Mae’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sydd ar waith ar hyn o bryd yng nghanol dinas Wrecsam wedi bod ar waith ers rhwng deg ac ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae newidiadau sylweddol wedi bod yn Wrecsam, ei phoblogaeth, y teithiau mae pobl yn eu gwneud a’r ffordd maent yn symud o gwmpas.
Mae arnom eisiau sicrhau bod canol y ddinas yn gallu ffynnu a datblygu fel bod gennym ddinas sy’n addas i’r dyfodol; yn ogystal â sicrhau ein bod yn gwella’r amgylchedd, cadw’r rhai sy’n defnyddio’r ffyrdd yn ddiogel a chaniatáu i draffig symud yn briodol yng nghanol y ddinas ac o’i chwmpas.
Mae’n bosibl y bydd rhai ohonoch wedi gweld gwybodaeth am rai o’r newidiadau sy’n cael eu cynnig ar gyfer canol y ddinas, neu hyd yn oed wedi rhoi eich barn drwy nifer o weithdai a gynhaliwyd fel rhan o’n Cynllun Creu Lleoedd.
Er mwyn i bawb allu dweud eu dweud rydym wedi paratoi holiadur Eich Llais y gallwch ei lenwi yma.
Traffig a’r Cynllun Creu Lleoedd
Mae rhan o’r Cynllun Creu Lleoedd yn ymwneud â siwrneiau o fewn ardal ganolog y ddinas, yn arbennig yn ystyried pwyntiau cyrraedd a mynediad i gyrchfannau allweddol gyda chanolbwynt ar ‘deithio llesol’ e.e. cerdded, beicio a mynd ar olwynion (yn defnyddio cadair olwyn neu gymhorthion symudedd) a darparu mynediad diogel, cyfleus a deniadol i bawb. Mae canol Wrecsam yn manteisio ar fod yn gymharol fflat a chompact.
Mae’r pellter o’r Orsaf Gyffredinol yn y gorllewin i Ddôl yr Eryrod yn y dwyrain yn 1.2 cilomedr – neu oddeutu 15 munud i gerdded, ac mae’r mwyafrif o’r prif siopau, cyfleusterau a gwasanaethau wedi eu lleoli o fewn radiws 200m – neu ychydig o funudau i gerdded o ganol y ddinas.
Er gwaethaf yr amodau ffafriol hyn, mae yna heriau hygyrchedd clir yn Wrecsam, a ragwelir ac union, ac mae’r Cynllun Creu Lleoedd wedi nodi’r canlynol fel prif amcanion ar gyfer gwella:
- Mynediad i bawb
- Cael gwared â rhwystrau corfforol a chanfyddiadol ar gyfer symud
- Cryfhau ansawdd a phrofiad llwybrau rhwng pwyntiau cyrraedd a phrif gyrchfannau.
- Gwelliannau ar gyfer llywio a chanfod ffordd
- Gwelliannau ar gyfer isadeiledd beicio (wedi derbyn sylw yn rhannol drwy’r prosiect Teithio Llesol)
- Adolygu symudiad, rheolaeth cerbydau a Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar gyfer rhwydwaith ffordd mwy ymarferol, effeithiol, diogel ac y gellir ei reoli
- Profi ar gyfer cerbydau trydan yn y dyfodol
- Adolygu darpariaeth parcio i gwtogi amhariad, lleihau traffig ac annog nifer yr ymwelwyr
- Ystyried materion hygyrchedd er mwyn cefnogi’r economi min nos
Dywedodd y Cyng Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae’n bwysig bod traffig yn cael ei reoli’n effeithiol yng nghanol y ddinas ar gyfer gyrwyr a cherddwyr. Os ydych yn berchen ar fusnes, yn ymweld â chanol y ddinas neu’n gyrru yn y ddinas, yna a fyddech cystal â chymryd amser i lenwi’r ymgynghoriad i wneud yn siŵr fod gennym syniad da o ddisgwyliadau pobl er mwyn sicrhau bod ein hargymhellion yn adlewyrchu barn bawb.”
Dywedodd y Cyng Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Gyda chymaint o ymwelwyr yng nghanol y ddinas yn arbennig o dramor, mae’n bwysig bod gennym rwydwaith ffordd diogel y gellir ei reoli i ganiatáu ar gyfer ymwelwyr yn ystod y dydd a min nos.”
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dyfarnu £500,000 i fynd i’r afael ag eiddo gwag yng nghanol y ddinas