Mae 2018 yn nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r Tachwedd hwn bydd ddigon o gyfle i gofio’r achos hanesyddol hon, a darganfod mwy
Dyma’r digwyddiadau y gallwch ymuno â hwy yng nghanol y dref:
Ffos Symudol ac Awyren Ddwbl y Rhyfel Byd Cyntaf
Dydd Sadwrn, 10 Tachwedd, 10am – 4pm – Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Dewch i ddysgu am fywyd yn y ffosydd drwy weld ffos symudol y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ffos yn darparu cipolwg diddorol ar fywyd Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ogystal â’r ffos, bydd awyren ddwbl –Bristol Scout Static gwreiddiol y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei harddangos. Mae nifer o ddarnau gwreiddiol yr awyren ddwbl wedi goroesi hyd heddiw, a dyma’r unig enghraifft yn y byd o awyren ddwbl sy’n dal i hedfan.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Dawns De Rhyfel Byd Cyntaf
Dydd Sadwrn, 10 Tachwedd, 2pm – 4pm – Neuadd Goffa, Wrecsam
Dewch draw am Ddawns De Gymreig hen ffasiwn, gyda cherddoriaeth fyw i’ch hudo yn ôl i’r gorffennol. Mae pris tocyn yn cynnwys sgon cartref ffres gyda jam a hufen, cacennau cri traddodiadol, bara brith a diod poeth.
Tocynnau ar gael am £3 o’r Ganolfan Groeso – 01978 292015
Gwasanaeth Coffa Blynyddol
Dydd Sul, 11 Tachwedd, 10:55am – Cofio’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymraeg, Bodhyfryd
Am 10.59am bydd biwglwr yn canu’r ‘Caniad Olaf’ a byddwn yn cynnal dau funud o dawelwch. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu’r digwyddiad teimladwy hwn i gofio’r rheiny a frwydrodd a cholli eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r Ail Ryfel Byd ac anghydfodau eraill o ganlyniad.
Môr o Oleuni
Dydd Sul, 11 Tachwedd, 7pm – Eglwys San Silyn
Bydd “Môr o Oleuni” yn disgleirio ar draws y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU wrth i 1000 o ffaglau gael eu goleuo i gofio diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y goleuo yn dechrau am 7pm ar frig Eglwys San Silyn.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION