Categori: Busnes ac Addysg

  • Beth sy’n 21 oed ac yn mynd o nerth i nerth?

    Beth sy’n 21 oed ac yn mynd o nerth i nerth?

    Yn ddiweddar dechreuom, unwaith eto, ymweld â masnachwyr lleol, annibynnol ac un o’r lleoliadau cyntaf i ni ymweld ag ef oedd La Baguette, caffi bychan cyfeillgar sydd wedi’i leoli ar Stryt y Rhaglaw gyferbyn ag Amgueddfa’r Fwrdeistref Sirol a Choleg y Celfyddydau.

    Mae caffi wedi bod yn yr adeilad hwn am 21 o flynyddoedd ac am y chwe blynedd diwethaf Matt McHale, perchennog La Baguette, sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg caffi diweddaraf yr adeilad. Mae’r caffi mewn lleoliad delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n cerdded i’r dref, neu’n cyrraedd ar fws neu drên.

    Mae’r staff yn gymwynasgar iawn ac wrth siarad â hwy, fe ddaeth yn amlwg i ni eu bod yn deall eu gwaith i’r dim a’r cwsmer yw’r brif flaenoriaeth ar bob adeg.

    Derbyniodd La Baguette gydnabyddiaeth yng ngwobrau mawreddog Twristiaeth Wrecsam eleni, pan gipiodd y caffi’r wobr am y Caffi/Ystafell De Orau yn 2017 ar ôl wynebu cystadleuaeth gref o bob cwr o’r fwrdeistref sirol.

    Fel y byddech yn ei ddisgwyl, baguettes yw arbenigedd y caffi gydag ystod eang o lenwadau yn amrywio o gig eidion i Pastrami, caws hufen a mwstard grawn cyflawn, ond mae brechdanau, saladau, cawl, tatws trwy’u crwyn, tost, cramwyth, omlet neu frecwast arbennig hefyd ar gael.

    Mae’r prisiau’n rhesymol iawn, yn enwedig ar gyfer y rheiny ohonom sy’n prynu ein cinio yn y dref ac mae yna hefyd ostyngiad o 10% i fyfyrwyr – syniad da iawn gan fod y caffi wedi’i leoli gyferbyn â Choleg y Celfyddydau!

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Ar hyn o bryd y frechdan fwyaf poblogaidd yw’r Frechdan Nadolig Arbennig “twrci wedi’i rostio, bacwn, selsig, sesnin saets a nionyn gyda saws llugaeron” a mins pei am £3.75.

    Mae La Baguette hefyd yn ddigon bodlon i baratoi bwyd ar gyfer ciniawau corfforaethol a bwffes preifat ac rydym eisoes wedi profi’r bwydydd blasus hyn, gan fod y caffi wedi paratoi sawl bwffe ar gyfer y cyfryngau yn ystod cyfrifiadau etholiad – gyda diolch i Wrexham.com.

    Gall marchnata fod yn broses ddrud iawn, yn enwedig i fasnachwr unigol, ond mae La Baguette, ynghyd â llawer o fusnesau eraill yng nghanol y dref, yn cymryd mantais lawn o’r cyfryngau cymdeithasol ac maent yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r holl faterion sy’n ymwneud â chanol y dref.

    “Mae trigolion Wrecsam yn glên a chyfeillgar”

    Gofynnom i Matt roi ei farn ar drigolion Wrecsam ac fe ddywedodd: “Mae trigolion Wrecsam yn glên a chyfeillgar, dyna pam y dewisais brynu’r caffi hwn. Maent yn ffrindiau mawr â’r staff yma ac ni fedrwn ofyn am well pobl i weithio â hwy.”

    Gofynnom hefyd am ei farn ar y cyfleuster celfyddydau a’r farchnad newydd– Tŷ Pawb – ac mae Matt yn croesawu’r fenter newydd hon a ddylai gynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â chanol y dref. Mae hefyd yn awyddus i wybod beth fydd yn digwydd i hen adeilad siop BHS ac adeilad siop TJ Hughes sydd yn wag ar hyn o bryd.

    Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae La Baguette yn enghraifft wych o fusnes sydd yn adnabod ei gwsmeriaid ac yn barod i addasu er mwyn sicrhau bod y cwsmer yn fodlon bob amser. Pob lwc ar gyfer y dyfodol a byddaf yn siŵr o alw heibio’n fuan.”

