Categori: Busnes ac Addysg

  • Ap dysgu Cymraeg wedi’i enwebu am wobr genedlaethol

    Ap dysgu Cymraeg wedi’i enwebu am wobr genedlaethol

    Ydych chi neu’ch plant wedi dechrau dysgu Cymraeg yn ddiweddar? Os felly, efallai eich bod wedi defnyddio ap sydd wedi dod yn hynod boblogaidd.

    Cyfres o apiau yw Magi Ann a’i Ffrindiau, sydd wedi’u dylunio i helpu plant ac oedolion fel ei gilydd i ddysgu Cymraeg. Fe’u lluniwyd gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam a chawsant eu lansio ar ddiwedd 2014.

    Maen nhw bellach yn y ras am wobr genedlaethol, ar ôl cyrraedd y rhestr fer yng Nghategori Addysg Gwobrau Loteri Genedlaethol 2017.

    Cyrhaeddodd y prosiect y rhestr fer derfynol ar ôl cystadlu yn erbyn dros 1,300 o ymgeiswyr ledled y Deyrnas Unedig.

    Dros 99,000 o lawrlwythiadau

    Mae’r apiau, sy’n adrodd hanes cymeriad Magi Ann a’i ffrindiau, wedi helpu pobl ar hyd a lled y byd i ddysgu darllen Cymraeg, ac mae’r apiau wedi cael eu lawrlwytho dros 99,000 o weithiau.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Mae yna chwe ap Magi Ann ar gael i’w lawrlwytho am ddim, gyda dros 50 o straeon syml a gemau ar gael i ddysgwyr.

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn falch iawn o weld yr ap hwn yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.

    “Fel y gwelir yn y nodau sydd wedi’u gosod yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, rydym ni fel Cyngor eisiau gwneud popeth y gallwn i annog mwy o bobl, o unrhyw oed, i dreulio ychydig mwy o amser bob diwrnod yn dysgu Cymraeg – ac mae apiau megis Magi Ann a’i Ffrindiau wedi bod yn boblogaidd iawn wrth helpu pobl i ddysgu ychydig o’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

    “Dymunwn bob llwyddiant i’r Fenter Iaith, a gobeithio wir y bydd Magi Ann yn cipio’r wobr.”

    “Mae cyrraedd y rownd derfynol yn gyffrous iawn”

    Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam: “Mae cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol, allan o 1,300 o enwebiadau, yn gyffrous iawn– mae hyn yn newyddion ardderchog, ac yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn.

    “Mae’r apiau hyn yn adnoddau pwysig i blant sy’n dysgu darllen Cymraeg, yn siaradwyr iaith gyntaf ac yn ddysgwyr fel ei gilydd.

    “Mae yna alw amlwg am yr apiau yng Nghymru, ond fe wyddom ni hefyd am deuluoedd sy’n elwa o ddefnyddio’r apiau ar hyd a lled y byd, o Japan i Batagonia, o America i Sweden!”

    I bleidleisio dros Magi Ann:

    Ewch i http://www.lotterygoodcauses.org.uk/project/magi-ann

    Ffoniwch 0844 836 9680 (dyma’r rhif uniongyrchol i bleidleisio dros Magi Ann – mae galwadau’n costio 5c)

    Gallwch Drydar/Aildrydar: #NLANLAMagiAnn ar Twitter

    Neu fynd i dudalen LotteryGoodCauses ar Facebook a phleidleisio trwy adael neges gyda’r hashnod #NLAMagiAnn

    Y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yw 27 Gorffennaf.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.lotterygoodcauses.org.uk/project/magi-ann”]PLEIDLEISIWCH[/button]

     

  • Y hen a’r newydd yn dod at ei gilydd ym Mhenycae

    Y hen a’r newydd yn dod at ei gilydd ym Mhenycae

    Mae gwaith i ddod a dwy ysgol at ei gilydd o dan un to ym Mhenycae yn carlamu yn ei flaen a dylai fod wedi’i gwblhau erbyn yr hydref.

    Mae pedair ystafell ddosbarth yn cael eu hadeiladu ac mae hen adeilad yn cael ei adnewyddu er mwyn dod a’r ysgolion babanod ac iau at ei gilydd am y tro cyntaf

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Mae’r gwaith, sy’n costio £2 filiwn, yn cael ei wneud gan gwmni Reed Construction sydd ar hyn o bryd o fewn y gyllideb ac yn anelu at y targed i ddarfod y gwaith yn yr hydref eleni.

    Cyfunwyd y ddwy ysgol yn 2008 ac maent yn rhannu un pennaeth ac un corff llywodraethol.

    Meddai Cadeirydd y Llywodraethwyr, Cynghorydd Joan Lowe: “Mae’n gyfnod cyffrous dros ben i gymuned ysgol Penycae ac mae’r plant eisoes yn gwneud defnydd o’r ardal chwarae newydd, gyda’r ystafelloedd dosbarth newydd yn cael eu hadeiladu ar yr hen iard chwarae.

    “Mae pawb yn gweithio’n galed, ac mae’n fusnes fel arfer yn yr ysgol wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen. Dros wyliau’r haf dylem weld mwy o gynnydd fyth ac mae pawb yn edrych ymlaen at gael bod gyda’i gilydd am y tro cyntaf.

    “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan am wneud i hyn ddigwydd ym Mhenycae.”

    Noddwyd y gwaith gyda chyllid Ysgolion 21G Llywodraeth Cymru a nawdd cyfatebol gan Gyngor Wrecsam.

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Sefydlu nodau gyda chynllun ar gyfer Addysg Gymraeg – darllenwch fwy

    Sefydlu nodau gyda chynllun ar gyfer Addysg Gymraeg – darllenwch fwy

    Bydd Cyngor Wrecsam yn dadorchuddio’i nodau i helpu cymaint o bobl â phosibl i fod yn ddwyieithog, gyda’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei drafod yr wythnos nesaf..

    Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlinellu sut y bydd Adran Addysg Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid yn parhau i ateb y saith canlyniad a nodwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg Gymraeg.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Mae’r saith canlyniad yn ymwneud â meysydd gan gynnwys darpariaeth, safonau Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith gan gynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio‘r Gymraeg yn gymdeithasol, a hyfforddiant a datblygiad y gweithlu.

    “Pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol”

    Bydd y cynllun yn cael ei drafod gan aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn eu cyfarfod misol ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf.

    Pan fydd wedi’i gymeradwyo, gall y cynllun drafft newid yn dilyn adborth gan Lywodraeth Cymru.

    Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ddogfen pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol, sy’n nodi ein gweledigaeth a’n hamcanion wrth i ni barhau i gyflawni a darparu ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

    “Fel y mae’r weledigaeth a amlinellwyd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ei nodi, rydym eisiau i bob plentyn ac unigolyn ifanc i fod yn siaradwyr dwyieithog hyderus drwy ddarpariaeth addysg, ac yn gallu byw, gweithio a chymdeithasu yn gyfforddus drwy gyfrwng y Gymraeg.

    “Ein nod yw cynyddu’r capasiti ar gyfer llefydd cyfrwng Cymraeg yn ein hysgolion, gyda 401 lle ychwanegol i’w datblygu ledled y fwrdeistref sirol.

    “Cefnogi dysgwyr ar bob lefel

    “Rydym eisiau cefnogi dysgwyr, ar bob lefel, i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg fel y gallant sgwrsio a gweithio yn ddwyieithog yn hyderus a chyfforddus.

    “Mae gwaith ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi’i wneud trwy ymgynghoriad parhaus â nifer o fudd-ddeiliaid a sefydliadau partner, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am y gwaith y maent wedi’i wneud i’w ddrafftio.”

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Trafodaeth i ddod am ysgolion gynradd Cymraeg – darllenwch fwy

    Trafodaeth i ddod am ysgolion gynradd Cymraeg – darllenwch fwy

    Mae angen ymgynghoriad newydd ar gyfrwng iaith ffederasiwn ysgolion gwledig.

    Gellid ceisio barn trigolion wrth i Gyngor Wrecsam edrych eto ar ddarpariaeth addysg Gymraeg yng Nglyn Ceiriog.

    Gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam lansio ymgynghoriad ffres ar ffederasiwn tair ysgol yn Nyffryn Ceiriog.

    Fis Rhagfyr y llynedd, cymeradwyodd cynghorwyr ddechrau ymgynghoriad ar newid cyfrwng iaith Ysgol Cynddelw, Glyn Ceiriog, o gyfrwng deuol Cymraeg/Saesneg i gyfrwng Cymraeg yn unig.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Cynhaliwyd yr ymgynghoriad, y gofynnwyd amdano gan Fwrdd y Llywodraethwyr yn Ysgol Cynddelw, ym mis Ionawr, ac roedd yn cynnwys cyfarfod cyhoeddus gyda budd-ddeiliaid yn yr ysgol tua diwedd mis Chwefror.

