Mae’r blog hwn yn un o nifer o straeon y byddwn yn eu postio trwy gydol Wythnos Gwaith Ieuenctid 2019
Prosiect gwaith ieuenctid yn Ysbyty Maelor Wrecsam yw Ysbrydoli. Prif ffocws y prosiect yw cefnogi pobl ifanc 11 – 18 oed (hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed) sy’n byw yn Wrecsam ac mewn perygl o hunan-niweidio.
Mae Ysbrydoli’n gweithio ochr yn ochr â phob person ifanc i’w helpu i gyflawni eu nodau. Diben Ysbrydoli yw rhoi grym i bobl ifanc a hyrwyddo eu hannibyniaeth, gan sicrhau eu bod yn magu sgiliau gweithredol i ymdopi â phethau a bod yn gryf.
Drwy gynnwys pobl ifanc, a’u teuluoedd lle bo hynny’n bosib ac yn briodol, i gymryd rhan gyflawn, mae Ysbrydoli’n eu hannog i feithrin agweddau, ymddygiad a dyheadau cadarnhaol sy’n eu helpu i fagu gwytnwch fel bod modd iddynt oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol.
Dywedodd y Cyng Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid, “Rwy’n falch iawn bod Ysbrydoli yn parhau i gefnogi pobl ifanc o fewn Ysbyty Maelor.
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o wasanaethau cyhoeddus yn meddwl yn wahanol ac yn gweithio gyda’i gilydd i wella bywydau pobl ifanc.”
Mae Ysbrydoli hefyd yn darparu sesiynau addysg anffurfiol mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid ar faterion iechyd emosiynol, ac yn ymweld â phobl ifanc sydd wedi cael eu derbyn ar wardiau ysbytai yn ddyddiol i’w helpu yn ystod eu cyfnod yno.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01978 726002
E-bost: inspire@wrexham.gov.uk
Cyfeiriad:
Prosiect Ysbrydoli Gwaith Ieuenctid mewn Ysbyty, Ysbyty Maelor Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam LL13 7TD
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN