Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Chwalu 5 myth am gynghorau…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Chwalu 5 myth am gynghorau…
Pobl a lleY cyngor

Chwalu 5 myth am gynghorau…

Diweddarwyd diwethaf: 2017/07/11 at 12:28 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Chirk Castle in Wrexham County Borough
RHANNU

Mae’r Canolfannau Croeso ar gyfer twristiaid yn unig. Cywir?

Cynnwys
“….byddwn yn ceisio ateb unrhyw gwestiwn…”4 rheswm pam fod y Ganolfan Groeso yn addas i chi1. Tocynnau…2. Nwyddau…3. Gwybodaeth…4. Teithio…“… mwynhau atyniadau ar ein stepen drws…”

Anghywir. Mae’r Canolfannau Croeso ar gyfer pawb… gan gynnwys pobl leol sy’n awyddus i fwynhau gweithgareddau ac atyniadau ymwelwyr ar eu stepen drws.

Mae gan Ganolfan Groeso Wrecsam – a agorodd yn 1992- lawer i’w gynnig yn ei 25ain flwyddyn.

Mae’r staff yn gyfeillgar, ac yn mwynhau cynorthwyo preswylwyr Wrecsam ynghyd â thwristiaid o leoliadau mor bell â Siapan ac Awstralia.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

“….byddwn yn ceisio ateb unrhyw gwestiwn…”

Dywed Anne Salmon, sydd wedi gweithio yno ers 24 o flynyddoedd: “Efallai bod twristiaid yn ein defnyddio, ond mae Canolfannau Croeso ar gael i bawb – pobl o bob oed ac o bell ac agos.

“Mae rhai o’n cwsmeriaid gorau yn bobl leol, ac er ei bod yn wych cynorthwyo ymwelwyr sy’n dod i Ogledd Ddwyrain Cymru am y tro cyntaf, mae sefydlu perthynas gyda’n cwsmeriaid rheolaidd yr ydym yn eu gweld bob wythnos yn rhan hyfryd o’r swydd.

“Rydym yn fodlon ceisio ateb unrhyw gwestiwn am yr ardal, ac mae gennym anrhegion a chynnyrch hyfryd ar werth – nifer ohonynt gan gyflenwyr a chynhyrchwyr lleol.”
Felly os ydych chi’n byw’n lleol, beth sydd gan Ganolfan Groeso Wrecsam i’w gynnig i chi?

Rhowch gynnig ar hyn i ddechrau.

4 rheswm pam fod y Ganolfan Groeso yn addas i chi

1. Tocynnau…

Gallwch archebu tocynnau ar gyfer pob math o bethau llawn hwyl. Ymweld â Sw Caer? Mynd i’r theatr?

Eisiau mynychu gŵyl neu gyngerdd lleol? Angen tocyn bws? Cysylltwch â’r Ganolfan Groeso i gael eich tocynnau.

2. Nwyddau…

Mae’r Ganolfan Groeso yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch lleol, gan gynnwys gemwaith a wnaed yn lleol, siocled Aballu a grëwyd yn yr Orsedd, llyfrau a chardiau post lleol yn arddangos cefn gwlad hardd Cymru.

Mae’n le gwych i ddod o hyd i nwyddau ac anrhegion ar gyfer cyfeillion a pherthnasau. Neu i brynu anrheg i chi eich hunan 😉

3. Gwybodaeth…

Ydych chi eisiau gwybod mwy am eich ardal?

Mae nifer o bethau i’w gwneud yn Wrecsam a gweddill Gogledd Ddwyrain Cymru, ac mae staff y Ganolfan Groeso yn gwybod am y lleoedd gorau i fwyta, y gweithgareddau gorau ar gyfer plant bach, lle i ddod o hyd i’r siop yr oedd eich ffrind wedi sôn amdani, a llawer mwy.

4. Teithio…

Mae modd i chi gael llwyth o wybodaeth am deithio o’r Ganolfan Groeso – gan gynnwys amserlenni bysiau a threnau – a gallwch archebu tocynnau National Express.

“… mwynhau atyniadau ar ein stepen drws…”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, aelod arweiniol yr economi leol: “Nid ymwelwyr yw’r unig rai sy’n cefnogi’r diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru…mae hefyd yn cynnwys pobl leol sy’n mwynhau pethau ar ein stepen drws.

“Byddwn yn annog pawb i alw heibio’r Ganolfan Groeso y tro nesaf y maent yng nghanol y dref.

“Mae’r staff yn gwybod popeth sydd i’w wybod am yr ardal, ac mae’n un o’r lleoliadau gorau i gasglu gwybodaeth ac archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau lleol.”

Mae Canolfan Groeso Wrecsam wedi’i leoli yn Sgwâr y Frenhines ac ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener 10am-4pm (ar wahân i ŵyl y banc).

I gysylltu ffoniwch 01978 292015 neu anfonwch e-bost at y tîm ar tic@wrexham.gov.uk.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Parcio ym Marchnad y Bobl? Darllenwch hwn... Parcio ym Marchnad y Bobl? Darllenwch hwn…
Erthygl nesaf Caru cerddoriaeth? Mae'r cyfan yn digwydd ym Mharc y Ponciau Caru cerddoriaeth? Mae’r cyfan yn digwydd ym Mharc y Ponciau

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
DigwyddiadauPobl a lle

Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol

Ionawr 20, 2026
Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Pobl a lle

Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 19, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English