eich busnes arlwyo? Mae Cyngor Wrecsam â’r eiddo perffaith i’w osod o ganol Chwefror 2018 ymlaen.

    Yn berffaith ar gyfer rhedeg caffi, mae’r cownter arlwyo i’w gael yn Neuadd Croesnewydd ar y Parc Technoleg ac yn elfen ganolog o’r ardal.

    Mae’n berffaith i unrhyw un sy’n edrych i ddechrau neu ddatblygu busnes g yda chegin â llawer o offer gyda’r holl hanfodion sydd eu hangen arnoch i redeg busnes arlwyo llwyddiannus.

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Mae modd prynu offer ychwanegol yn uniongyrchol gan y tenantiaid sy’n gadael, maent yn lleihau eu busnes ar ôl degawd o fasnachu llwyddiannus yn yr eiddo.

    Mae’r caffi yn yr atriwm ac yn cysylltu Neuadd Croesnewydd ei hun gyda Sefydliad Meddygol y GIG.

    Gyferbyn ag Ysbyty Maelor Wrecsam a’r ganolfan i lawer o feddygfeydd meddygol a thechnegol o’i amgylch, mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cwsmeriaeth reolaidd gan bobl broffesiynol ac ar agor i’r cyhoedd hefyd.

    Gyda 533.79 troedfedd sgwâr o botensial, gallwch fanteisio ar gyfle gwych i fod yn rhan o gymuned o unigolion gweithgar gan ddarparu gwasanaeth gwerthfawr.

    Mae ardal y caffi gyda lle i bron iawn 60 o bobl, neu ar gyfer bwffe gall fwydo hyd at 100 o bobl……sy’n golygu y byddwch gam o flaen y gweddill yn ystod prysurdeb amser cinio.

    Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle gwych hwn ac eisiau rhagor o wybodaeth cysylltwch trwy anfon neges e-bost (ruth.hamer@wrexham.gov.uk) at ein Tîm Ystadau neu ffonio 01978 315673.

    Gallwch hefyd lawrlwytho’r taflen wybodaeth am fwy o fyma.