Wrth i ni edrych tuag at fod yn garbon niwtral erbyn 2030, rydym yn edrych ar sut rydym yn gofalu am ein hamgylchedd gwyrdd yn ofalus iawn.
Mae ei iechyd yn hanfodol o ran dangos cynnydd i sicrhau ein bod yn parhau i leihau ein hôl troed carbon, yn ogystal ag yn lle dymunol i fod.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Un o’r ffyrdd a wnawn hyn, yw drwy blannu coed, gwrychoedd a choed ffrwythau traddodiadol – rydym wei plannu llwyth ohonynt. Plannwyd dros 1,500 dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a hyd yn oed mwy i’w plannu dros y misoedd nesaf, megis Derwen Mes Di-goes, Derwen Draddodiadol, Pinwydden yr Alban, Bedwen Arian, Coed Criafol, coed afal, gellyg ac eirin, sydd i gyd yn fathau traddodiadol o ffrwythau, ac yn Gymreig yn bennaf.
Rydych yn garbon niwtral os ydi swm yr allyriadau CO₂ rydych yn ei ryddhau i’r atmosffer yr un fath a swm yr allyriadau CO₂ rydych yn ei dynnu o’r atmosffer, felly mae coed yn hanfodol i’n helpu ni ar ein taith tuag at fod yn ddi-garbon, a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Maent yn lleihau’r cyfanswm o nwyon tŷ gwydr yn ein atmosffer drwy amsugno carbon deuocsid (CO2).
Nid oes ffigur clir y gallwn ei roi ar y CO2 maent yn amsugno allan o’r atmosffer, gan fod hyn yn dibynnu ar fath a maint y goeden, ond gallwn fod yn sicr, gyda’n gilydd y galllwn wneud gwahaniaeth.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Nid yn unig yw’r holl blannu’n helpu ein hamgylchedd, ond mae’n creu cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt hefyd, gan helpu i greu amgylchedd sy’n fuddiol i ni gyd ei fwynhau.
“Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn rhywbeth yr ydym yn canolbwyntio drylwyr arno, ac mae hwn yn un menter yn unig sydd wedi cael ei gynnal, wrth i ni ganolbwyntio ar ein meysydd blaenoriaeth, Adeiladau ac ynni, Defnydd Tir ac Isadeiledd Gwyrdd, Cludiant a symudedd, a Chaffael a’r gadwyn gyflenwi.”
Bydd ychwanegiad tir yn Erddig i fod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru hefyd yn cynyddu’r nifer o goed sydd gennym yn Wrecsam.
Wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau i leihau carbon, a mynd i’r afael â newid hinsawdd ymhob maes blaenoriaeth, rydym hefyd yn:
- Cyflwyno cerbydau trydan i’r fflyd pan mae angen eu disodli
- Cyflwyno beiciau trydan i staff eu defnyddio, gan gynnwys beic ecargo newydd – i wneud y siwrnai i’r gwaith yn haws
- Asesu ein hysgolion i’w gwneud mor garbon isel â phosib
- Parhau i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau bod ein hadeiladau newydd, wedi’u hadnewyddu yn ddi-garbon ac yn arbed ynni
- Cynyddu’r rhwydwaith o bwyntiau gwefru ceir trydan ar ein tir
- Gweithio gyda’n staff i ganolbwyntio ar ostwng carbon yn eu meysydd gwasanaeth
- Gweithio i gyflawni statws Llythrennedd Carbon ar gyfer yr holl sefydliad
- Profi rhai syniadau newydd i wella ansawdd aer o amgylch rhai ysgolion
- Gweithio gyda Xplore! i gynnal gweithdai ysgolion i greu arddangosfa ryngweithiol gyffrous i bawb gael ymweld a mwynhau
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH