Bydd ysgolion yn Wrecsam yn ailagor ar wahanol ddyddiau ar ôl gwyliau’r Nadolig / Blwyddyn Newydd ac os yw eich plentyn yn defnyddio cludiant i’r ysgol dylech fod wedi cael gwybod am hyn gan yr ysgol neu drwy eu cyfathrebiadau cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r wybodaeth yn seiliedig ar yr hyn ‘ddylai ddigwydd’, ond gallai newid oherwydd Covid-19 ac unrhyw ganllawiau neu newidiadau ychwanegol i reolau’r cyfyngiadau clo y gallai Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Efallai y bydd problemau hefyd a allai effeithio ar lefelau staffio yn yr ysgolion, presenoldeb disgyblion ac os bydd disgyblion yn teithio gydag hebryngwr, eu hargaeledd, ac efallai yr effeithir ar argaeledd gyrwyr y gweithredwr cludiant hefyd. Felly edrychwch ar wefan ysgol y disgyblion cyn dychwelyd ym mis Ionawr 2021 i weld a oes unrhyw ddiweddariadau, negeseuon neu newidiadau i’r dyddiad dechrau.
Rhowch yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Adran Gludiant am unrhyw broblemau cludiant perthnasol sydd gennych drwy’r e-bost school.transport@wrexham.gov.uk a fydd yn cael ei fonitro dros egwyl y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Dylech gynnwys unrhyw newidiadau perthnasol i ddyddiad dychwelyd y disgybl i’r ysgol – enw’r disgybl, yr ysgol a fynychir ac unrhyw wybodaeth a fydd yn helpu i sicrhau bod trefniadau cludiant priodol wedi’u gwneud.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG