Categori: Fideo

  • GWYLIWCH: Wythnos Gweithredu Dros Ddementia (Cyfweliad Sally Lindsay)

    GWYLIWCH: Wythnos Gweithredu Dros Ddementia (Cyfweliad Sally Lindsay)

    Trawsgrifiad o Gyfweliad Sally Lindsay

    LG: Helo bawb. Luke sydd yma eto ar gyfer Wythnos Gweithredu Dementia a dwi wrth fy modd yn gallu dweud fod gennym ni westai gwych ar bennod wythnos yma. Mae hi’n un o’r bobl hynny nad oes angen llawer o gyflwyniad gan ei bod yn eicon, ond i’r rheini ohonoch sydd angen proc i’r cof, fe weithiodd fel rhan o’r cast enwog yn “Still Open All Hours” fel Kath Agnew. Ar yr adegau pan nad ydi hi’n teithio ac yn dangos penwythnosau crand i ni, mae hi hefyd yn datrys dirgelion fel y ditectif newydd yn “The Madame Blanc Mysteries”. Mae’n bleser gen i gyflwyno Mrs Sally Lindsay i chi, helo Sally.

    SL: Helo cariad, sut wyt ti?

    LG: Dwi ar ben fy nigon heddiw, sut wyt ti?

    SL: Grêt, ydw grêt.

    LG: Mae’n bleser dy gael di yma a diolch i ti am dy amser heddiw. Pwrpas y gyfres yma rydym ni’n hoffi ei ddweud ydi os ydych chi wedi cyfarfod un person sy’n byw gyda dementia, rydych chi wedi cyfarfod un person sy’n byw gyda dementia, ac i brofi hyn gyda’r gyfres yma, dwi’n mynd i ofyn yr un tri chwestiwn i bump person i ddangos pa mor wahanol ydi’u hatebion. Gyda hynny mewn golwg, elli di ddweud wrthym ni beth yw dy gyfraniad a dy stori gyda dementia os gweli di’n dda?

    SL: Wel, mae’n un hir. Pan oeddwn i…ellai ddim cofio rŵan. Dwi’n meddwl tua 14, 15 oed, fy nain roeddwn i’n agos iawn ati hi, felly roedd hyn amser maith yn ôl. Rydw i’n 49 eleni, roedd yn ddiagnosis cynnar iawn ar gyfer clefyd Alzheimer, un o’r cyntaf a dweud y gwir, a dwi’n meddwl bod hynny yn y nawdegau cynnar. Fe ddirywiodd hi’n gyflym iawn o fod yn fatriarch digrif, anhygoel o’r Gogledd. Gan nain dwi’n cael fy llinellau gorau, roedd hi’n wych ac yn helpu llawer yn y gymuned. Fe weithiodd, roedd hi dal i weithio, dwi’n meddwl ei bod hi tua 65 pan gafodd hi o a dwi’n meddwl e fod o’n ofnadwy adeg hynny gan nad oedd yna gefnogaeth. Nid oedd yna unrhyw help. Nid oedd yna linellau ffôn, dim ymwybyddiaeth, dim byd. Doeddem ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. Fe gafodd hi “Dementia Henaidd”, fel maen nhw’n ei alw o, megis diarhebion ac fe aeth hi i gael seibiant yn ystod y dydd ond doedden nhw methu ymdopi â hi am fod ganddi anghenion gwahanol ac roedd o’n eithaf dychrynllyd a dweud y gwir. O’r hyn a ddigwyddodd a gweld sut y gwnaethom ni ymdopi, nad oedd yn dda iawn, ond fe wnaethom ni’n gorau. Pan ymunais i â “Coronation Street” a chael proffil uchel, fe gysylltodd Cymdeithas Alzheimer’s gan fy mod wedi siarad amdani mewn cyfweliad. Roedd hynny yn 2001. Felly, dwi wedi bod yn Llysgennad i Gymdeithas Alzheimer’s ers hynny, felly mae hi’n un mlynedd ar hugain. Rydw i wedi bod yn weithgar iawn yn y datblygiad, ac mae’r datblygiad at rŵan fel ti’n gwybod dy hun Luke, wedi bod yn anhygoel, mae gennym ni lawer i’w ddathlu. Mae’r hyn sy’n digwydd yn gadarnhaol iawn, dyna sydd wedi digwydd. Felly dyna fy nghyfranogiad i, roedd ar gyfer fy nain, felly bob tro roeddwn i’n gweithio i Gymdeithas Alzheimer’s, bob tro rydw i’n gwneud cyfweliad, bob tro rydw i’n gwneud taith gerdded, mae er cof amdani hi a faint y dioddefodd hi a faint nad oes rhaid ichi bellach, a dyna fy nghyfranogiad i.

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

    LG: Mae hynny’n wych ac allan o rywbeth mor drist, rwyt ti wedi bod mor gadarnhaol bob amser, ac mae’n ysbrydoledig yn ogystal, ac yn hyfryd fod gennym ni rywun fel ti i barhau â’r neges. Fe soniais di amdano’n sydyn gynnau, gan fy arwain yn dwt at y cwestiwn nesaf. Fe sonies di am ddiffyg ymwybyddiaeth pan gafodd hi’r diagnosis gyntaf. Gyda hynny mewn golwg, pa mor bwysig wyt ti’n meddwl ydi digwyddiadau ac ymgyrchoedd fel Wythnos Gweithredu Dementia a sesiynau ymwybyddiaeth dementia yn y gymuned y dyddiau hyn?

    SL: Wel, rydw i bob amser yn disgrifio Alzheimer, mathau eraill o ddementia, fel tswnami yn taro’r wlad yma ac yn debyg i’r ffordd y sylweddolodd pobl am ganser yn y chwedegau, saithdegau, roedd pawb yn ei gael o. Mae wedi bod yn digwydd ers erioed ond mwyaf sydyn mae pawb yn ymwybodol bod rhai aelodau’r teulu nid yn unig yn heneiddio ond yn colli arni. A dweud y gwir, afiechyd ar yr ymennydd ydi o. Mae’n ymwneud â therfynau nerfau, mae’n ymwneud â sut mae’r ymennydd wedi’i osod. Nid “mae rhywun yn heneiddio” yn unig dwi’n feddwl. Dwi ‘di agor canolfannau i bobl fy oedran i ac yn iau sydd â dementia cynnar. Nid mater i bobl hŷn yn bennaf ydi hyn, ond mae’n broblem y bydd un ohonom yn adnabod un person gyda dementia y dyddiau ‘ma. Yn yr un modd rydym ni’n adnabod rhywun sydd â chanser, rydym ni’n adnabod rhywun sydd â dementia, a fy nghenhadaeth i, neu genhadaeth Cymdeithas Alzheimer’s ac elusennau dementia eraill ydi gwthio’r proffil i fyny mor uchel ag ydi ymwybyddiaeth canser. Yn amlwg mae ymwybyddiaeth canser yn hynod bwysig ac yn anffodus mae aelodau o fy nheulu i wedi marw o’r afiechyd hwnnw hefyd, ond gyda Alzheimer’s yn benodol, mae angen i ni godi ymwybyddiaeth ac rydym ni’n gwneud hynny, ymwybyddiaeth fod yna obaith ar gael. Mae yna gyffuriau sydd yn gallu helpu. Mae yna gymunedau sydd yn gallu helpu. Ymwybyddiaeth nad oes rhaid i chi fod ar eich pen eich hun. Fe allwch chi godi’r ffôn ac fe allwch chi ffonio rhywun a dweud “’Dwi allan o fy nyfnder yma, ‘dwi’m yn gwybod beth sy’n digwydd” gan ei fod yn afiechyd heriol tu hwnt i ofalu amdano pan rydych chi’n ofalwr ac yn deulu, rydw i’n ei ddisgrifio fel gweld rhywun a’u hatgof yn diflannu diwrnod ar ôl diwrnod. Felly mae’n rhaid i chi reoli hynny mewn ffordd a chodi ymwybyddiaeth a dweud bod yna rywun sydd yn gallu helpu. Mae hynny’n gwella a dwi’n meddwl bod hynny’n digwydd un dydd ar y tro gyda phethau fel wythnos dementia a theithiau cerdded Alzheimer a’r pethau rydym ni’n eu gwneud. O ran y rhai ar y teledu, nid fi yn unig sydd wrthi, mae yna griw yn y diwydiant sydd yn siarad am Alzheimer’s yn gyson. Mae yna blatfform ymwybyddiaeth. Pan ddaw’r diagnosis, maent yn gwybod bod ganddynt rywle i fynd.

    LG: Yn bendant, ac fe ddwedes di yn wych, mae pethau’n newid ac mae hynny’n beth da. Peth arall mae rhywun fel fi’n hoffi ei wneud pan fyddwn ni’n mynd allan i siarad gyda’r gymuned, rydym ni’n hoffi cael y bobl yma yn y sesiynau i feddwl am weithred gadarnhaol i’r rhai sy’n byw gyda dementia i wneud eu bywyd yn haws. Felly y cwestiwn olaf i ti fyddai, i’r rhai sy’n gwylio adref a phetai ti mewn sefyllfa o gyflwyno sesiwn, beth fyddet ti’n ei argymell fyddai dy weithred gadarnhaol?

    SL: Mae’n gwestiwn diddorol iawn. Mae yna lawer o ddatrysiadau dros y blynyddoedd ond un o’r rhai a gafodd yr effaith fwyaf arna i oedd angor canolfan dementia mewn adain ysbyty yn Lerpwl. Rydw i wedi bod yn mynd o amgylch y wlad yn gwneud hyn ers nifer o flynyddoedd. Gyda mathau penodol o ddementia, rydych chi’n colli eich cof tymor byr i ddechrau. Mae eich cof hir dymor yn eithaf iach. Yr hyn oedd yn anhygoel am y lle yma oedd bod y ward cyfan wedi’i addurno fel cyfnod o’r gorffennol. Felly roedd yna hen luniau, roedd yna arosfan bws o’r hen ddyddiau. Roedd yna rywbeth oedd yn ymarfer y meddwl oedd dal yno. Yn ôl y sôn, fe newidiodd y cleifion dros nos. Roedd yna gerddoriaeth o’r cyfnod y byddent yn ei gofio pan oedd yr ymennydd dal i weithio, cerddoriaeth o’r pumdegau neu bedwardegau. Dyna’r math o beth dwi’n meddwl oedd yn eithriadol o gadarnhaol. Felly pan es i allan i’r lleoliad yna fe effeithiodd arna i. Wrth gwrs dydyn ni ddim yn gweld y rhannau o’r ymennydd sydd yn marw ond rydym ni’n canolbwyntio ar y rhannau o’r ymennydd sydd dal yn fyw. Yn amlwg yn y camau olaf, nid yw hynny’n opsiwn, ond mae bendant yn opsiwn yn y camau cynnar. Felly, mi faswn i’n annog pobl, a’r peth cyntaf y baswn i’n annog unrhyw un sy’n cael y diagnosis cyntaf yw ffonio llinell gymorth, yn syml, ffoniwch linell gymorth. Peidiwch â bod ofn, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Fe gewch chi daflen wybodaeth, peidiwch â bod ofn ei ddefnyddio, ffoniwch linell gymorth achos rydych chi angen rhywun, rydych chi angen cymorth, rydych chi angen bod mewn cymuned. Mae angen i chi fynd i gaffi dementia, mae angen i chi siarad am eich anwylyn roeddech chi’n ei addoli ond sydd yn berson ychydig yn wahanol erbyn hyn. Mae hynny’n rhywbeth i’r gofalwyr a’r anwyliaid gan y gallwch chi fod yn bositif yn ei gylch. Dwi hefyd yn credu y gallech chi chwilio am hen luniau. Ewch i chwilio pa gerddoriaeth roeddynt yn ei hoffi. Ewch i chwilio beth oedd yn eu gorffennol a chredwch chi fi, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i ymarfer y rhan hwnnw o’r ymennydd sydd dal gyda ni. Maent yn gallu ymbleseru yn hynny, dwi wedi bod yn dyst iddo. Roedd yna ward ysbyty arall yr ymwelais ag o, ac roedd yna fabis ffug yno ac roedd llawer o’r merched ar y ward ac roeddynt yn credu eu bod yn rhoi maldod i’w babanod. Roedd o’n eithaf hyfryd, doedd o ddim yn rhyfedd. Roedd yn hyfryd gan eu bod wedi mynd yn ôl i le yn eu meddyliau pan roeddynt yn ofalwyr eto. Felly mae’n ymwneud â darganfod y lle yna gyda phwy bynnag sydd yn eich teulu. ‘Dwi ddim yn gwybod beth fyddai wedi bod i fy mam, fy nain achos yn amlwg doedden ni ddim yn ymwybodol adeg hynny ac mae’n fy nhristau’n fawr, ond mae’n debyg y byddai ‘nôl yn y ffatri pan oedd hi’n gwneud ei hetiau, roedd hi’n wniadwraig ac mae’n debyg y byddai’n ymwneud â pheiriant gwnïo neu phan fyddai’n ddigrif ac yn dweud jôcs drwy’r dydd yn y ffatri. Felly, ceisio dod o hyd i rywle. I fy nhaid er na fu farw o ddementia, ond fe fyddem wedi bod yn chwarae recordiau Perry Como mae’n debyg neu’n siarad am Manchester City, de chi’n gweld be dwi’n ei feddwl? Yn syml, yr hyn roeddynt yn ei garu a’u cerddoriaeth a dwi’n meddwl bod hynny’n beth mor gadarnhaol i’w wneud adref a’i chwarae’n gyson. Mae o wir yn gweithio.

    LG: O bendant, a wir, mae’r negeseuon rwyt ti wedi’u rhoi heddiw yn wych, a dwi’n diolch o galon i ti am dy amser heddiw. ‘Dwi’n siŵr y bydd pawb adref yn cytuno ein bod wedi dysgu rhywbeth o hyn felly diolch yn fawr iawn am dy gefnogaeth a dy amser heddiw.

    SL: Croeso.

    LG: Boneddigion a Boneddigesau, diolch yn fawr i Sally Lindsay a diolch am yr holl gefnogaeth gennych chi. Cymerwch ofal.

    SL: Hwyl fawr.

    Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

  • GWYLIWCH: Wythnos Gweithredu Dros Ddementia (Cyfweliad Alwyn Jones)

    GWYLIWCH: Wythnos Gweithredu Dros Ddementia (Cyfweliad Alwyn Jones)

    Trawsgrifiad Cyfweliad Alwyn Jones

    LG: Helo eto bawb. Luke sy’ ‘ma unwaith eto ac mae Wythnos Gweithredu Dros Ddementia’n parhau. Rwyf yma gyda chyfweliad arall ar eich cyfer heddiw, os ydych wedi bod yn gwylio’r rhai blaenorol, rydym wedi bod yn siarad â rhai gofalwyr yn ein cymuned, rhai gwesteion arbennig iawn, iawn ac nid yw heddiw’n wahanol. Rwyf yma gyda Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Mr Alwyn Jones. Helo Alwyn, sut ydych chi?

    AJ: Helo, bore da Luke, sut ydych chi? Rydw i’n dda iawn, diolch.

    LG: Da iawn, diolch am ymuno â ni heddiw. Fel y gwyddoch mae’n siŵr, ac fel y dywedais eisoes, mae’n Wythnos Gweithredu Dros Ddementia ac rydym yn dod â gwesteion arbennig ynghyd ar gyfer cyfweliadau fel yr un yma rydych yn garedig wedi cynnig ei wneud, gyda’r bwriad o ofyn yr un tri chwestiwn i bump o bobl wahanol i brofi’r ddamcaniaeth ynglŷn â phobl gyda dementia, sef os ydych wedi cwrdd ag un person sy’n byw gyda dementia, rydych ond wedi cwrdd ag un person sy’n byw gyda dementia. Gan gadw hynny mewn cof, mi ofynnaf fy nghwestiwn cyntaf i chi. Dywedwch wrthym amdanoch chi eich hun, beth yw eich rôl a’ch stori gyda dementia?

    AJ: Diolch yn fawr iawn i chi. Felly, fy enw i yw Alwyn Jones a fi yw Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yma yn Wrecsam. Fel cyngor, rydw i’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gallu dangos bod gennym ymrwymiad cryf i’r bobl hynny sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, ac ein bod yn sicrhau bod Wrecsam yn le da, yn le diogel i bobl gyda dementia allu byw a’u bod yn gallu parhau i fyw mor annibynnol â phosib. Fel ein bod mewn sefyllfa i allu darparu’r wybodaeth gywir, y cyngor cywir ar yr adeg gywir. Yn amlwg, fel Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau pan fyddwn angen rhoi gwasanaethau a chymorth statudol i unigolion gyda dementia a gofalwyr, ein bod yn gallu gwneud hynny mewn modd amserol ond hefyd yn bwysicach fyth, ein bod fel cyngor yn gallu rhoi cefnogaeth ar waith i bobl o bwynt diagnosis, cefnogaeth i bobl yn y gymuned ac fel y dywedais, creu tref sydd yn ddiogel i bobl fyw ynddi. Mae’n falch iawn gen i ddweud ein bod wedi llwyddo i gyflawni’r statws o weithio tuag at fod yn awdurdod sy’n deall dementia a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol gan y Gymdeithas Alzheimer’s a ddyfarnodd y statws hwnnw i ni. Rydw i’n credu bod hynny oherwydd ein bod wedi gallu dangos y newidiadau rydym yn eu gwneud i’r gwasanaethau i bobl gyda dementia ar draws Wrecsam a gwneud yn siŵr eu bod yn hygyrch a’i bod yn hawdd i bobl gael y math yno o gefnogaeth. Yn ei hanfod, Luke, fy rôl i yw goruchwylio gwasanaethau gofal cymdeithasol yma. Rydym yn amlwg mewn sefyllfa lle mae angen i ni fod yn cefnogi pobl gyda dementia, boed hynny drwy gefnogaeth, arweiniad a chymorth neu drwy wasanaethau a chymorth ffurfiol y mae angen i ni eu rhoi ar waith ar gyfer yr unigolyn gyda dementia neu’u gofalwyr.

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

    LG: Rydw i’n falch iawn eich bod wedi sôn am y cyflawniad hwnnw am y drydedd flwyddyn yn olynol, oherwydd rwyf wedi ysgrifennu stori am hynny a fydd yn cael ei chyhoeddi hefyd. Braf iawn yw bod yn rhan o’r gwaith a mynd allan fy hun i gynnal y sesiynau ymwybyddiaeth gyda staff ac mae’n gyflawniad arbennig am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn enwedig oherwydd ein bod wedi bod yn meddwl am y pandemig, ond gan ganolbwyntio ar y sesiynau ymwybyddiaeth o ddementia ac wythnosau ymwybyddiaeth o ddementia, yn eich barn chi, pa mor bwysig yw hi fod ymgyrchoedd fel hyn yn cael eu cynnal a pha mor hanfodol ydynt yn y gymuned?

    AJ: Rydw i’n meddwl eu bod yn bwysig iawn i ddweud y gwir. Mae codi ymwybyddiaeth o bobl yn byw gyda dementia a cheisio cael gwared ar rywfaint o’r stigma ac efallai’r elfennau negatif sy’n gysylltiedig â dementia yn bwysig iawn, iawn. Mae arnom angen, mewn ffordd ddiogel a phriodol, rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am ddementia a’r gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud fel unigolion, fel awdurdod ac fel aelod o’r gymuned i fywydau pobl sy’n byw gyda dementia, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth i leihau’r stigma. Yn amlwg, cynhelir yr Wythnos Gweithredu Dros Ddementia rhwng 16 a 22 Mai ac mae’r wythnos hon yn gyfle gwirioneddol i ni rannu’r gwaith rydym wedi’i gyflawni hyd yma fel awdurdod. Mae staff gofal cymdeithasol sydd ar hyn o bryd yn Hyrwyddwyr Cyfeillion Dementia wedi cwblhau nifer o sesiynau deall dementia gydag ysgolion lleol sydd yn bwysig iawn i adeiladu ar genhedlaeth o bobl ifanc sydd â dealltwriaeth o anghenion pobl sy’n byw gyda dementia, felly pan fyddan nhw’n oedolion ac yn mynd yn hŷn bydd y stigma rydym yn siarad amdano yn llai, ac ni fydd yno yn yr un ffordd a bydd gennym gymdeithas fwy gwybodus. Yn syml iawn, Luke, mae’n bwysig iawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig ymhlith ein staff, ond y gymuned a phobl mewn busnesau lleol i wneud byw gyda dementia yn haws a gwneud yn siŵr bod llai o stigma yn gysylltiedig â’r cyflwr.

    LG: Yn sicr, rydw i’n cytuno’n llwyr a gan gadw hynny mewn golwg, mae’n ein harwain yn daclus at y cwestiwn olaf. Yn ystod y sesiynau hyn, rydym yn hoffi gofyn i’r bobl sy’n bresennol feddwl am un weithred bositif y gallent ei gwneud i hwyluso bywyd rhywun sy’n byw gyda dementia. Ar gyfer y bobl sy’n gwylio rŵan, pe gallech ddewis un weithred bositif rŵan, pa weithred fyddech chi’n ei hawgrymu?

    AJ: Mewn gwirionedd, Luke, rydw i’n credu ein bod wedi cyfeirio at hyn rywfaint yn yr ateb diwethaf, sef, gwyddom fod nifer y bobl sy’n byw gyda dementia yn cynyddu a chredir y bydd oddeutu miliwn o bobl yn byw gyda’r afiechyd yn ystod y blynyddoedd nesaf. Fel awdurdod, mae hyn yn gyfrifoldeb ar y cyngor cyfan, nid yn unig ni yma yng ngofal cymdeithasol, a buaswn hefyd yn dweud ei fod, yn ehangach, yn gyfrifoldeb ar gymunedau i gael dealltwriaeth o sut beth yw byw gyda dementia. Yn fy marn i, un peth mawr y dylem ni ei wneud yw meddu ar yr ymwybyddiaeth yna er mwyn i’n hadrannau, y cyngor a chymunedau wneud newidiadau bach a chymryd rhan yn rhai o’r sesiynau deall dementia ac mae hynny’n bwysig iawn oherwydd po fwyaf y byddwn yn hysbysu ynghylch dementia, y lleiaf fydd y stigma a byddwn yn addasu ein gwasanaethau mewn ffordd sy’n sicrhau bod ein gwasanaethau yn deall dementia. Gall pobl gymryd rhan yn y sesiynau cyfeillion dementia drwy gysylltu â commissioning@wrexham.gov.uk. Byddwn yn annog pawb i wneud hynny. Fel rhan o’r wythnos honno, rydym hefyd wedi comisiynu’r bws teithiol sy’n rhoi profiad rhithiol o ddementia a fydd yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Mehefin. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl gael profiad uniongyrchol o effeithiau dementia a byddwn yn hyrwyddo hynny ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol pan fydd y cyfle’n codi. Yn syml, y weithred rydw i eisiau ei chyflawni yw sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwneud pobl yn fwy cyfarwydd â’r cyflwr. Gwneud pobl yn llai ofnus, gwneud pobl yn gyfforddus a gwneud i bobl feddwl am sut maent yn sicrhau bod y gwasanaethau yn gweithio yn y ffordd gywir i gefnogi unigolion gyda dementia, gofalwyr sy’n gofalu am rywun gyda dementia a’i gwneud yn gymdeithas ddiogel i unigolion gyda dementia fyw ynddi.

    LG: Gwych ac mae’n rhaid i mi eich llongyfarch chi a’r tîm am sicrhau’r drydedd flwyddyn yn olynol ac rydym yn siŵr o’i gael y flwyddyn nesaf hefyd, wrth weithio tuag at fod yn awdurdod sy’n deall dementia, felly, da iawn ac unwaith eto, diolch i chi am eich amser heddiw. Rydw i’n siŵr y bydd pawb yn cytuno fod hyn wedi bod yn llawn gwybodaeth oherwydd mae’n bwysig i bobl wybod beth mae eu hawdurdod lleol yn ei wneud iddyn nhw hefyd felly diolch yn fawr iawn am eich amser heddiw a mwynhewch weddill yr Wythnos Gweithredu Dros Ddementia. Diolch yn fawr am ymuno â ni.

    AJ: Diolch yn fawr iawn Luke.

    LG: Gwych, cymerwch ofal. Hwyl. Wel, diolch yn fawr iawn i chi unwaith eto bawb a mwynhewch weddill y gweithgareddau a’r sesiynau ymwybyddiaeth. Unwaith eto, Luke ydw i a byddaf yn cynnal cyfweliad arall yfory felly dewch yn ôl i’w wylio. Diolch.

    Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

  • Byddwch yn ddoeth a chefnu ar y chwynladdwyr: #Pestsmart

    Byddwch yn ddoeth a chefnu ar y chwynladdwyr: #Pestsmart

    Rydym ni’n cefnogi cynllun #PestSmart @DwrCymru i helpu diogelu pobl, dŵr a’r amgylchedd rhag cemegion mewn plaladdwyr.

    Cyflwynwyd y cynllun am fod rhaglen fonitro dŵr arferol @DwrCymru wedi canfod olion o blaladdwyr mewn ardaloedd lle nad ydyn nhw wedi dod ar eu traws o’r blaen. Mae’r lefelau yn rhy isel i achosi perygl i ddŵr yfed, ond fe allen nhw dorri’r safonau dŵr yfed.

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

    Mae #PestSmart yn hybu gwell ffyrdd o reoli plâu, chwyn ac afiechydon planhigion yn eich gardd heb effeithio ar yr amgylchedd.

    Gall plaladdwyr fel chwynladdwyr achosi niwed i bobl a bywyd gwyllt, felly mae’n bwysig cymryd gofal arbennig gyda nhw.

    Eu Cadw’n Ddoeth

    • Cadwch blaladdwyr mewn man diogel sydd y tu hwnt i gyrraedd plant ac anifeiliaid.
    • Prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig. Peidiwch â phrynu plaladdwyr mewn swmp.
    • Darllenwch y label bob tro.

    Eu Defnyddio’n Ddoeth

    • Rhowch y plaladdwyr ar y mannau rydych chi angen eu trin yn unig. Gallai unrhyw blaladdwyr sydd dros ben ganfod eu ffordd i mewn i’r amgylchedd.
    • Defnyddiwch blaladdwyr mewn tywydd braf yn unig.
    • Peidiwch â defnyddio plaladdwyr wrth ymyl peillwyr fel gwenyn neu loÿnnod byw.
    • Gwnewch yn siŵr nad oes yna blant nac anifeiliaid anwes o gwmpas cyn i chi ddefnyddio plaladdwyr.

    Cael Gwared â nhw’n Ddoeth

    • Dylech gael gwared â phlaladdwyr drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y botel.
    • Peidiwch byth â thywallt plaladdwyr i lawr y sinc; dylech fynd ag unrhyw blaladdwyr sydd dros ben i’ch canolfan wastraff leol.

    Rhowch Gynnig ar Ddulliau Eraill

    • Anogwch ysglyfaethwyr naturiol i ddod i’ch gardd.
    • Tynnwch chwyn o’r pridd gyda llaw neu ddefnyddio sylweddau naturiol yn lle plaladdwyr.

    Ewch i wefan #PestSmart i gael canllawiau, blogiau a chyngor am sut i reoli eich gardd heb ddibynnu ar blaladdwyr.

    Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

  • Cyflwynwyd Achos Busnes i atgyweirio’r B5605 Ffordd Newbridge

    Rydym yn falch o gadarnhau fod achos busnes i atgyweirio’r B5605 Ffordd Newbridge bellach wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

    Mae hyn yn dilyn arolygon geo-dechnegol cymhleth a dadansoddiad ofalus o’r costau wrth symud ymlaen i sicrhau bod y ffordd gyswllt hanfodol hon yn gallu cael ei defnyddio.

    Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

    Difrodwyd y ffordd yn ddifrifol ers Storm Christoph y llynedd ac wedi parhau ar gau ers hynny.

