Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwirfoddolwr ac aelod o staff yng Nghynllun Cefnogwyr Rhieni Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwirfoddolwr ac aelod o staff yng Nghynllun Cefnogwyr Rhieni Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol
Pobl a lleFideoY cyngor

Gwirfoddolwr ac aelod o staff yng Nghynllun Cefnogwyr Rhieni Wrecsam yn ennill gwobr genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 17, 2024 1:52 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Yn ystod cynhadledd Cefnogwyr Rhieni cenedlaethol yn ddiweddar (a gynhaliwyd ar-lein) cyhoeddwyd fod Jade Humphreys-Jones wedi ennill newydd-ddyfodiad y flwyddyn, tra bod aelod o staff CBSW Claire Hughes wedi ennill cydlynydd y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Wrecsam:  “Hoffwn ddiolch i’n holl wirfoddolwyr am eu gwaith rhagorol sydd o fudd mawr i’n cymunedau, yn ogystal â diolch i’n staff sy’n rhedeg y cynllun. “Llongyfarchiadau arbennig i Jade Humphreys-Jones a Claire Hughes ar eu gwobrau.”

Beth yw Cefnogwr Rhieni?

Mae Cefnogwyr Rhieni’n wirfoddolwyr sy’n gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam i ddarparu gwybodaeth a chyngor yn eu cymunedau lleol.  Maent yn cyfeirio rhieni a gofalwyr at wasanaethau lleol ac yn rhannu eu profiadau personol o fod yn rhiant a chael mynediad at gefnogaeth eu hunain.

Cyfeirio rhieni a gofalwyr

Gallwch ofyn i gefnogwyr rhieni am bynciau amrywiol, gan gynnwys: 

  • Gweithgareddau a digwyddiadau ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol
  • Gwasanaethau cymorth i rieni
  • Gwasanaethau cymorth iechyd a lles
  • Gwasanaethau cymorth perthnasoedd
  • Gwasanaethau i blant anabl a phlant sydd ag anghenion ychwanegol

Derbyn cefnogaeth bellach

Os ydych chi wedi cwrdd â chefnogwr rhieni yn eich cymuned leol ac os hoffech chi gael cefnogaeth neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni drwy lenwi ffurflen ymholiad Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.

Dod yn gefnogwr rhieni

Rydym bob amser yn chwilio am gefnogwyr rhieni newydd a hoffai gefnogi’r teuluoedd yn eu hardal leol.  I ddarganfod mwy am gyfleoedd i wirfoddoli gyda chefnogwyr rhieni, anfonwch e-bost at parentchampions@wrexham.gov.uk.

Beth ddywed ein cefnogwyr rhieni

“Mae ymuno â’r rhaglen hon wir yn gwella fy sgiliau ar bob lefel”. Noha Sadek

“Dwi wrth fy modd yn bod yn gefnogwr rhieni, mae’n wych. “Rydym ni’n dîm da, fe allwn ni wneud gwahaniaeth. “Y mwyaf o gefnogwyr rhieni y gallwn ni eu cael y mwyaf o rieni y gallwn ni eu helpu.” Becky Harris

“Rwy’n gallu cynnig cefnogaeth ac arweiniad i deuluoedd a allai fod angen rhywun i ddal eu llaw bob hyn a hyn.” Jade Humphreys – Jones

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i gwrdd â Chynghrair Henoed Cymru Dewch i gwrdd â Chynghrair Henoed Cymru
Erthygl nesaf Markets Adnewyddu marchnadoedd dan do hanesyddol Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English