    Mae La Baguette ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 3.00pm ac ar ddydd Sadwrn rhwng 10.30am a 2.30pm.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6″]HAVE YOUR SAY[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://news.wrexham.gov.uk”]LET OTHERS DECIDE[/button]

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

  • Penderfyniadau Anodd – mynegwch eich barn ar ofal

    Penderfyniadau Anodd – mynegwch eich barn ar ofal

     NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau (01.12.17)

    Oes rhywun annwyl i chi mewn gofal? Neu efallai eich bod yn ofalwr eich hun?

    Neu efallai eich bod yn ofalwr maeth?

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Os felly, byddai’n werth i chi dreulio dwy funud yn darllen y blog isod.

    Penderfyniadau Anodd

    Fel y soniwyd eisoes, rhaid i Gyngor Wrecsam arbed £13 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf.

    Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni edrych ar wneud arbedion effeithlonrwydd yn rhai o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig – neu ddod a rhai gwasanaethau i ben yn llwyr.

    Mae Penderfyniadau Anodd yn ymwneud ag edrych ar y materion hyn.

    Gofal Cymdeithasol i Blant

    Dyma ychydig o’r pethau rydym yn ystyried eu newid o safbwynt Gofal Cymdeithasol i Blant. Mae’r rhain yn cynnwys:-

    • Lleoliadau ar gyfer Plant Sy’n Derbyn Gofal

    Gall fod yn anodd dod o hyd i leoliadau gofal maeth ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth, neu unrhyw blant y mae’n rhaid eu maethu gyda grwpiau o frodyr/chwiorydd.

    Mae un o’r cynigion rydym yn ei ystyried o dan Penderfyniadau Anodd yn awgrymu ein bod yn cynyddu’r ffioedd rydym yn ei dalu i ofalwyr maeth sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor, gan leihau faint rydym yn ei wario ar leoliadau annibynnol. Gallai’r cynnig hwn hefyd ychwanegu at gapasiti’r gwasanaeth drwy gynyddu nifer y gofalwyr maeth sydd ar gael i blant yn Wrecsam.

    • Grantiau Cynaliadwyedd Gofal Plant

    Mewn rhai achosion, mae’r Cyngor yn talu Grantiau Cynaliadwyedd Gofal Plant i ddarparwyr gofal plant preifat er mwyn eu helpu i gadw’u busnesau yn gynaliadwy. Un o’r cynigion o dan Penderfyniadau Anodd yw ein bod yn dwyn y taliadau grant hyn i ben.

    • Hyfforddiant Gofal Plant a Ariennir gan y Cyngor

    Fel awdurdod lleol rydym yn darparu cyllid er mwyn hyfforddi darparwyr gofal plant preifat – mae hyn yn cynnwys pethau fel Cymorth Cyntaf, hylendid bwyd a diogelu.

    Cynigir ein bod yn dwyn y cyllid hwn i ben, fyddai’n golygu y byddai’n rhaid i ddarparwyr sector preifat ddod o hyd i gyllid o ffynonellau eraill.

    Gofal Cymdeithasol i Oedolion

    Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn faes eang iawn, ac rydym am ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy, fforddiadwy sy’n diwallu anghenion oedolion diamddiffyn, gan rhoi mwy o ddewis a rheolaeth iddynt o ran sut mae eu hanghenion yn cael eu diwallu.

    Y cynigion ar gyfer y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol I Oedolion yw:

    • Cyfleoedd Dydd a Gwaith

    Ar hyn o bryd rydym yn cynnal adolygiad o ran cyfleoedd gwaith a gynigir i oedolion sydd ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, nam ar y synhwyrau ac anghenion iechyd meddwl.

    Rydym am wybod a ddylai’r tîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion barhau i redeg y prosiectau hyn, ac os oes modd i ni edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli.

    Byddwn hefyd yn adolygu gwasanaethau dydd Prosiect Gardd Furiog Erlas a Chanolfan Ddydd Cunliffe, a byddwn hefyd yn ystyried adleoli staff sydd o fewn ein safle Greenacres.

    • Taliadau Uniongyrchol

    Mae Taliadau Uniongyrchol yn rhoi i bobl sy’n gymwys i dderbyn gofal neu gymorth ddewis eu cyllidebau eu hunain, gyda neu heb help – ac mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt dros pryd a sut maent yn derbyn gofal, a phwy sy’n ei ddarparu.

    Rydym yn edrych ar ffyrdd o hwyluso rheolaeth o Daliadau Uniongyrchol ac rydym yn adolygu’r gwasanaethau cefnogi sydd gennym ar waith.

