Ym mis Medi 2019 fe wnaethom ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Ers hynny rydym wedi bod yn gweithio ar ein Cynllun Gweithredu Dadgarboneiddio i weld sut y gallwn gyrraedd y targed uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Er mwyn cyflawni ein nodau bydd ein cynllun yn canolbwyntio ar 4 maes:
- Adeiladau
- Cludiant a Symudedd
- Y defnydd o dir
- Caffael (sut yr ydym yn cael ein nwyddau a’n gwasanaethau)
Ar ôl treialu cerbyd casglu sbwriel trydan yn llwyddiannus, rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod gennym erbyn hyn gerbyd sbwriel trydan i ychwanegu at ein fflyd o gerbydau trydan sy’n tyfu o hyd.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fel cyngor nid ydym yn ddim gwahanol i unrhyw fusnes arall ac yn edrych yn gyson ar sut y gallwn addasu ein harferon gwaith i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Yn wir un o’n loriau sbwriel disel wedi’i haddasu i fod yn gerbyd trydanol yw’r cerbyd newydd, sydd yn dangos sut y gall ychydig o ddyfeisgarwch a meddwl creadigol gael ffaith gadarnhaol yn amgylcheddol.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL