Cymrwch y frechiad

Mae’n syml. Ewch i gael eich brechu, da chi.

Brechiadau atgyfnerthol Covid a brechiadau ffliw

Mae’r rhai sy’n gymwys yn cael eu hannog i gael brechiadau atgyfnerthol Covid a brechiadau ffliw at y gaeaf.

Mae brechiadau atgyfnerthol Covid yn cael ei cynnig i bobl 50 oed a hŷn, ac mae brechiadau ffliw ar gael i amrywiaeth eang o bobl – gan gynnwys pawb dros 50 oed, plant 2 i 15 oed a merched beichiog.

Os ydych chi’n gymwys, gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn y cynnig i’ch gwarchod rhag y ddau feirws.

Darllenwch fwy…

Brechiadau Covid i rai 12 i 15 oed

Mae’r bwrdd iechyd lleol yn anfon gwahoddiadau at bobl 12 i 15 oed, a byddant yn dechrau brechu ddydd Llun, 4 Hydref.

Bydd angen i rieni a gofalwyr roi caniatâd a bydd y brechiadau’n cael eu rhoi mewn canolfannau brechu lleol (ni fydd pobl yn y grŵp oedran hwn yn gallu cerdded i mewn i glinigau).

Darllenwch fwy…

Gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth

Mae’n bwysig bod pobl ifanc a rhieni/gofalwyr yn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth am frechiadau Covid.

Peidiwch ag ymddiried yn yr un ar Facebook sy’n arbenigwr ar feiroleg, mwyaf sydyn.

Gofalwch eich bod yn cael gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a’ch bwrdd iechyd GIG lleol.

Uned brofi symudol

Cofiwch fod uned brofi symudol yn Johnstown.

Mae’r cyfleuster mynediad hawdd yn cynnig profion PCR yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown rhwng 9:30am a 5pm bob dydd Llun hyd nes clywch yn wahanol.

Darllenwch fwy…

Helpwch i gadw Covid draw o’r ysgolion

Drwy gadw at y canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru fe allwch chi helpu i gadw Covid draw o’r ystafell ddosbarth yr hydref hwn…

  1. Os oes gan eich plentyn unrhyw symptom, dim ots pa mor ysgafn, cadwch nhw gartref ac archebwch brawf.
  2. Dim symptomau? Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud prawf llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac adrodd am y canlyniadau.
  3. Dilynwch reolau’r ysgol o ran gorchuddion wyneb. Bydd yn rhaid i ddisgyblion uwchradd (blwyddyn 7 a hŷn) eu gwisgo ar gludiant ysgol.
  4. Cymerwch y brechlyn os caiff ei gynnig i chi neu’ch plentyn.
  5. Golchwch eich dwylo yn rheolaidd.

5 peth gallwch chi wneud i helpu cadw Covid i ffwrdd o ysgolion yr hydref hwn

Peidiwch ag anwybyddu gweithwyr olrhain cysylltiadau

Atgoffir pobl bod yn rhaid iddyn nhw ateb galwadau ffôn gan weithwyr olrhain cysylltiadau a dilyn unrhyw gyngor a ddarperir.

Yn ôl Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Wrecsam mae yna lond llaw o bobl sy’n parhau i anwybyddu galwadau a chyngor, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl.

Darllen mwy…

Dolenni defnyddiol