    • Gwasanaethau Seibiant

    Mae gwasanaethau seibiant yn rhoi seibiant i ofalwyr o’u rôl, ac rydym yn darparu’r gwasanaeth hwn drwy gwmnïau sy’n gallu darparu gwasanaethau gofal yn y cartref. Ein cynnig yw ein bod yn peidio defnyddio darparwyr gofal cartref ac yn comisiynu gwasanaeth newydd, yn cynnig darpariaeth hyblyg sydd a chost mwy cynaliadwy.

    Rydym hefyd wedi llwyddo i sicrhau grant i adeiladu estyniad  i adeilad Park View, ein cyfleuster seibiant arbenigol ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu ac anableddau corfforol. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gynyddu’r lefel o wasanaethau seibiant arbenigol sydd ar gael, a gallai hefyd fod o gymorth i gynhyrchu incwm gan y byddai’r gwasanaeth ar gael i’r Bwrdd Iechyd ac Awdurdodau Lleol eraill.

    • Adolygu Gwasanaethau Gofal a Chefnogi

    Byddwn hefyd yn edrych ar yr holl wasanaethau rydym yn eu darparu i bobl o ran gofal a chefnogaeth, ac edrych am ddulliau amgen o wneud yn siŵr fod eu hanghenion yn cael eu diwallu, a sicrhau nad yw gwasanaethau yn cael eu gor-ddarparu.

    Bydd rhan o hyn yn cynnwys adolygu Cymorth Gwaith Prosiect, gwasanaeth un i un sy’n galluogi pobl i reoli eu bywydau ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth hwn yn cael ei brynu gan ddarparwyr gofal cartref – cynigir adolygu Cymorth Gwaith Prosiect a ffyrdd llai costus o ddarparu gwasanaethau, fel Taliadau Uniongyrchol a Rhannu Bywydau.

    • Byw â Chymorth

    Rydym yn cynnig adolygu Byw  Chymorth – sy’n cynnig cymorth a llety i bobl sydd â lefelau uchel o anghenion – er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy.

    Mae Byw  Chymorth yn galluogi pobl sydd â’u tenantiaethau eu hunain ac sy’n byw gyda chymorth yn eu cartrefi eu hunain, yn aml wedi eu cefnogi gan dîm o bobl sy’n darparu cymorth i’r unigolyn a’u cyd-denantiaid. Mae hyn yn cynnwys aelodau o staff sy’n cysgu mewn dros nos.

    Rydym yn cynnig adolygu’r gwasanaeth hwn – bydd pob tŷ yn cael ei adolygu ar wahân, a byddwn yn gwneud y mwyaf o’r defnydd o deleofal a chymorth symudol ble bo’n addas.

    • Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir

    Cynigir ein bod yn parhau â’r gwaith sydd eisoes ar waith i gefnogi unigolion, sydd wedi’u lleoli mewn cartrefi gofal neu wasanaethau y tu allan i’r sir, i ddychwelyd i Wrecsam a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r gwasanaeth Byw â Chymorth fel dewis arall i leoliadau lle bo hynny’n briodol.

    Byddai hyn yn cynnwys adolygu’r defnydd a wneir o’r Gwasanaeth Adfer – ein gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol – a’r posibilrwydd o’i estyn gan weithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd.

    “Wnewch chi ddim gwrando”

    Efallai eich bod yn meddwl nad yw cynghorau yn gwrando ar ganlyniadau ymgynghoriadau o’r fath – ond fe wnewn  ni.

    Mae canlyniadau rowndiau blaenorol o Penderfyniadau Anodd wedi ein arwain o ran sut rydym wedi edrych ar ein cyllideb mewn blynyddoedd blaenorol.

    Mae llawer o bobl yn meddwl na ddylent ymdrechu i ddweud unrhyw beth gan na fyddwn ni “ yn gwrando”

    Ond os na wnewch chi ddweud unrhyw beth, allwn ni ddim gwrando o gwbl – yn syml, does dim gennym i’w wrando arno.

    Ac os na fyddwch yn dweud unrhyw beth, byddwch yn ei adael i bobl eraill ymateb i’r ymgynghoriad ac arwain sut byddwn yn edrych ar y gyllideb dros y ddwy flynedd nesaf.

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn lleisio eich barn – peidiwch methu’r cyfle i ddweud eich dweud.

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

  • Datgelu Logo newydd ar gyfer Tŷ Pawb

    Datgelu Logo newydd ar gyfer Tŷ Pawb

    Mae brandin newydd wedi cael ei ddatgelu ar gyfer Tŷ Pawb, gan ychwanegu momentwm wrth i ddatblygiad hen safle Marchnad y Bobl gyrraedd misoedd olaf y prosiect.

    Mae arbenigwyr brandio o Gaerdydd, Elfen, wedi bod yn gweithio’n galed dros y chwe mis diwethaf i ddylunio brand arbennig ac unigryw. Maent wedi ymgymryd â phroses hir a oedd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus i ddewis enw newydd ar gyfer y ganolfan.

    Mae’r brandin newydd yn ddyluniad glân, trawiadol sydd yn cynrychioli amcanion modern ac uchelgeisiol y farchnad, a’r ganolfan gymunedol a chelfyddydau newydd. Elfen fydd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu arwyddion mewnol ar gyfer Tŷ Pawb.

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Mae’r is-bennawd sydd yn cyd-fynd â’r logo, Marchnadoedd – Celfyddydau – Cymuned yn cyfleu safle Tŷ Pawb fel adnodd diwylliannol cymunedol, gan ddod â’r celfyddydau a marchnadoedd ynghyd o dan yr un to.

    Fe fydd Tŷ Pawb yn agor i’r cyhoedd ar Benwythnos y Pasg 2018 gyda gorymdaith Dydd Llun Pawb a’r arddangosfa gyntaf yn yr oriel newydd, ‘Ai’r Ddaear yw Hon?’.

    Yn ôl datganiad gan y dylunwyr, Elfen: “Mae’r Logo a’r brand wedi cael eu dylunio i adlewyrchu ethos prosiect Tŷ Pawb, sef y cysyniad o bawb yn dod ynghyd i greu cartref bywiog a chyffrous ar gyfer y marchnadoedd, y celfyddydau a’r gymuned leol.

    “Mae pob rhan yn cyfoethogi’r prosiect a bydd yn amser cyffrous i’w weld yn dod yn fyw’r flwyddyn nesaf. Fe fydd 2018 yn flwyddyn wych i Wrecsam”.

    Dwedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae’r logo newydd yn rhan gref o ddelwedd Tŷ Pawb, ac mi fydd y logo yn helpu i ddiffinio’r datblygiad cymuned, celfyddydau, a marchnadoedd newydd, wrth i ni edrych ymlaen at Ddydd Llun Pawb.

    “Diolch i bob swyddog a phartneriaid a chymrodd rhan mewn ffurfio’r logo a’r ddelwedd am Dŷ Pawb.”

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

  • Darganfyddwch sut ydym ni’n gwneud Wrecsam yn lle mwy diogel i fynd am noson allan y Nadolig hwn…

    Darganfyddwch sut ydym ni’n gwneud Wrecsam yn lle mwy diogel i fynd am noson allan y Nadolig hwn…

    Yfed Llai Mwynhau MwyYsgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #yfedllaimwynhaumwy

    Mae’r Nadolig ar ei ffordd ac mae’n siŵr eich bod chi wrthi’n trefnu eich nosweithiau allan gyda’ch ffrindiau, teulu a’ch cydweithwyr. Ac os ydych chi’n bwriadu cael noson allan yn Wrecsam…. yna gwych! Mae arnom ni eisiau sicrhau bod eich noson mor ddiogel a phleserus â phosibl ac rydym ni’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd.

    Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i wneud yn siŵr bod pawb sy’n ymweld â Wrecsam yn cael noson i’w chofio, am y rhesymau cywir. I wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd rydym ni’n cefnogi tafarndai a chlybiau i gydymffurfio â’r gyfraith a gwrthod gweini alcohol i bobl sy’n feddw gaib.

    Mae arnom ni i gyd eisiau cael hwyl a mwynhau noson allan dda yn ein hardal. Fodd bynnag, yn ôl ymchwil diweddar, mae gor-yfed yn cael effaith fawr ar iechyd, yr heddlu a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Er enghraifft, mae 29% o droseddau treisgar yn Wrecsam wedi eu cyflawni dan ddylanwad alcohol, sy’n gallu arwain at siwrne i’r adran frys neu hyd yn oed i gell yr heddlu. Drwy gefnogi tafarndai a chlybiau i wrthod gweini pobl sy’n amlwg yn feddw, ein nod yw gwneud Wrecsam yn lle mwy diogel a phleserus i gael noson allan.

    LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN

    Meddai Dave Jolly, “Nid yw economi gyda’r nos Wrecsam yn darparu amgylchedd sy’n cefnogi, annog nac yn caniatáu ymddygiad meddw. Rydym ni’n gweithio’n galed i leihau ymosodiadau treisgar/rhywiol dan ddylanwad alcohol ac i sicrhau bod pawb yn cael noson allan dda a diogel.”

    Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei olygu i chi…

    • Fe all bar/clwb/tafarn wrthod mynediad/gwasanaeth i chi os ydych chi’n feddw
    • Gallwch dderbyn hyd at £1000 o ddirwy os ydych chi’n prynu alcohol i ffrind sy’n amlwg yn feddw

    Yn ddiweddar bu i Gyngor Wrecsam a’i bartneriaid lansio ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, er mwyn annog pobl ifanc i edrych ar ôl eu hunain drwy yfed llai cyn mynd allan… yn ogystal â chadw cyfrif o faint maen nhw’n yfed unwaith maen nhw’n cyrraedd clybiau a thafarndai Wrecsam.

    I gael rhagor o wybodaeth yr ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy cliciwch yma.

    LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=561&language=cy”]LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN[/button]

  • Cyhoeddi Artistiaid Cofroddion Wrecsam ar gyfer Dydd Llun Pawb

    Cyhoeddi Artistiaid Cofroddion Wrecsam ar gyfer Dydd Llun Pawb

    Mae tîm Oriel Wrecsam/Tŷ Pawb wedi dewis y chwe artist fydd yn creu cofroddion o Wrecsam.

    Bydd agoriad swyddogol canolfan farchnad, celf a chymunedol newydd Tŷ Pawb yn cael ei ddathlu gyda Gorymdaith Dydd Llun Pawb. Wedi ei drefnu gan Focus Wales, bydd yr orymdaith yn cynnwys dehongliad o chwech o straeon poblogaidd Wrecsam.

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Yn dilyn hysbyseb agored, mae’r chwe artist canlynol wedi eu dewis i ddehongli’r straeon:

    Bydd pob artist yn gorfod creu cofrodd yn seiliedig ar chwe stori am Wrecsam. Mae’r straeon ar hyn o bryd yn destun pleidlais, gyda 25 stori i’w dewis o’u plith. I ddarllen bob stori, ac i bleidleisio dros eich hoff un, ewch i: www.owmarchnadybobl.co.uk/dydd-llun-pawb/.

    Mae’r bleidlais yn cau ar 25 Tachwedd.

    Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Roeddem ni wrth ein bodd o weld yr holl geisiadau a gyflwynwyd yn dilyn ein galwad am artistiaid. Roeddem ni’n arbennig o falch o allu dewis nifer o artistiaid lleol ac mae’r rhestr hefyd yn dangos bod pobl o bell wedi cymryd diddordeb yn ein tref.”

    Dwedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol am Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau:  “Mi fuasai’n annog unrhyw un a diddordeb mewn hanes Wrecsam i bleidleisio am y chwe chofrodd a fu’n ar werth yn Nhŷ Pawb.

    “Ysbrydolir y cofroddion gan nifer o gofion o hanes Wrecsam, ac rwy’n sicr bydd gan aelodau’r cyhoedd chofion cynnes ohonynt eu hunain.”

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

  • Hudoliaeth golau’r Hippodrome yn dod i Tŷ Pawb

    Hudoliaeth golau’r Hippodrome yn dod i Tŷ Pawb

    Mae golau sinema disglair o orffennol Wrecsam yn awr wedi cymryd ei prif le yng nghyfleuster y celfyddydau, marchnadoedd a chymunedol newydd.

    Bydd golau Art Deco mawr oedd yn arfer hongian o’r nenfwd yn yr hen Hippodrome ar Stryd Henblas yn cael defnydd yn Tŷ Pawb, y datblygiad celfyddydau, marchnadoedd a chymunedol newydd ar Stryt Caer/Stryt y Farchnad.

    Cafodd y golau ei osod yn yr hen Hippodrome yn 1961, ac arhosodd yno nes i’r sinema gau yn 1997.

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Cafodd y golau ei gadw gan Graham Lloyd a John Davies, Hanes Wrecsam, ar ôl i aelod o wirfoddolwyr radio Wrexham FM/Cyfryngau Cymunedol Wrecsam ei achub, oedd wedi eu lleoli mewn ystafelloedd uwchben yr hen Sinema Hippodrome.

    Fel ceidwaid y golau, roedd Mr Lloyd a Mr Davies eisiau gweld y darn gosod Art Deco yn dychwelyd i’w ysblander a’i arddangos mewn lle cyhoeddus yn Wrecsam.

    Mae’r gola wedi cael ei hosod ar drawst dur newydd yn Arcêd y De yn hen Farchnad y Bobl, ac mi fydd yn cael ei arddangos unwaith y bydd y cyfleuster yn ailagor fel Tŷ Pawb.

    “Llawer o bobl yn ymwneud â’r gwaith”

    Dywedodd Graham Lloyd, Hanes Wrecsam:  “Rydym yn gwybod bod gan bobl Wrecsam atgofion melys am hen olau’r Hippodrome, ac mae’n atgoffa pobl am ddyddiau da’r Hippodrome ei hun.

    “Felly, roeddem bob amser yn awyddus i’w adfer a’i roi mewn lle cyhoeddus y gall y cyhoedd ei weld – felly rydym yn falch iawn, iawn ein bod yn cael y cyfle i’w osod yn Tŷ Pawb.

    “Mae llawer o bobl wedi cyfrannu at y prosiect hwn ac mae angen diolch iddynt i gyd – gan gynnwys Wrexham Sandblasting, Gwasanaethau Trydanol RJS a Chwmni Plastig Wrecsam, pob un wedi cyfrannu at adfer y golau.

    “Hoffem ddiolch hefyd i gyn geidwad y golau, Mat Price a’r noddwyr Siop Gemwaith Martin Rees a John Davies.

    “Llawer o ddiolch hefyd i bawb yn Tŷ Pawb a Chyngor Wrecsam, sydd wedi caniatáu i’r gwaith hwn ddwyn ffrwyth.”

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn falch iawn i allu cadarnhau y bydd y golau Art Deco oedd wedi’i osod yn yr hen Hippodrome yn cymryd ei le yn Rhodfa’r De fel rhan o Tŷ Pawb.

    “Roeddem eisiau dilyn hyn fel opsiwn ar ôl derbyn adborth cryf gan y cyhoedd, yn dweud eu bod yn dymuno gweld yr hen olau yn symud i Tŷ Pawb.

    “Rydym yn gwybod fod gan lawer o bobl yn Wrecsam atgofion melys o’r Hippodrome, ac yn cofio’r golau fel un o’i nodweddion mwyaf amlwg – felly, rydym yn falch o allu cysylltu gorffennol Wrecsam gyda’i ddyfodol drwy gael y golau yn Tŷ Pawb.

    “Hoffwn ddiolch i Mr Lloyd yn Hanes Wrecsam am ei gymorth gyda’r prosiect hwn hefyd ac adfer y golau, a’r anrheg o’r golau.”

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

  • Dyma sut olwg sydd ar Tŷ Pawb – cymerwch olwg tu mewn

    Dyma sut olwg sydd ar Tŷ Pawb – cymerwch olwg tu mewn

    Mae gwaith ar Tŷ Pawb – y ganolfan gelfyddydau, marchnadoedd a chymunedol newydd gwerth £4.2 miliwn yn hen Farchnad y Bobl ar Stryt Caer yn dod yn ei flaen, gyda’r cyfleuster newydd i agor ar Ddydd Llun Pawb ym mis Ebrill.

    Rydym ni yn Newyddion Cyngor Wrecsam wedi cael cyfle i edrych o gwmpas gwaith parhaus ar y safle, gyda gwaith strwythurol ac adnewyddu wedi’i wneud gan Wynn Construction – gweler rhai o’r lluniau isod.

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Mae ardaloedd stondinwyr unigol wedi’u hadeiladu a’u rhannu, ynghyd ag ardaloedd agored a’r brif oriel.

    Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar ffenestr a mynedfa deulawr, a fydd yn caniatáu mynediad a golau i’r adeilad o Stryt y Farchnad.

    Mae peintio hefyd wedi dechrau ar du allan yr adeilad, gyda rhagor o waith adnewyddu i ddod.

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn gwybod y bydd gwaith yn Nhŷ Pawb o ddiddordeb i’r cyhoedd, a bod pobl yn awyddus i wybod beth sy’n digwydd y tu mewn i’r adeilad wrth i waith gael ei wneud.

    “Rwy’n falch iawn o adrodd bod gwaith yn datblygu yn unol â’r amserlen, ac rydym yn dal i fod ar ein targed ar gyfer ein hagoriad swyddogol ar Ddydd Llun Pawb.”

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

  • Acoladau Cymraeg i ysgolion cynradd

    Acoladau Cymraeg i ysgolion cynradd

    (Lluniwyd – Siwan Meirion, Rheolwr Effeithiolrwydd Addysg ac y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl am Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau, gyda plant o’r ysgolion cynradd buddugol)

    Fel y soniwyd yn y blog hwn o’r blaen, mae yna ddigon yn digwydd yn Wrecsam ac ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru i feithrin yr iaith Gymraeg.

