Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CLICIO A CHASGLU – MANNAU PARCIO BELLACH AR GAEL AR Y STRYD FAWR A STRYD HOLT
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > CLICIO A CHASGLU – MANNAU PARCIO BELLACH AR GAEL AR Y STRYD FAWR A STRYD HOLT
Busnes ac addysgPobl a lle

CLICIO A CHASGLU – MANNAU PARCIO BELLACH AR GAEL AR Y STRYD FAWR A STRYD HOLT

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 30, 2021 9:40 am
Rhannu
Darllen 3 funud
CLICIO A CHASGLU – MANNAU PARCIO BELLACH AR GAEL AR Y STRYD FAWR A STRYD HOLT
RHANNU

Gall siopwyr canol tref nawr fanteisio ar mannau parcio ‘clicio a chasglu’ sydd ar gael ar Stryd Holt (y tu allan i Tŷ Pawb) a’r Stryd Fawr (y tu allan i Farchnad y Cigyddion).

Cynnwys
  • Parcio am ddim ar ôl 11am
  • Caru eich marchnadoedd

Gallwch ddefnyddio’r mannau sydd ar gael i barcio am ddim 30 munud i godi unrhyw eitemau rydych chi wedi’u harchebu ymlaen llaw gan fasnachwyr yng nghanol y dref.

Mae’r mannau wedi’u lleoli’n gyfleus wrth ymyl ein tair marchnad yng nghanol y dref (gweler yr amseroedd agor isod), felly p’un a ydych chi’n casglu tecawê, yn casglu anrheg neu’n stocio rhai pethau hanfodol, mae’n haws nag erioed i ddod i gefnogi ein masnachwyr lleol!

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru. 

Parcio am ddim ar ôl 11am

Os ydych chi am aros yn y dref yn hirach, peidiwch ag anghofio bod yna barcio am ddim hefyd ym mhob maes parcio canol tref a weithredir gan y Cyngor ar ôl 11am ar wahân i Tŷ Pawb.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Ffordd y Cilgant
  • Neuadd y Dref
  • Y Llyfrgell
  • Stryt y Farchnad

Caru eich marchnadoedd

Dyma’r amseroedd agor cyfredol ar gyfer ein marchnadoedd canol tref:

  • Mae Marchnad y Cigyddion ar agor rhwng 9am-4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn (9am – 1.30pm ar ddydd Mercher).
  • Ar hyn o bryd, mae’r Farchnad Gyffredinol ar agor rhwng 9am a 4pm dydd Llun i ddydd Sadwrn (ar gau ar ddydd Mercher).
  • Mae marchnad awyr agored wythnosol Wrecsam yn cael ei chynnal bob dydd Llun trwy gydol y flwyddyn ar Sgwâr y Frenhines, rhwng 9am a 4pm.
  • Mae marchnad a neuadd fwyd Tŷ Pawb ar agor rhwng 10am a 4pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd rhai masnachwyr y neuadd fwyd ar agor tan 6pm ar gyfer bwyd i fynd.

Mae hwn yn amser pwysig i gefnogi ein busnesau lleol. Ond cofiwch – nid yw’r feirws wedi diflannu ac mae cyn bwysiced ag erioed i aros yn ddiogel wrth i fesurau cyfnod clo barhau i gael eu llacio.

Mae dal yn hanfodol ein bod yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, defnyddio’r hylif diheintio dwylo sydd ar gael yn y siopau a’r marchnadoedd ac yn gwisgo mwgwd wyneb oni bai eich bod wedi eich eithrio.

Bydd ein pencampwyr pellter cymdeithasol o gwmpas unwaith eto i’ch cynorthwyo ac i ateb unrhyw ymholiadau.

Mae oddeutu 1 o bob 3 o bobl â Covid heb symptomau a gallent ei basio i eraill heb wybod.

Cadwch bellter o 2m a gwisgwch fasg man fo rhaid.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam Cyffredinol Wrexham General Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i deithwyr barchu staff a dilyn y cyngor diweddaraf
Erthygl nesaf A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn? A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English