Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cipolwg ar weithgareddau llyfrgell Gwersyllt
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Cipolwg ar weithgareddau llyfrgell Gwersyllt
DigwyddiadauPobl a lle

Cipolwg ar weithgareddau llyfrgell Gwersyllt

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 10, 2025 9:38 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwersyllt library
RHANNU

Ynghyd â chasgliad trawiadol o lyfrau a chyfleusterau ymchwil, mae ein llyfrgelloedd yn cynnal digwyddiadau wythnosol a misol i bawb yn ein cymuned.

Cynnwys
  • O sgwrsio am chwaraeon i dynnu lluniau
  • Hobïau creadigol a ffrindiau newydd
  • Munud i feddwl
  • Casglu ac adeiladu

Mae digon o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran a diddordeb yn eich llyfrgell leol a, heddiw, byddwn yn edrych ar ba weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt yn llyfrgell Gwersyllt.

Wedi’i lleoli yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt ar Ail Rodfa, bydd ei staff cyfeillgar bob amser yn rhoi croeso cynnes i ymwelwyr.

O sgwrsio am chwaraeon i dynnu lluniau

Mae gan lyfrgell Gwersyllt y ffordd berffaith o ddechrau’ch wythnos gyda digwyddiadau wythnosol yn digwydd bob dydd Llun.

Rhwng 2pm a 3pm, mae cyfle i ddilynwyr chwaraeon gwrdd a thrafod digwyddiadau chwaraeon y penwythnos gyda phaned o de a bisgedi. Mae’r Drafodaeth Chwaraeon yn croesawu pawb i ymuno.

I’r rhai sydd ag artistiaid ifanc addawol, cynhelir yr Amser Lliwio i blant bob dydd Llun rhwng 3pm a 4.45pm. Mae’n gyfle gwych i bobl ifanc adael i’w creadigrwydd lifo a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae’n ddigwyddiad am ddim heb fod angen cadw lle ac mae’r holl ddeunyddiau yn cael eu darparu.

Hobïau creadigol a ffrindiau newydd

Mae dyddiau Mawrth yn llyfrgell Gwersyllt yn cynnig cyfleoedd gwych i wneud ffrindiau newydd a dod at eich gilydd gydag eraill sy’n rhannu’r un diddordebau.

Mae’r grŵp Gwau a Sgwrsio yn cwrdd bob dydd Mawrth rhwng 2pm a 4pm. Gallwch sgwrsio wrth i chi weithio ar eich prosiect gwau neu grosio. Mae’n gyfle i ddysgu sgiliau newydd neu wella eich sgiliau presennol. Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn addas ar gyfer pob oedolyn.

Gallwch hefyd ymuno â’r Clwb Benthyca Llyfrau i Bobl dros 60 oed. Mae’n amser i wneud ffrindiau newydd dros y cariad cyffredin at ddarllen a chyfnewid argymhellion ar gyfer y llyfr nesaf i ymgolli ynddo.

Munud i feddwl

Mae awyrgylch tawel yn y llyfrgell ar ddydd Mercher wrth i’r Amser Tawel wythnosol am ddim gael ei gynnal rhwng 10am a 11am. Dewch draw i gael ychydig o amser darllen tawel.

Yn ogystal, cynhelir sesiwn Lliwio Ymwybyddiaeth Ofalgar wythnosol rhwng 10am a 1pm. Dewch draw i’r digwyddiad am ddim hwn i gael gwared ar straen a bod yn greadigol.

Ar ddydd Mercher cyntaf y mis, mae’r Grŵp Crefft yn dod at ei gilydd rhwng 2.30pm a 4.30pm i greu ychydig o ddarnau anhygoel. Beth am ddod i ymuno â nhw ar gyfer y digwyddiad am ddim hwn?

Bob ail ddydd Mercher o’r mis am 2.30pm, cynhelir y sesiynau Atgofion. Mae’n gyfle gwych i bobl hel atgofion gyda ffrindiau a gwneud rhai newydd ar hyd y ffordd. Mae croeso i bawb gymryd rhan yn y digwyddiad am ddim hwn.

Casglu ac adeiladu

Ar gyfer pob plentyn dan 16 oed sy’n awyddus i gwblhau eu casgliadau cardiau neu sticeri, cynhelir y Sesiwn Gyfnewid bob dydd Iau rhwng 3.30pm a 4pm. Gall casglwyr alw heibio er mwyn cyfnewid gydag eraill i gwblhau eu setiau. Mae yna bolisi ‘dod ag un, cymryd un’ ar waith ac ni chaniateir unrhyw fasnachwyr sy’n oedolion.

Mae’r Clwb Lego yn cwrdd bob dydd Gwener rhwng 3.15pm a 4pm ac mae’n addas i blant 4 oed a hŷn. Nid oes angen cadw lle na thalu unrhyw gost am alw heibio. Gall plant ddysgu sgiliau meddal amrywiol, datrys problemau, gwaith tîm, meddwl yn greadigol a chyfathrebu wrth gael llawer o hwyl.

Am ragor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau a grybwyllir yma a mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau llyfrgelloedd. Fel arall, gallwch ffonio 01978 722880 neu e-bostio gwersylltresource@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol S Mary's RC School in Wrexham Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn dathlu yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn
Erthygl nesaf ddiwrnod y cesglir eich biniau Casgliadau biniau dros gyfnod yr ŵyl

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mimica
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English