    Cafodd plant ysgol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint eu gwobrwyo’n ddiweddar am eu hymdrechion gwych i ddefnyddio’r Gymraeg – ac nid yn yr ysgol yn unig.

    Cafodd ysgolion ar draws Wrecsam a Sir y Fflint wobrau am eu hymdrechion i feithrin a hybu’r iaith Gymraeg.

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Cafodd Gwobr Arian y Siarter Iaith ei chyflwyno i dair ysgol ar ddeg ar draws y ddwy fwrdeistref mewn seremoni yn Ysgol Bro Alun, gyda disgyblion ac athrawon yn mynd ar y llwyfan i dderbyn eu gwobrau.

    Mae Siarter Iaith yn set o amcanion a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o annog mwy o ddefnydd cymdeithasol o’r iaith Gymraeg ymhlith pobl ifanc, gan sicrhau mai nid yn yr ystafell ddosbarth yn unig y defnyddir y Gymraeg.

    Roedd pob un o’r ysgolion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau i gael disgyblion i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn amlach, a chafodd disgyblion gyfle i roi eu barn.

    Yn ogystal â phobl bwysig o’r ddau awdurdod a chynrychiolwyr o Urdd Gobaith Cymru a Menter Iaith, roedd Lois Cernyw ac Oli Kemp, darlledwyr Heart FM hefyd wedi ymweld i’w llongyfarch.

    Yr ysgolion a dderbyniodd y wobr arian:

    Wrecsam

    • Ysgol Bro Alun
    • Ysgol Plas Coch
    • Ysgol ID Hooson
    • Ysgol Bodhyfryd
    • Ysgol Bryn Tabor
    • Ysgol Min y Ddol
    • Ysgol Cynddelw
    • Ysgol Llanarmon DC

    Sir y Fflint

    • Ysgol Croes Atti
    • Ysgol Glanrafon
    • Ysgol Terrig
    • Ysgol Mornant
    • Ysgol Gwenffrwd

    Yn y seremoni, roedd plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda chydlynwyr o’r Urdd.

    Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, Cyngor Wrecsam: “Llongyfarchiadau i’r holl ysgolion hynny wnaeth dderbyn y wobr Siarter Iaith – y staff a’r disgyblion.

    “Maent wedi gwneud llawer o ymdrech ar gyfer eu hamcanion Siarter Iaith, ac mae pob ysgol wedi gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau fod disgyblion yn defnyddio’r Gymraeg ymhlith ei gilydd yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth.  Mae’r disgyblion hefyd wedi cael cyfle i ddysgu mwy am ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg a sut y gallant gyfrannu a dysgu o’r ddau.”

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

  • Gwasanaeth cyswllt bws newydd ar gyfer Canol y Dref

    Gwasanaeth cyswllt bws newydd ar gyfer Canol y Dref

    Ydych chi’n defnyddio’r bws i fynd i Ganol Tref Wrecsam?

    Os ydych chi’n ei ddefnyddio, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn yr isod.

    O ddydd Llun, Tachwedd 20, bydd dau wasanaeth cyswllt Tref newydd yn darparu cludiant ar hyd llwybr allweddol yn cysylltu lleoliadau yng nghanol ac o amgylch tref Wrecsam. Bydd yn cysylltu ag ardaloedd o fewn y dref sydd wedi colli rhai gwasanaethau bws.

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Valentine’s Travel Solutions fydd yn rhedeg y gwasanaethau newydd a byddant yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 9.30am a 5.50pm bob diwrnod.

    Bydd Cyswllt Tref 1 yn gwasanaethu Lôn Rhosnesni, Maesydre, Stryt y Farchnad, Dôl yr Eryrod, y Stryd Fawr a’r Werddon.

    Bydd Cyswllt Tref 2 yn gwasanaethu Ffordd yr Wyddgrug, Parc Technoleg Wrecsam, Pentre Bach, Ffordd Rhuthun a’r Werddon.

    Mae’r amserlen ar gael ar ein gwefan.

    Bydd tocynnau oedolion yn £1.50, a bydd cardiau teithio rhatach yn cael eu derbyn.

    Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yn dilyn cwymp cwmni bws amlwg a’r newidiadau a wnaed gan eraill wrth iddynt adolygu eu rhwydweithiau, mae rhannau o ganol y dref wedi eu gadael heb unrhyw fynediad i gludiant cyhoeddus.

    “Bydd y Cyswllt Tref newydd yn ailgysylltu rhai o’r cymunedau hyn, ac yn darparu gwell mynediad i ganol y dref a’r prif leoliadau manwerthu.

    “Rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i sicrhau fod y gwasanaeth hwn yn weithredol yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, a gallwn ddarparu mynediad i’r cymunedau hynny sydd wedi bod heb wasanaethau bws ers peth amser.

    “Rwy’n gobeithio y bydd y gwasanaeth hwn yn cefnogi’r preswylwyr hynny sydd wedi cysylltu â ni, a chefnogi’r economi leol drwy ddod â mwy o bobl i Ganol Tref Wrecsam.

    Dywedodd Christopher Valentine, Rheolwr Gyfarwyddwr Valentine’s Travel Solutions: “Fel perchennog busnes lleol a chyflogwr, rwy’n falch iawn o lansio’r gwasanaeth bws newydd hwn ar gyfer preswylwyr Wrecsam a’r rhai sy’n ymweld â’r dref.

    “Mae’r cwmni wedi darparu bws newydd wedi ei lunio’n arbennig i gyd-fynd â’r llwybr teithio, ac mae hyn yn agor pennod gyffrous arall i’n cwmni.”

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

  • Oriel o wirfoddolwyr yn cymryd eiddo newydd, mwy o faint

    Mae oriel annibynnol wedi symud i safle newydd – gan nodi lansiad ei arddangosfa agored.

    Dechreuodd Oriel Annibynnol Wrecsam (tWIG) ym Medi 2016 ym mhrif ardal yr hen Farchnad y Bobl, cyn symud i Arcêd y De fis Mawrth eleni.

    Gyda chymorth Cyngor Wrecsam, mae bellach wedi ehangu ei waith i ail leoliad yn Arcêd y  De.

    DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

    Mae’r symudiad hefyd yn nodi dechrau Arddangosfa Agored y grŵp, sy’n caniatáu i unrhyw artist yn Wrecsam gyflwyno eu gwaith i’w arddangos.

    Yn ogystal â darparu lle i artistiaid arddangos eu gwaith, mae tWIG hefyd yn darparu gweithdy celf technegol ac addysgol.

    Mae’r oriel yn cynnal arddangosfeydd celf a chrefft rheolaidd, ac mae’n agored i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim, rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

    Mae Keith Evans, cadeirydd TWIG, yn gyn-athro ac yn ffotograffydd ac arlunydd ar hyd ei oes

    Meddai: “Mae yna awydd mawr iawn ar gyfer celf ymhlith pobl Wrecsam, ac yr ydym am helpu’r rhai na fyddai fel arfer wedi ystyried eu hunain â thalent artistig i gael rhywfaint o hyfforddiant a rhoi cyfle iddynt ddatgloi eu potensial.

    “Ein nod yn y pen draw yw gallu darparu gweithdai am ddim i unrhyw un â diddordeb, fel y gallwn ddatblygu eu creadigrwydd a’u sgiliau – ac mae rhai o’r gweithdai yr ydym wedi eu cynnig hyd yn hyn yn amrywio o sesiynau rhoi cynnig, i sesiynau addysgu mwy ffurfiol dan arweiniad artistiaid a chrefftwyr profiadol.

    “Rydym hefyd yn darparu deunyddiau – nid oes angen i bobl gael eu digalonni gan y gost. Nod cyffredinol ein cynnig yw sicrhau nad yw pobl yn cael unrhyw rwystrau wrth roi cynnig ar gelf.”

    Ychwanegodd Keith: “Rydyn ni’n gweithio llawer gydag Oriel Wrecsam er mwyn hyrwyddo’r celfyddydau – gallwn ni helpu i roi’r gorau i gynnig y celfyddydau yn y dref trwy roi lle ar gyfer amaturiaid ac artistiaid cymunedol ymroddedig i ddangos eu gwaith.”

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r gwaith a wneir gan tWIG yn ardderchog, gan eu bod wedi helpu i annog artistiaid amatur yn Wrecsam i arddangos eu gwaith, a rhoi iddynt rywle lle gallant weithio ar eu sgiliau artistig trwy weithdai a thiwtora.

    “Mae ymestyn i safle newydd yn newyddion da, a gobeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt ehangu eu gwaith ymhellach.

    “Basai’n annog unhryw un sydd a ddiddordeb yn y chelfyddydau i ymweld a’r oriel.”

    Am fwy o wybodaeth ar tWIG a sut mae’n gweithio, ewch i www.wrexhamindependentgallery.wales (dolen gyswllt Saesneg)

    Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]