Aelodau undeb Unite yn pleidleisio i dderbyn cynnig cyflogaeth
Ar ôl sawl wythnos o streicio mae Unite – yn dilyn pleidlais gan yr aelodau – wedi rhoi’r gorau i weithredu diwydiannol ac wedi derbyn y cynnig gan Gyngor Wrecsam.
Y prynhawn yma (dydd Gwener, Hydref 27) dywedodd Unite wrth y Cyngor bod ei aelodau wedi pleidleisio i dderbyn y cynnig, rhoi’r gorau i weithredu a mynd yn ôl i’r gwaith ddydd Llun (Hydref 30)
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Yn ystod y streic, mae wedi bod yn anodd i bawb, gan gynnwys y staff sydd wedi parhau i weithio, ond rwy’n falch ein bod wedi gallu dod o hyd i datrysiad a fydd yn golygu bod ein staff yn dychwelyd i gwaith.
“Rydym yn awr eisiau symud ymlaen gyda’n gilydd a sicrhau bod gwasanaethau’n dychwelyd i’r drefn arferol cyn gynted â phosib i bobl Wrecsam.”
Beth mae hyn yn ei olygu i’ch casgliad bin chi?
Rydym yn ymwybodol, er gwaethaf ymdrechion gorau dros wythnosau diwethaf y streic, nad ydym wedi llwyddo i gasglu’r holl wastraff ac ailgylchu.
Felly’r wythnos nesaf (Hydref 30 – 30 Tachwedd), byddwn yn gwneud ein gorau i roi casgliad bin du ac ailgylchu i bawb, ar eu diwrnod casglu arferol.
Plîs cadwch gyda ni, gan y bydd y casgliadau hyn yn drymach na’r arfer, gan arwain at ein cerbydau’n dod yn llawn yn gynt.
Fodd bynnag, byddwn yn gwneud ein gorau i gyrraedd pawb.
Y cynllun ar gyfer yr wythnos ganlynol (yr wythnos sy’n dechrau 6 Tachwedd) yw y byddwn yn dychwelyd i galendrau casglu arferol (cyn streic).
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard: “Rydyn ni’n gwybod y bydd pobl eisiau i gasgliadau biniau fynd yn ôl fel arfer yn gyflym, felly rydyn ni’n mynd i dreulio’r wythnos nesaf yn ceisio clirio biniau du ac ailgylchu pawb, er mwyn ein galluogi i ddychwelyd i gasgliadau arferol yr wythnos ganlynol.
“Plîs cadwch gyda ni gan y byddwn yn casglu nifer sylweddol o wastraff tra hefyd yn cael gweithwyr yn ôl i’r gwaith, dal i fyny ac aildrefnu ein wagenni a’n timau biniau.
“Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach yr wythnos nesaf.”