    Ar ôl cael nifer o ymatebion gan ymgyngoreion, mae’r Cyngor bellach wedi penderfynu edrych eto ar ddarpariaeth ar draws y tair ysgol yn ffederasiwn Glyn Ceiriog: Ysgol Cynddelw, Ysgol Pontfadog ac Ysgol Llanarmon.

    Opsiynau

    Bydd yr ymgynghoriad newydd yn gofyn i fudd-ddeiliaid a rhieni am eu barn ar y tri opsiwn gwahanol:

    • Cynnal y status quo a chadw’r tair ysgol fel y maen nhw
    • Newid yr iaith yn Ysgol Cynddelw i fod drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, a symud disgyblion cyfrwng Saesneg i Ysgol Pontfadog
    • Cadw statws ffrwd ddeuol yn Ysgol Cynddelw, cau Ysgol Pontfadog a symud disgyblion i Ysgol Cynddelw.

    Bydd adroddiad sy’n amlinellu’r opsiynau yn cael ei gyflwyno gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf.

    “Credwn fod angen ymgynghoriad ehangach”

    Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Ar ôl mynd drwy rownd gyntaf yr ymgynghoriad ar Ysgol Cynddelw yn arbennig, ac ar ôl archwilio barn ymgyngoreion, credwn fod angen ymgynghoriad ehangach er mwyn asesu’r ddarpariaeth addysg o fewn yr ardal.

    “Nid yw trefniadau presennol yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau yn y ffederasiwn, tra byddai niferoedd uwch yn Ysgol Pontfadog – pe byddem yn cymryd mwy o ddisgyblion cyfrwng Saesneg – yn gwella effeithlonrwydd o ran adnoddau.

    “Bydd y rownd newydd o ymgynghori, pe bai’n cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd, yn rhoi mwy o ganfyddiadau manwl i ni, a fydd yn cefnogi gwell darpariaeth ysgol yng Nglyn Ceiriog yn y dyfodol.”

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Cynllun i fuddosddi er mwyn cefnogi’r “gwaith da” yng Nghanol Tref Wrecsam

    Cynllun i fuddosddi er mwyn cefnogi’r “gwaith da” yng Nghanol Tref Wrecsam

    Bydd gwariant newydd ar brosiectau yng Nghanol Tref Wrecsam ac ar draws y Fwrdeistref Sirol yn cael ei amlinellu a’i benderfynu arno gan Gyngor Wrecsam yr wythnos nesaf.

    Roedd cyfanswm gwariant cyfalaf y Cyngor ar gyfer 2016/17 yn cynnwys ystod o brosiectau o Ysgolion i ffyrdd.

    Bydd Aelodau o’r Bwrdd Gweithredol yn edrych ar ddyrannu rhywfaint o danwariant cronfeydd wrth gefn i amrywiaeth eang o brosiectau –  gan gynnwys prynu goleuadau Nadolig newydd ar gyfer canol tref Wrecsam, a buddsoddiad mewn gwelliannau canol tref fel pedwar camera Teledu Cylch Caeedig.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    “…reolaeth ariannol ofalus…”

    Dywedodd y Cynghorydd Pritchard, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu: “Diolch i reolaeth ariannol ofalus a gostyngiad yng nghostau rhai prosiectau cyfalaf, mae gennym ni fel Cyngor gronfeydd wrth gefn pellach i’w buddsoddi ar welliannau yn y Fwrdeistref Sirol.

    “Mae fy nghydweithwyr ar y Bwrdd Gweithredol a minnau, mewn ymgynghoriad â swyddogion, wedi amlinellu’r meysydd hynny rydym ni’n teimlo a fyddai’n elwa o fuddsoddiad bellach, a fydd yn cynnwys gwelliannau a gynlluniwyd i ganol y dref.

    “…annog mwy o bobl i siopa yn y dref…

    Ychwanegodd y Cyng Pritchard: “Rydym yn bwriadu cynnal gwaith fesul cam yng nghanol y dref er mwyn parhau i wella’r amgylchedd er mwyn annog mwy o bobl i siopa yn y Dref. Y cynllun i ddechrau yw canolbwyntio ar un stryd a hoffem rannu ein cynlluniau gyda busnesau lleol i dderbyn adborth a rhoi cyfle i gyflwyno syniadau.

    “Mae’r terfynau amser ar gyfer y gwaith yn dal i’w penderfynu ond y bwriad yw cwblhau’r gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol hon.”

    “Rydym yn gwybod fod llawer o waith da yn mynd yn ei flaen yng nghanol tref Wrecsam, a hoffem wneud cymaint ag y gallwn ni fel cyngor i gefnogi ei adfywiad parhaus, yn unol â’r amcanion a amlinellwyd ym Mhrif Gynllun Canol y Dref.”

    Nodir y gwariant yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2016/17 hyd at 2020/21 (dolen gyswllt i ddogfen Saesneg) a fydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf.

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Ai Cymraeg yw cynhaliaeth eich busnes?

    Ai Cymraeg yw cynhaliaeth eich busnes?

    A yw busnesau yn Wrecsam yn gwneud y defnydd gorau o’r iaith Gymraeg? Allen nhw feithrin cysylltiadau cryfach gyda’u cwsmeriaid drwy ddefnyddio’r Gymraeg?

    Mae Cyngor Wrecsam yn cynnal arolwg, a fydd ar gael i fusnesau ar draws y fwrdeistref sirol, i weld pa ddefnydd maen nhw’n eu gwneud o’r Gymraeg, a p’un a ydynt am gael hyfforddiant pellach yn y Gymraeg.

    Unwaith y bydd yr arolwg wedi’i gwblhau, bydd y cyngor yn ystyried cyflwyno cynllun “Cefnogi’r Gymraeg”, a fyddai’n cydnabod busnesau sy’n awyddus i gefnogi’r Gymraeg.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Datblygwch eich cysylltiadau â chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg

    Gall y Gymraeg fod yn fudd defnyddiol i fusnesau bach sy’n masnachu’n lleol, gan fod cynnig gwasanaeth dwyieithog yn gwella ansawdd eu gwasanaeth cwsmeriaid, a gall helpu i feithrin teyrngarwch cwsmer pwysig.

    Mae Nigel Jones, Cigydd ME Evans Ltd, sydd â’i fusnes ym Marchnad y Cigydd ar y Stryd Fawr, eisoes wedi gweld manteision cael siaradwr Cymraeg ar ei dîm.

    Meddai Mr Jones: “Mae gen i un aelod o staff sy’n siarad Cymraeg sy’n gweithio ar ddydd Sadwrn, ac mae gennym gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg a ddaw i mewn ar ddydd Sadwrn yn arbennig i siarad â’r aelod hwnnw o staff – a bydd archebion yn codi o ganlyniad.”

    Mae’r Gymraeg yn “adnodd wrth gefn”

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Chymuned: “I lawer o fusnesau, gallai’r Gymraeg fod yn adnodd wrth gefn a fyddai’n eu helpu i feithrin cysylltiadau cryfach â’u cwsmeriaid.

    “Fel y nododd Mr Jones, ME Evans Ltd, bydd rhai busnesau yn gweld cynnydd mewn gwerthiant diolch i’r cysylltiadau cryf a ddatblygir gan staff sy’n siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

    “Ac mae busnesau eraill yn gwneud defnydd da o’r Gymraeg wrth helpu i adeiladu eu brand lleol; yn arbennig os ydynt yn defnyddio cynnyrch sy’n tarddu o Gymru.

    “Mae eraill wedi mynegi diddordeb mewn rhoi hyfforddiant Cymraeg sylfaenol i staff er mwyn gallu cyfarch cwsmeriaid yn eu mamiaith.

    “Fel rhan o’n hymrwymiad i weld y defnydd o’r Gymraeg yn cynyddu yn Wrecsam, rydym am weld a allwn helpu cymaint o fusnesau â phosibl i gychwyn sgwrs â’u cwsmeriaid yn Gymraeg.

    “Byddwn yn annog unrhyw berchnogion busnes sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr arolwg.”

    I gael rhagor o wybodaeth neu i lenwi’r arolwg, ewch i’r wefan yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=517&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]LLENWCH YR AROLWG YMA[/button]

  • Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gadael ysgol yr haf hwn?

    Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gadael ysgol yr haf hwn?

    Gadael yr ysgol yr haf hwn? Mae gennych rhai (efallai newid-fywydol) penderfyniadau mawr i’w gwneud.

    Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yr opsiynau.

    Cael swydd neu fynd i’r coleg? Dyma’r dewis traddodiadol y mae miloedd o bobl ifanc sy’n gadael ysgol uwchradd yn gorfod ei wneud bob haf.

    Ond beth pe bai opsiwn arall?

    Beth pe bai’r opsiwn arall oedd eich talu i ddysgu a chael cefnogaeth i ddechrau prentisiaeth?

    Os yw hwn yn swnio’n dda, yna rhaglen Hyfforddeiaeth Llywodraeth Cymru yw’r ateb i chi!

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    Wedi’i anelu at unigolion 16-18 oed, ac wedi’i chyflwyno gan itec Cyngor Wrecsam, mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau yn itec Wrecsam (yn Ystâd Ddiwydiannol Whitegate) a lleoliadau gwaith, gyda dysgwyr yn cwblhau 21 awr yr wythnos gyda lwfans o £30 yr wythnos (a chefnogaeth ariannol tuag at gostau teithio).

    Gall y dysgwyr hyn symud ymlaen wedyn i Hyfforddeiaeth Lefel 1, lle byddant yn gweithio tuag at gymwysterau Lefel 1 mewn meysydd fel Adwerthu, Busnes a Gweinyddu, Gwasanaethau Cwsmeriaid, TGCh, Gofal plant, Cymhwyso Rhifau a Chyfathrebu.

    Mae dysgwyr ar y lefel hon yn gweithio 30—40 awr yr wythnos ac yn cael lwfans o £50 yr wythnos, a chefnogaeth ariannol tuag at gostau teithio.

    Mae llawer sy’n dilyn y llwybr hwn yn cael prentisiaeth neu gyflogaeth yn y diwydiant maent wedi datblygu ynddo, drwy eu lleoliadau gwaith.

    I weld a ydych yn gymwys ar gyfer rhaglen Hyfforddeiaeth itec Wrecsam, cysylltwch ag itec Wrecsam ar 01978 367100 neu anfonwch e-bost at itec@wrexham.gov.uk am fwy o wybodaeth.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”tel://01978367100″]FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL [/button]

  • Diwrnod Chwarae Wrecsam 2017

    Diwrnod Chwarae Wrecsam 2017

    Bydd Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, a gynhelir yng nghanol tref Wrecsam, ddydd Mercher 2 Awst rhwng 12pm a 4pm, ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf (cae Neuadd y Dref).

    Gwahoddir pobl o bob oedran gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn a phobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, i ymuno yn y digwyddiad hwyliog rhad ac am ddim hwn.

    GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

    “…byddwch yn barod i fynd yn wlyb a chreu llanast!”

    Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi: “Rwyf wrth fy modd bod y Cyngor yn cefnogi Diwrnod Chwarae Cenedlaethol eleni, hwn yw’r un diwrnod o’r flwyddyn pan fydd plant a phobl ifanc yn cael cymryd canol y dref drosodd a chael llawer o hwyl hefyd.

    “Os ydych yn y dref ar 2 Awst, byddwch yn barod i fynd yn wlyb a chreu llanast ac ymuno yn y gweithgareddau.

    “Byddaf yn mynychu’r digwyddiad a hoffwn ddiolch i staff a sefydliadau sy’n cefnogi’r digwyddiad am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i lwyddiant digwyddiad eleni eto.”

    Bydd sefydliadau o bob rhan o Wrecsam, sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae, yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae, gan gynnwys hen ffefrynnau megis pwll tywod enfawr, cyfle i daflu dŵr a chwarae â sothach a siglenni rhaff.

    Bwriad y digwyddiad hwn yw pwysleisio hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol.

    Wrth wneud hyn, mae digwyddiad diwrnod chwarae Wrecsam yn rhan o ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i geisio sicrhau bod pob plentyn ar draws y fwrdeistref sirol yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.

    Parcio am ddim

    Y llynedd, daeth tua 3,000 o bobl i ymweld â digwyddiad Diwrnod Chwarae ac rydym yn gobeithio y bydd digwyddiad eleni yn fwy ac yn well, ond yr unig ffordd y gall hynny ddigwydd yw os ddaw pobl draw i ymuno yn yr hwyl.

    Y cyfan rydym ni’n ei ofyn i chi yw dod yn barod i gael hwyl gyda dillad y gallwch eu gwlychu a’u baeddu.

    Yn y gorffennol mae teuluoedd wedi dod â phicnic er mwyn aros drwy’r prynhawn!

    I gefnogi’r digwyddiad poblogaidd hwn, mae’r cyngor yn aberth parcio am ddim mewn pob maes parcio’r cyngor yng nghanol y dref.

    Er mwyn cael gwell syniad o’r mathau o bethau sy’n digwydd ar Ddiwrnod Chwarae, ewch i: www.wrecsam.gov.uk/chwarae a chliciwch ar y ddolen Diwrnod Chwarae i weld lluniau o ddigwyddiadau blaenorol.

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

  • Oes arnoch chi eisiau cychwyn busnes yn Wrecsam? Hoffech chi gymorth am ddim?

    Oes arnoch chi eisiau cychwyn busnes yn Wrecsam? Hoffech chi gymorth am ddim?

    Gall entrepreneuriaid sydd â diddordeb mewn cychwyn busnes yn Wrecsam fanteisio ar lawer o gymorth yn rhad ac am ddim.

    Mae Cyngor Wrecsam, Busnes Cymru a sawl asiantaeth leol arall yn cynnig pob mathau o gymorth i bobl ac arnyn nhw eisiau troi eu breuddwydion yn realiti.

    Mi fyddwch chi’n synnu faint o gymorth sydd ar gael – o gymorth i chwilio am eiddo a chynllunio busnes i hyfforddiant am ddim. Mae cefnogi busnesau newydd yn gwneud synnwyr.

    Gall busnesau newydd cyffrous roi hwb i’r economi leol a chreu swyddi i bobl leol.

    DERBYNIWCH NEWYDDION A GWYBODAETH GAN GYNGOR WRECSAM YN SYTH BIN DRWY FY NIWEDDARIADAU.

    Dyma ychydig o’r llefydd y gallwch chi dderbyn cymorth a chefnogaeth os oes arnoch chi eisiau cychwyn busnes yn Wrecsam.

    1. Cyngor Wrecsam

    Rydym ni wedi bod yn cefnogi busnesau ers peth amser bellach, ac mae gennym ni lawer o adnoddau ag arbenigeddau i’ch helpu chi.

    Gallwch eich helpu i ganfod eiddo, i rwydweithio gyda busnesau eraill a’ch cysylltu â chyflenwyr posibl (yn ogystal â chwsmeriaid).

    Gallwn hefyd eich cyfeirio at hyfforddiant a grantiau.

    Beth am fwrw golwg ar dudalennau’r Llinellfusnes ar gyfer busnesau newydd, neu alw heibio i Lyfrgell Wrecsam i gael sgwrs (mae’r Llinellfusnes i fyny’r grisiau)?

    2. Busnes Cymru

    Y rhyngrwyd. Sut gwnaethom ni fyw hebddi?

    A sut lwyddodd busnesau newydd i fyw heb wefan Busnes Cymru?

    Mae hwn yn adnodd gwych ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried cychwyn busnes yn Wrecsam – ac yn unrhyw le arall yng Nghymru hefyd.
    Fe gewch chi ganllawiau manwl ar bethau fel cynllunio busnes, TGCh a marchnata.

    Yn ogystal fe allwch chi ddarllen straeon llwyddiant gan entrepreneuriaid sydd wedi mentro a defnyddio llwyfan hyfforddiant ar-lein am ddim o’r enw BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein).

    Ar ben hynny, fe gewch chi lwythi o wybodaeth am ddigwyddiadau busnes a gweithdai lleol. Felly i ffwrdd â chi i rwydweithio.

    3. Cyflymu Busnesau Cymru

    Mae technoleg ddigidol (h.y. technoleg ar y we) yn ffactor pwysig ar gyfer unrhyw fusnes – bach neu fawr.

    Dysgu sut i greu gwefan a fydd yn cynyddu eich gwerthiant. Diogelu’ch hun rhag ymosodiadau seiber. Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â chwsmeriaid posibl…

    Gall pethau fel hyn helpu busnesau newydd gychwyn arni.

    Cyflymu Busnesau Cymru yw cangen ddigidol Busnes Cymru ac mae’n darparu gweithdai a chefnogaeth arall i entrepreneuriaid fynd i’r afael â materion digidol.

    Mae yna lawer o fudiadau eraill all ddarparu cefnogaeth hefyd, o golegau a phrifysgolion i ddarparwyr hyfforddiant arbenigol a chyllidwyr.

    Os ydych chi’n ystyried cychwyn busnes yn Wrecsam, cysylltwch â’n tîm cymorth i fusnesau ar 01978 667300.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”tel://01978667300″]FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL[/button]