    Mae’r ffordd yn darparu cysylltiadau ffordd hanfodol rhwng cymunedau Newbridge a Cefn a’r aneddiadau pellach yn y Waun i’r de a Plas Madog/Rhiwabon i’r gogledd. Mae colli’r ffordd hon yn torri cysylltiad gyda’r cymunedau hyn gan achosi trallod ac anghyfleustra i’r trigolion a’r busnesau yn yr ardaloedd hyn.

    Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant, “Rwy’n falch iawn fod y gwaith hwn wedi ei gwblhau ac yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i edrych yn ffafriol ar yr achos busnes.

    “Mae’r cymunedau a effeithiwyd eisoes wedi aros dros 12 mis gan achosi siwrneiau hir ac anghyfleus. Mae’n ddarn hanfodol o isadeiledd yn yr ardal hon ac hefyd yn llwybr gwyro ar gyfer gwaith ar gefnffordd yr A483. Pan fo’r ffordd hon wedi cau rhaid dargyfeirio traffig trwy Langollen – gwyriad o 15 milltir.

    “Mae’r Aelod Seneddol a’r Aelod o’r Senedd lleol yn awyddus i weld y gwaith atgyweirio yn cael ei ariannu a’i gwblhau cyn gynted â phosib a hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.”

    Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

  • Ydych chi’n 16 oed?  Beth yw eich dewisiadau?

    Ydych chi’n 16 oed? Beth yw eich dewisiadau?

    Ddim yn siŵr beth i’w wneud ar ôl gadael yr ysgol eleni?

    Oedd gennych chi gynllun ar gyfer gadael yr ysgol? Teimlo fel bod y pandemig wedi amharu arnoch chi?

    Rydym yn gwybod fod y pandemig wedi amharu ar addysg, ond rydym eisiau i chi wybod bod yna dal gymaint o gyfleoedd yn aros amdanoch ar ddiwedd blwyddyn 11 – pa un a ydych yn dymuno mynd ymlaen i’r chweched dosbarth, hyfforddiant, coleg neu gyflogaeth.

    Edrychwch ar y fideo hwn i wybod mwy am y nifer o ddewisiadau sydd gennych yn Wrecsam:

    Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

    Dywedodd Donna Dickenson, Pennaeth Atal a Chymorth: “Ar ddechrau’r pandemig, roeddem yn bryderus iawn y byddai pobl ifanc Wrecsam yn gynyddol bryderus am eu dyfodol oherwydd popeth maent yn ei brofi, yn arbennig gyda’r amhariad ar eu haddysg. Roeddem eisiau iddynt wybod er gwaethaf popeth, mae yna dal lawer o gyfleoedd ar ddiwedd Blwyddyn 11 boed hynny yn chweched dosbarth, coleg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

    Dywedodd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaeth Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Yn Wrecsam, rydym yn ffodus iawn i gael ystod o sefydliadau sy’n gallu cefnogi pobl ifanc gyda’u camau nesaf ac mae’r fideo hwn yn atgoffa am bwy a beth sydd ar gael. Mae yna hefyd un rhif ffôn a chyfeiriad e-bost fydd yn ei gwneud yn llawer haws i bobl ifanc wybod sut y gallant gael mynediad i gyngor a chefnogaeth. Mae gennym gymaint i’w gynnig yn Wrecsam ac rydym yn gwahodd pobl ifanc i gysylltu â ni os byddant yn teimlo ar unrhyw adeg eu bod angen cymorth i gynllunio eu camau nesaf.”

    Os ydych eisiau cysylltu â phobl sy’n gallu eich cyfeirio i’r cyfeiriad cywir, gallwch ffonio 01978 295515 neu e-bost getgoing@wrexham.gov.uk.

    Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

  • Diwrnod Hawliau’r Gymraeg: dathlu’r ‘newid byd’ ym mhrofiadau siaradwyr Cymraeg

    Diwrnod Hawliau’r Gymraeg: dathlu’r ‘newid byd’ ym mhrofiadau siaradwyr Cymraeg

    Ar 7 Rhagfyr bydd sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnal un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

    Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am gydlynu’r diwrnod. Bydd degau o sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn ymuno yn y dathliadau drwy hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg a rhannu profiadau o sut mae defnyddio gwasanaethau Cymraeg wedi effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl.

    Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

    Safonau’r Gymraeg sydd wedi creu’r hawliau, ac erbyn hyn mae 124 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu’r safonau: o gynghorau sir, i fyrddau iechyd, y gwasanaethau brys, colegau a phrifysgolion, a sefydliadau cenedlaethol Cymru.

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg:“Mae cael Diwrnod Hawliau’r Gymraeg yn rhoi llwyfan i ni fel cyngor i roi gwybodaeth ac atgoffa ein trigolion ein bod yn annog y defnydd o’r Gymraeg wrth iddynt gyfathrebu gyda ni. “Rydym yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a hyd yn oed wedi defnyddio’r sillafu Cymraeg o ‘Wrecsam’ amlwg yn ein logo wrth inni edrych at symud ymlaen (a gobeithio ennill) y teitl dymunol o Ddinas Diwylliant 2025.”

    Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Ers i safonau gael eu cyflwyno, rwyf wedi gweld newid byd o ran hawliau siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. “Erbyn hyn, rydym yn gweld sefydliadau yn ystyried y Gymraeg wrth iddynt gynllunio eu gwasanaethau, ac yn gynyddol mae gan y cyhoedd hyder bod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt yn yr iaith. “Mae’r safonau hefyd wedi arwain at sefydlu hawliau i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, gan gynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd.

    “Wrth gwrs, mae disgwyl i sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau trwy gydol y flwyddyn, ond mae rhoi un diwrnod penodol i bawb ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg ar yr un pryd yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth.”Mae hefyd yn reswm i neilltuo dyddiad penodol bob blwyddyn i atgoffa staff yn fewnol o’r hawliau sy’n bodoli a chynnal gweithgareddau hyrwyddo.”

    Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #MaeGenIHawl.

    Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

  • Disgyblion Ysgol Clywedog yn camu i’r llwyfan yn TEDx talks

    Disgyblion Ysgol Clywedog yn camu i’r llwyfan yn TEDx talks

    Wrth i COP26 nesáu, camodd ddisgyblion Ysgol Clywedog ar lwyfan yr enwog Tedx Talks, lle cawsant eu gwahodd i fynegi eu pryderon am newid hinsawdd a dyfodol yr amgylchedd.

    Penderfynon nhw i ledaenu’r gair am bwysigrwydd gwenyn.

    Cymerodd nifer o ysgolion ledled Gogledd Cymru ran, gydag Ysgol Clywedog yn cynrychioli Wrecsam. Fe gydweithion nhw gyda chydweithwyr o GwE a Phrifysgol Glyndŵr i drafod pam ddylem fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd rŵan.

    Meddai Nicholas Brown, Pennaeth Daearyddiaeth Ysgol Clywedog: “Penderfynodd dasglu eco’r ysgol gymryd rhan yn y prosiect, oherwydd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11, dyma uchafbwynt 3 blynedd o waith caled yn ceisio gwella’r amgylchedd ar gyfer ein hysgol a’n cymuned.

    Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

    “Roedd rhaid i’r grŵp gyflwyno fideo prawf i GwE, ac o hyn, fe ddewison nhw gymryd rhan yn Tedx talks. Roedd hwn yn brofiad gwych i’r pum disgybl, ac yn bwysicach, maent wedi ysbrydoli sawl dysgwr arall yn ein hysgol. Mae eu fideo wedi cael ei chwarae o flaen arweinwyr y byd, ac mae nawr ar safle swyddogol TEDx.

    “Mae cymuned ein hysgol gyfan yn falch iawn o beth maent wedi ei gyflawni.”

    Dywedodd un o’r disgyblion a gymerodd rhan, Maddie Salisbury: “Bydd newid hinsawdd yn fater diffiniol i’n cenhedlaeth ni, a sawl un i ddod, ac roeddem yn teimlo fod gennym ddyletswydd i sefyll i fyny a dweud wrth ein harweinwyr ein bod eisiau newid.

    “Fe ddewison ni siarad am wenyn a bioamrywiaeth, gan eu bod yn rhywbeth ‘roeddem wedi canolbwyntio arnynt yn y tasglu eco, ac yn rhywbeth y mae gennym bŵer dros wella yn ein cartrefi, ysgolion a’n cymunedau. Rydym wedi gweithio’n galed ers 2019 i roi hwb i fioamrywiaeth leol, a byddwn yn parhau i wneud hyn pan fyddwn yn cyflwyno gwenynfa i’r ysgol gyda thri cwch gwenyn a miloedd o wenyn. Rydym yn gofyn i bobl Wrecsam helpu ein gwenyn a pheillwyr eraill ffynnu, drwy blannu llawer o flodau gwyllt a cheisio peidio torri glaswellt y lawnt na chwynnu’r ardd mor aml ag y byddent fel arfer.”

    Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Rydym yn falch iawn o’r disgyblion hyn, ac yn eu cymeradwyo am gynrychioli Wrecsam gyda neges bwysig iawn ar lwyfan byd enwog. Maent wedi gweithio’n ddiflino o fewn cymuned eu hysgol i wella’r amgylchedd a bioamrywiaeth, ac mae ganddynt brosiectau ar y gweill sy’n golygu y byddant yn parhau i wneud hynny yn ystod eu blwyddyn olaf yn Ysgol Clywedog.

    Gallwch weld ymddangosiad tasglu eco Ysgol Clywedog yn TEDx Talks ar YouTube, lle gallwch weld fideo arall sy’n cyflwyno holl ysgolion Gogledd Cymru a gymerodd ran.

    Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

  • Peidiwch â chael eich Twyllo gan Dipiwr Anghyfreithlon

    Peidiwch â chael eich Twyllo gan Dipiwr Anghyfreithlon

    Wyddoch chi fod dros 70% o achosion o dipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff cartref, a dros 40% o breswylwyr Cymru mewn perygl o gael eu twyllo gan dipiwr anghyfreithlon?

    Fel arfer “gŵr mewn fan” ydi’r drwg yn y caws sy’n hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol y gwnaiff gasglu eich sbwriel am bris rhesymol – yn aml dydi llawer ohonyn nhw ddim yn gyfreithiol a methu defnyddio’r canolfannau ailgylchu gwastraff tŷ ac felly yn cymryd eich arian a thipio’r gwastraff yn anghyfreithlon yn y fwrdeistref Sirol.

    Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

    Mae’n “dyletswydd gofal” ar bob un ohonom i wneud yn siŵr ein bod yn cael gwared ar ein gwastraff yn gyfrifol ac yn ddiogel ac os bydd unrhyw wastraff wedi’i dipio yn anghyfreithlon yn cael ei gysylltu’n ôl efo chi cewch ddirwy o hyd at £300 neu hyd yn oed gael eich erlyn.

    Mae nifer o gwmnïau cludo gwastraff yn gweithredu’n gyfreithlon ac mae ffordd hawdd i ddarganfod os ydych yn defnyddio un o’r rheiny – gofynnwch i gael gweld eu cerdyn Cludydd Gwastraff Cofrestredig.

    Gallwch hefyd ofyn i le bydd eich gwastraff yn mynd a gofyn am dderbynneb ar gyfer y gwasanaeth yr ydych yn talu amdano.

    Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae yna lawer o bobl gyfrifol allan yna a fydd yn cludo eich gwastraff ac yn rhoi gwasanaeth da i chi. Fodd bynnag, dylem i gyd fod yn ymwybodol mai nad dyma’r achos bob tro a dylem wneud yn siŵr fod yr unigolyn y byddwn yn ei gyflogi i glirio’r gwastraff wedi cofrestru’n gyfreithlon a ddim yn tipio’n anghyfreithlon.

    “Rhaid i ni gyd ofalu am ein hamgylchedd a gwneud yn siŵr fod yr arian yn mynd i gwmnïau cofrestredig a chyfrifol.”

    Cofiwch y pwyntiau isod wrth archebu gwasanaeth gwaredu gwastraff:

    • Gwiriwch eu bod yn gludydd gwastraff cofrestredig
    • Gofynnwch iddyn nhw i le mae’r gwastraff yn mynd
    • Cofnodwch fodel a rhif cofrestru’r cerbyd
    • Gofynnwch am dystiolaeth o’r trosglwyddiad drwy ofyn am dderbynneb.

    Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

  • Beth yw HWB Cymraeg yn FOCUS Wales?

    Beth yw HWB Cymraeg yn FOCUS Wales?

    Wedi’i gefnogi gan Gyngor Wrecsam bydd HWB Cymraeg yn cynnal ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau, artistiaid a bandiau Cymraeg ar Sgwâr y Frenhines fel rhan o ŵyl Focus Wales.

    Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

    Os nad ydych wedi ymweld â’r ŵyl o’r blaen yna ni fydd dod o hyd i’r HWB yn anodd gan y cynhelir yr HWB mewn pabell tipi anferth, ond yn aml gellir clywed y gerddoriaeth cyn i chi weld y tipi!

    Yn ystod y dydd mae HWB Cymraeg yn cynnal gweithdai a digwyddiadau gan gynnwys gwersi Cymraeg, Parti Magi Ann a sioe hud.

    Wrth iddi nosi mae’r tipi yn croesawu rhai o berfformwyr adnabyddus o Gymru a thu hwnt.

    Er bod angen tocyn ar gyfer rhai digwyddiadau, mae mynediad i ddigwyddiadau eraill ar gael gyda band arddwrn FOCUS Wales, ac yn ystod y dydd yn gyffredinol bydd yr HWB ar agor i unrhyw un sydd eisiau galw heibio, mwynhau’r awyrgylch, dros goffi efallai (neu rywbeth o’r bar) gan fwynhau’r hyn sydd i’w gynnig.

    Dywedodd Stephen Jones, Cydlynydd y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Mae’n wych bod HWB Cymraeg yn ôl yn FOCUS Wales eto eleni. Gan fod y tipi yng nghanol y dref rydym yn cael llawer o ymwelwyr yn galw heibio i fwynhau rhywfaint o Ddiwylliant Cymru. “Mae rhaglen amrywiol yma sy’n addas i bobl o bob oedran a phob gallu”.

    Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:”Mae’r awyrgylch yn wych bob tro yn HWB Cymraeg ac mae’n gyfle gwych i hybu’r Gymraeg, os ydych yn rhugl ai peidio, neu os nad ydych yn siarad gair o Gymraeg – efallai y byddwch yn gadael wedi dysgu ambell air newydd.”

    Mae modd gweld beth sydd ar y gweill yn HWB Cymraeg drwy lawrlwytho ap FOCUS Wales yma:

    IOS (IPhone)

    Android

    Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

  • Byddwch yn rhan o’r Wythnos Fawr Werdd 2021

    Byddwch yn rhan o’r Wythnos Fawr Werdd 2021

    Mae’r Wythnos Fawr Werdd yn digwydd rhwng 18 a 26 Medi, ble bydd cymunedau ar draws y wlad yn dod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad hinsawdd a natur mwyaf a welwyd yn y DU.

    Mae gwahoddiad i bawb gymryd rhan er mwyn dangos ein bod yn malio a’n bod yn barod i gymryd camau i annog gweithrediad a brwydro yn erbyn newid hinsawdd.

    Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

    Sut alla i gymryd rhan yn yr Wythnos Fawr Werdd?

    Mae’n hawdd iawn i unrhyw un gymryd rhan – gall ysgolion gynnal gwasanaeth arbennig yn seiliedig ar newid hinsawdd, neu gall grwpiau drefnu digwyddiadau fel trefnu i’r gymuned ddod ynghyd i godi sbwriel. Gall unigolion gymryd rhan drwy wneud rhywbeth mor fach â phlannu blodau gwyllt neu blanhigion ar gyfer yr hydref mewn ardal yn eu gardd.

    Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i drefnu digwyddiad a sut i gymryd rhan drwy fynd i wefan yr Wythnos Fawr Werdd.

    neu gwyliwch y fideo isod gan y trefnwyr – The Climate Coalition

    (Saesneg yn unig)

    Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae digwyddiadau diweddar ar draws y byd yn dangos yr effaith mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein bywydau. O danau gwyllt cynddeiriog i lifogydd mawr, gall eu heffaith ar boblogaethau a’r amgylchedd fod yn ddinistriol.

    “Cafwyd llifogydd yma yn Wrecsam yn gynharach yn y flwyddyn, ac rydym ni wedi gweld yr effaith a gafodd hyn ar Fangor-Is-y-Coed, Holt a’r difrod a achoswyd i’r B5605 yn Newbridge, sy’n achosi anhwylustod i’r cymunedau lleol.

    “Nawr yw’r amser i weithredu a buaswn yn annog grwpiau, sefydliadau ac unigolion ar draws Wrecsam i gymryd rhan yn yr wythnos drwy un ai gynnal digwyddiad neu gymryd rhan mewn digwyddiad sy’n cael ei drefnu yn eich ardal.”

    Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]