Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad ar y wybodaeth a gafodd ei bostio ar y blog hwn wythnos diwethaf (5.6.20).
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
• Mae’r rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu yn parhau i gael ei chynnal ledled Cymru. Dilynwch gyngor Llywodraeth Cymru, a helpwch i gadw eich hunain ac eraill yn ddiogel.
• Rydym yn gwybod y bydd nifer o rieni yn teimlo’n ansicr am drefniadau’r ysgolion yn ailagor ar 29 Mehefin, a hoffem sicrhau fod diogelwch y plant a’r staff yn flaenoriaeth i ni.
• Mae parcio am ddim mewn meysydd parcio’r cyngor wedi ei ymestyn tan ddiwedd mis Medi.
• Yn gynharach yr wythnos yma, fe godom y gwaharddiad dros dro ar drelars yn ein canolfan ailgylchu gwastraff cartref ym Mrymbo.
• Rydym wedi helpu 1,945 o fusnesau ac unig fasnachwyr yn y fwrdeistref sirol wrth ddarparu £23m mewn grantiau busnes ers i’r cyfyngiadau ar symud ddechrau. Os nad ydych wedi gwneud eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgeisio erbyn 30 Mehefin.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Profi, Olrhain a Diogelu…mae’n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ein rhan
Fel eich bod yn siŵr o wybod, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ers 1 Mehefin.
Mae hyn yn cynnwys profi ac ‘olrhain cysylltiadau’ – sy’n cynnwys olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad gyda rhywun sydd ag afiechyd heintus, ac yn eu cynghori ar beth i wneud (e.e. cael prawf, hunan-ynysu)
Felly os ydych wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd â chadarnhad eu bod gyda Covid-19, efallai cewch alwad gan rywun sydd yn ‘olrhain cysylltiadau’.
Mae’r rhaglen yn bwysig iawn i Gymru, ac mae’n bwysig ein bod i gyd yn cydweithredu ac yn gwneud ein rhan.
Dilynwch gyngor Llywodraeth Cymru…a helpwch i amddiffyn eich hunain ac eraill.
Mae’n bwysig cael prawf os oes gennych un o’r symptomau canlynol: peswch parhaus; tymheredd uchel neu rydych wedi colli’r gallu i flasu neu arogli.
Gallwch archebu apwyntiad yn eich canolfan profi lleol ar-lein.
Ewch i https://t.co/qHtAWrJXyJ am fwy o wybodaeth. pic.twitter.com/CQ2hjtoxGs
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) June 10, 2020
Amddiffyn eich hunain rhag twyll
Mae hefyd yn syniad da i fod yn wyliadwrus yn erbyn twyll posibl – gan bobl yn esgus bod yn olrhain cysylltiadau. Eto, dilynwch gyngor Llywodraeth Cymru…
Byddwch yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o seiberddiogelwch, ffug-negeseuon, gwe-rwydo neu dwyll. Ni fydd neb yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth ar wahân i restr o’ch cysylltiadau. Os oes gennych unrhyw amheuon yna ni ddylech roi'r wybodaeth. pic.twitter.com/MrhcVfvHET
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) June 8, 2020
Rhagor o wybodaeth am ysgolion yn ailagor ar 29 Mehefin
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Kirsty Williams – Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru – y bydd ysgolion yn ailagor am bedair wythnos ar ddydd Llun, 29 Mehefin.
Rydym yn gwybod bydd nifer o rieni yn teimlo’n ansicr am y trefniadau. Mae hyn yn ddealladwy, a hoffem roi sicrwydd i chi mai diogelwch y plant a’r staff yw ein blaenoriaeth.
Ni fydd pob disgybl yn mynychu pob diwrnod, a ni fydd mwy na thraean yn yr ysgol ar yr un pryd.
Bydd y dosbarthiadau yn llai a bydd ysgolion yn ymdrechu i weithredu pellter cymdeithasol.
Y nod yw rhoi cyfle i ddisgyblion ddal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi”.
Ni fydd eich plant yn dilyn eu hamserlen neu gwricwlwm arferol – bwriad hyn yw cefnogi eu llesiant a’u paratoi ar gyfer tymor yr hydref.
“Oes raid i mi anfon fy mhlant yn ôl?”
Dywedodd y Gweinidog ei bod yn disgwyl i ddisgyblion fynychu, yn unol â pha bynnag drefniadau y mae pob ysgol yn eu rhoi ar waith rhwng 29 Mehefin a 24 Gorffennaf.
Fodd bynnag, gwnaeth hefyd yn glir os na fydd rhieni yn anfon eu plant yn ôl, ni fydd unrhyw gosbau.
Pan fydd eich ysgol yn cysylltu, bydd yn gofyn i chi gadarnhau os bydd eich plentyn yn mynychu ar y diwrnodau sydd wedi’i dyrannu iddynt. Mae’n hynod o bwysig eich bod yn ymateb, gan fydd hyn yn helpu’r ysgol i gynllunio.
Os yw eich plentyn yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim i’r ysgol, gofynnir i chi am hyn hefyd – i’n helpu i weithio allan beth sy’n bosib gyda chontractwyr cludiant.
Mae cynllunio ar gyfer 29 Mehefin yn dasg anferth, ac rydym yn siŵr eich bod yn gwerthfawrogi fod nifer o bethau i’w hystyried.
Ond hoffem roi sicrwydd i chi mai diogelwch eich plentyn yw ein blaenoriaeth, a byddwn yn ysgrifennu at rieni eto pan fydd gennym ganllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ymestyn parcio am ddim
Mae parcio am ddim ym meysydd parcio’r cyngor wedi ei ymestyn tan ddiwedd mis Medi.
Fe wnaethom roi’r gorau i godi tâl ar bobl pan ddaeth argyfwng coronafeirws i’r amlwg – i gefnogi gweithwyr allweddol a’r bobl yn gwneud siwrneiau hanfodol i brynu bwyd a nôl meddyginiaeth.
Yn ddiweddar yr wythnos hon, cytunodd cynghorwyr ar y Bwrdd Gweithredol i ymestyn y cytundeb tan ddiwedd mis Medi.
Wrth wneud hyn, rydym yn gobeithio cefnogi unrhyw fusnesau yng nghanol y dref sy’n gallu agor yn yr wythnosau a misoedd nesaf, wrth i ni gydnabod fod hyn wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i nifer o siopau a’u gweithwyr.
Gwahardd trelar wedi ei godi yn safle ailgylchu Brymbo
Yn gynharach yr wythnos hon, fe godom y gwaharddiad dros dro ar drelars yn ein canolfan ailgylchu gwastraff y cartref ym Mrymbo.
Mae’r system bwcio newydd yn gweithio’n dda, felly mae modd i ni ddechrau derbyn trelars eto.
I archebu slot ar safle Brymbo, ffoniwch 01978 801463. Does dim rhaid i chi archebu slot ar safleoedd Bryn Lane a Phlas Madoc.
Diolch i bawb am ddilyn y rheolau yn ein canolfannau ailgylchu, a helpu i gadw pawb yn ddiogel.
A allai’r arian hwn helpu eich busnes? Ymgeisiwch erbyn 30 Mehefin
Rydym wedi helpu 1,945 o fusnesau ac unig fasnachwyr yn y fwrdeistref sirol wrth ddarparu £23m mewn grantiau busnes ers i gyfyngiadau ar symud ddechrau.
Mae hyn yn cynnwys elusennau bach a chlybiau chwaraeon cymunedol yn dilyn adolygiad diweddar o’r rheolau cymhwysedd.
Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd y cynllun grantiau am geisiadau yn cau ar 30 Mehefin.
Felly dyma alw ar unrhyw fusnes nad ydynt eisoes wedi derbyn benthyciad busnes neu gyllid gan y Gronfa Cadernid Economaidd, i fynd i’n gwefan i weld os ydynt yn gymwys – ac os ydynt – i wneud cais.
Cewch hyd i’r wybodaeth berthnasol i gyd ar ein gwefan, gan gynnwys meini prawf diwygiedig ar gyfer elusennau bach a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol.
Rydym yn gofyn yn benodol i berchnogion siopau, swyddfeydd, salonau trin gwallt, garejys a gorsafoedd petrol a chanolfannau neu adeiladau cymunedol nad ydynt yn perthyn i’r cyngor i ystyried hawlio.
Nodyn – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid 19
Darperir y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl ei wneud amdano gan:
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru tua 12.30pm.
• Datganiadau teledu dyddiol gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) tua 5pm.
• Briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19
Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 5.6.20