’Rydym yn gofyn i bawb gael golwg ar eu calendr biniau fel yr ydym yn dynesu at y Nadolig, i sicrhau nad ydynt yn colli unrhyw gasgliadau.
Mae yna newidiadau i ddyddiau casglu arferol rhai aelwydydd dros gyfnod yr Ŵyl, ac mae hyn yn ffordd dda o wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i chi roi’ch biniau allan.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’r calendr i’w weld yma.
Pethau eraill o bwys
Ar yr wythnos a fydd yn dechrau ar 20 Rhagfyr, cesglir gwastraff cyffredinol (bin du/glas) o bob aelwyd yn Wrecsam, yn ogystal â gwastraff bwyd ac ailgylchu.
Ar yr wythnos yn dechrau 27 Rhagfyr, ni chesglir gwastraff cyffredinol (bin du/glas) na gwastraff gardd (bin gwyrdd) o unrhyw aelwyd yn Wrecsam – byddwn yn casglu gwastraff bwyd ac ailgylchu yn unig rhwng dydd Mercher a dydd Gwener yr wythnos honno.
Bydd casgliadau gwastraff cyffredinol yn ailddechrau yr wythnos ganlynol (yr wythnos yn dechrau ar 3 Ionawr), pan gesglir gwastraff cyffredinol (bin du/glas) o bob aelwyd yn Wrecsam, yn ogystal â gwastraff bwyd ac ailgylchu. Er ei bod yn ŵyl y banc bydd ein criwiau yn gweithio ddydd Llun, 3 Ionawr.
Ailgylchu ychwanegol
Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llenwi, gallwch adael unrhyw ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).
Ond os oes gennych ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech yn ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.
Hefyd, byddwn yn casglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat sydd wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled nad yw’n fwy na’n lletach na sach glas safonol.
Gall aelwydydd a gollodd eu casgliad ailgylchu arferol ddydd Llun a dydd Mawrth, 27 a 28 Rhagfyr, adael unrhyw ddeunydd ychwanegol i’w ailgylchu i gael ei gasglu yr wythnos ganlynol (yr wythnos yn dechrau ar 3 Ionawr), cyn belled â’i fod yn cael ei adael fel yr eglurir uchod.
Canolfannau ailgylchu
Mae nifer o drigolion yn defnyddio ein tair canolfan ailgylchu dros gyfnod y Nadolig, ond y mae’n bwysig iawn i chi gynllunio hynny ymlaen llaw er mwyn i’ch ymweliad fod mor sydyn a rhwydd ag sy’n bosib.
Bagiau Cadi
Cofiwch y gall unrhyw breswyliwr sydd angen mwy o fagiau glymu bag i ddolen eu cadi ymyl palmant ar y diwrnod casglu, a bydd y casglwyr yn gadael rholyn newydd i chi.
Neu, gallwch bellach gasglu bagiau cadi o un o 40 lleoliad yn Wrecsam
Ailgylchu – dewch i nôl bagiau bin bwyd a sachau glas o dros 40 lleoliad yn Wrecsam
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL