Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd yn dechrau fis nesaf – dyma beth sydd angen i chi ei wybod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd yn dechrau fis nesaf – dyma beth sydd angen i chi ei wybod
Busnes ac addysgFideo

Rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd yn dechrau fis nesaf – dyma beth sydd angen i chi ei wybod

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 28, 2024 3:06 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Fis nesaf (o 6 Ebrill 2024) bydd yn ofynnol o dan y gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru i ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu.

Cynnwys
  • Beth sydd angen i chi ei wybod
    • Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh)
    • Adloniant a hamdden (yn cynnwys gwersylloedd, chalets, cabanau, gwestai, carafanau)
    • Manwerthu
    • Lleoliadau preswyl (yn cynnwys cartrefi gofal)
    • Gwasanaethau bwyd a lletygarwch
    • Casglwyr gwastraff
    • Digwyddiadau yn yr awyr agored
    • Lleoliadau addysg a phrifysgolion
  • Crynodeb o’r newidiadau
    • Pa wastraff sydd angen ei wahanu
    • I bwy mae’r gyfraith yn berthnasol

Beth sydd angen i chi ei wybod

Er mwyn helpu busnesau, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector i wybod beth yw’r diweddaraf am y newidiadau, mae WRAP Cymru wedi creu cyfres o weminarau llawn gwybodaeth sydd yn benodol i sectorau gwahanol.

Fe’ch gwahoddir i wylio cynifer o weminarau ag sy’n berthnasol i’ch busnes, gan y gallai rhai elfennau fod yn gyffredin.  Mae’r gweminarau yn cynnwys cyfraniadau gan siaradwyr gwadd sydd yn rhannu eu profiadau o weithredu casgliadau ar wahân yn eu heiddo, gan roi arweiniad ymarferol.

Mae’r recordiadau o’r weminarau canlynol bellach ar gael i’w gwylio:

Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh)

Adloniant a hamdden (yn cynnwys gwersylloedd, chalets, cabanau, gwestai, carafanau)

Manwerthu

Lleoliadau preswyl (yn cynnwys cartrefi gofal)

Gwasanaethau bwyd a lletygarwch

Casglwyr gwastraff

Digwyddiadau yn yr awyr agored

Lleoliadau addysg a phrifysgolion

You can also learn more on WRAP Cymru’s The Business of Recycling Wales page.

Crynodeb o’r newidiadau

Pa wastraff sydd angen ei wahanu

Bydd angen gwahanu’r deunyddiau canlynol i’w casglu ar wahân:

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metelau, plastig a chartonau
  • Tecstilau sydd heb eu gwerthu
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE)

Bydd gwaharddiad hefyd ar:

  • Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
  • Gwastraff a gesglir ar wahân sy’n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
  • Pob gwastraff pren sy’n mynd i safleoedd tirlenwi

I bwy mae’r gyfraith yn berthnasol

Bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Safleoedd amaethyddol
  • Lletygarwch a thwristiaeth – bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Meysydd sioe
  • Gorsafoedd gwasanaeth a gorsafoedd petrol
  • Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
  • Trafnidiaeth – gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
  • Cartrefi gofal a nyrsio
  • Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd, a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
  • Safleoedd adeiladu
  • Ffatrïoedd a warysau
  • Garejis ceir
  • Addysg – prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Canolfannau garddio
  • Adeiladau treftadaeth
  • Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Swyddfeydd a gweithdai
  • Mannau addoli
  • Carchardai
  • Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored

Yr unig weithle sydd â dwy flynedd ychwanegol i gydymffurfio yw’r GIG ac ysbytai preifat.

Mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle (dolen gyswllt allanol).

Bydd Wych. Ailgylcha. – Dewch inni gael Cymru i rif 1! – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchurecyclingworkplace recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol The reuse shop, Bryn Lane Recycling Centre Gwneud y mwyaf o’ch Siop Ailddefnyddio leol drwy dacluso eich tŷ!
Erthygl nesaf Waterworld Ffioedd Meysydd Parcio o 1 Ebrill

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth

Hydref 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English