Mae’r Nadolig bob amser yn gyfnod prysur yn y canolfannau ailgylchu, felly mae’n syniad da iawn i drefnu eich ymweliad o flaen llaw i’w wneud mor hawdd a di-straen â phosibl.
Rydym yn gwerthfawrogi y gall y Nadolig fod yn gyfnod sy’n achosi llawer o straen beth bynnag, a’ch bod yn debygol o fod eisiau mynd i mewn ac allan o’r cyfleusterau cyn gynted â phosibl. Dyma pam mae hi’n well paratoi a chael popeth sydd ei angen arnoch yn barod o flaen llaw.
Dyma rai pethau y gallwch ei wneud cyn cychwyn sydd wir yn ein helpu, ond sydd hefyd yn ei gwneud yn gyflymach a mwy esmwyth i chi hefyd…
Didolwch eich ailgylchu cyn gadael
Didolwch y deunyddiau gwahanol cyn i chi deithio i’ch canolfan ailgylchu lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn barod i’w taflu’n syth i’r baeau cywir. Dyma un o’r prif ffyrdd y gallwch ein helpu.
Os na fyddwch chi’n didoli eich ailgylchu cyn i chi gyrraedd, byddwch ar y safle’n hirach nag sydd angen a bydd hyn yn arafu eich ymweliad.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser
Dim ond preswylwyr Wrecsam gaiff ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu, felly pan fyddwch chi’n cyrraedd y safleoedd, gofynnir i chi ddangos dull adnabod i ni fod yn sicr eich bod yn byw yn lleol.
Cofiwch ddod â rhywbeth gyda chi i ni ei wirio a’i fod wrth law er mwyn cyflymu’r broses.
“Ceisiwch osgoi’r adegau prysuraf”
Meddai Darren Williams, Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol: “Mae’r canolfannau ailgylchu yn tueddu i fod yn brysurach dros y Nadolig o gymharu ag adegau eraill o’r flwyddyn, gan fod gennym ni fwy o wastraff na’r arfer. Felly, pan fyddwch chi’n mynd i ganolfan ailgylchu cofiwch estyn eich ID yn barod a threfnu eich eitemau ymlaen llaw yn barod i’w rhoi yn y baeau cywir. Mae hefyd yn syniad da i amseru eich ymweliad er mwyn osgoi adegau prysur.”
Oriau Agor
Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT
8am – 8pm
Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR
9am – 4pm
Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES
9am – 4pm
Noder y bydd y tri chanolfan ail-gychu ar gau ar ddiwrnod Nadolig.
Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol
Os byddwch chi’n dod ag unrhyw fagiau du i’r canolfannau ailgylchu, sicrhewch fod unrhyw boteli plastig, caniau ac ati sydd wedi cael eu rhoi ynddynt mewn camgymeriad yn cael eu tynnu allan ac yn cael eu rhoi gyda’ch ailgylchu ymyl palmant, neu mae modd iddynt gael eu hailgylchu yn y banciau ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu.
Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?
Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI