Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Maer yn addo hyfforddi 1000 o gynorthwywyr cyntaf yn ystod ei dymor yn y swydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 23 Hydref
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Maer yn addo hyfforddi 1000 o gynorthwywyr cyntaf yn ystod ei dymor yn y swydd
Pobl a lle

Maer yn addo hyfforddi 1000 o gynorthwywyr cyntaf yn ystod ei dymor yn y swydd

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 31, 2026 2:18 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Mayor delivering first aid training to the pupils of St Paul's school
RHANNU

Bob blwyddyn, mae pob Maer newydd yn enwebu elusennau i godi arian ar eu cyfer trwy gydol eu tymor yn y swydd. Maen nhw’n gwneud hyn trwy nifer o ddigwyddiadau codi arian yn ystod eu blwyddyn faerol.

Mae ein Maer presennol, y Cynghorydd Jeremy Kent, wedi dewis Andy’s Man Club a We Mind The Gap fel ei elusennau.

Yn ogystal â’i elusennau dewisol, mae’r Maer yn benderfynol o wneud rhywbeth bach yn ychwanegol. Mae am geisio hyfforddi 1000 o bobl mewn cymorth cyntaf rhwng ei ddyletswyddau Maerol.

Yn ogystal â’i rôl faerol a’i ymrwymiadau gwaith y tu allan i’r Cyngor, mae’r Cynghorydd Kent yn wirfoddolwr gyda’r Cadetiaid Awyr. Dros y blynyddoedd yn ei rôl wirfoddol, mae wedi hyfforddi cadetiaid mewn amrywiaeth eang o sgiliau, gan gynnwys cymorth cyntaf.

Mae’n credu ei bod hi’n bwysig bod gan bawb rywfaint o ddealltwriaeth sylfaenol o gymorth cyntaf gan nad ydych chi byth yn gwybod pryd y gall yr angen i ddefnyddio’r sgiliau hyn godi.

Gan ystyried hyn, roedd y Cynghorydd Kent yn meddwl y gallai ymgorffori hyn yn ei ddyletswyddau maerol a’i nod yw mynd allan i gymuned Wrecsam a darparu hyfforddiant cymorth cyntaf i drigolion.

O ysgolion i grwpiau cymunedol, mae croeso i bawb gymryd rhan yn ei sesiynau hyfforddi, ac mae’n eu cyflwyno am ddim.

Mae’r Maer eisoes wedi gwneud cynnydd mawr gyda’i ymdrechion wrth iddo ddechrau ei sesiynau cymorth cyntaf gyda disgyblion Ysgol Sant Paul. Mae llawer mwy o sesiynau eisoes wedi eu trefnu gydag amrywiaeth o grwpiau cymunedol yn y ddinas a’r cyffiniau.

Wrth siarad am ei uchelgeisiau ar gyfer y prosiect, dywedodd y Maer: “Mae cymorth cyntaf yn sgil hanfodol rydw i’n credu y dylen ni i gyd gael rhywfaint o ddealltwriaeth ohono, hyd yn oed ar lefel sylfaenol. Dydyn ni ddim yn gwybod pryd y bydd angen cymorth meddygol ar rywun ac rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig bod yn barod ar gyfer y sefyllfaoedd annisgwyl hynny.

“Rydw i’n gobeithio cyflawni fy nod o hyfforddi 1000 o bobl yn ein cymuned a’u paratoi i allu camu i’r adwy a chynnig gofal a chymorth i aelod o’r teulu, ffrind, dieithryn, unrhyw un sydd mewn angen.

“Rydw i’n annog pawb i ddod draw i ymuno ag un o’r nifer o sesiynau rydw i wedi’u cynllunio neu i gysylltu os ydyn nhw eisiau trefnu sesiwn gyda mi. Mae croeso i bawb ac edrychaf ymlaen yn fawr at, gobeithio, wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned gyda’n gilydd”.

Rhannu
Erthygl flaenorol Bin collections - information Rhowch eich biniau allan i’w casglu erbyn 6am yn ystod mis Awst
Erthygl nesaf Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn!  Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle

Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English