Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth oedd yn y blog yma ddoe (30.3.20).
Prif negeseuon heddiw
• Rydym eisiau diolch i’r holl weithwyr gofal plant proffesiynol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, yn ogystal â staff ysgol yn y fwrdeistref sirol.
• Rydym yn rhoi grantiau i fusnesau sydd yn talu ardrethi busnes.
• Rydym yn cau ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.
• Bellach, caiff marwolaethau eu cofrestru dros y ffôn.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Diolch i weithwyr gofal plant proffesiynol a staff ysgol
Rydym eisiau diolch o waelod calon heddiw i weithwyr gofal plant yn y fwrdeistref sirol.
Mae yna gymaint o bobl mewn cymaint o broffesiynau gwahanol sydd yn chwarae rôl holl bwysig ar hyn o bryd, ac mae gweithwyr gofal plant proffesiynol yn haeddu ein diolch a’n cydnabyddiaeth.
Mae’r sefyllfa’n newid yn ddyddiol, ond ar hyn o bryd mae gennym 33 lleoliad gofal plant grŵp ar agor yn Wrecsam (e.e. meithrinfeydd dydd), yn ogystal â 33 o warchodwyr plant sydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau.
Trwy aros ar agor, maent yn sicrhau fod gweithwyr allweddol sydd ag anghenion gofal plant yn gallu parhau i wneud eu swyddi a helpu i’n cadw’n ddiogel. Maent hefyd yn helpu i sicrhau y gellir gofalu am blant diamddiffyn mewn modd diogel.
Rydym eisiau diolch o waelod calon hefyd i bawb sydd yn gweithio yn ein hysgolion ar hyn o bryd – yn cynnwys penaethiaid, athrawon, y staff arlwyo, staff cymorth a gwirfoddolwyr.
Trwy gadw ein hysgolion ar agor i blant gweithwyr allweddol – yn ogystal â phlant diamddiffyn – maent yn gwneud cyfraniad enfawr ac mae’n anodd dod o hyd i eiriau i wneud cyfiawnhad â nhw.
Rydym yn ddiolchgar tu hwnt am bopeth rydych chi’n ei wneud.
Cefnogaeth i fusnesau lleol
Mae effaith y Coronafeirws wedi bod yn annisgwyl a chreulon i nifer o bobl sy’n rhedeg busnes.
Serch hynny mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn cydweithio i ddarparu cymaint o gefnogaeth ag y gallwn…nid flwyddyn nesaf, nid fis nesaf, ond rŵan.
Un ffordd rydym ni’n ceisio helpu yw rhoi grantiau i fusnesau sydd yn talu ardrethi busnes.
Hyd yn hyn, rydym wedi talu £845,000 i gaffis, siopau, trinwyr gwallt a mathau eraill o fusnesau yn Wrecsam, a bydd £525,000 arall yn cael ei dalu erbyn ddydd Gwener yma (3 Ebrill).
Mae’r cymorth ariannol yn hanfodol i helpu i ddiogelu ein economi lleol a swyddi, ac rydym i’n parhau i brosesu grantiau’n ddyddiol.
Gallwch ddarllen mwy am y grantiau isod, ac os ydych chi’n rhedeg busnes, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r cymorth gwahanol sydd ar gael. Fe allai wneud gwahaniaeth enfawr i sicrhau fod eich busnes yn goroesi’r argyfwng yma.
Grantiau ar gyfer eich busnes?
Ydych chi’n talu ardrethi busnes? Gall Cyngor Wrecsam ddarparu grantiau o £10,000 i gwmnïau sydd yn derbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach.
Mae’r arian ar gael gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r grantiau wedi’u hanelu at fusnesau sydd wedi’u lleoli mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000.
Mae grant o £25,000 hefyd ar gael i fusnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, sydd wedi’u lleoli mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.
Dim ond ar gyfer cwmnïau sydd ar y gofrestr ardrethi busnes ar 20 Mawrth, 2020 y mae’r ddau grant ar gael
Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth, neu eisiau gwybod am becynnau cefnogaeth eraill, cysylltwch â’n tîm Busnes a Buddsoddi drwy ffonio 01978 667300 neu e-bostiwch business@wrexham.gov.uk
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Gwastraff ac ailgylchu
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Rydym yn cau pob un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.
Fe gaeodd safle Plas Madoc ddoe, a bydd Bryn Lane a Brymbo yn cau am 4pm ddydd Gwener yma (3 Ebrill).
Yn y cyfamser, cofiwch mai dim ond os oes wirioneddol raid y dylech ymweld â’n canolfannau ailgylchu.
Os bydd y safleoedd yn rhy brysur, efallai y bydd rhaid i ni ystyried eu cau yn gynt na’r disgwyl.
Rydym ni’n cau’r safleoedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU ar deithio hanfodol.
Cofrestru marwolaeth dros y ffôn
Pan fydd pobl yn cofrestru marwolaeth un o’u hanwyliaid, fe wyddom y gall fod yn gyfnod anodd a llawn gofid iddynt.
Er mwyn cefnogi mesurau cadw pellter cymdeithasol, nid ydym bellach yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb.
Serch hynny, gall unrhyw un sydd eisiau cofrestru marwolaeth ffonio 01978 298997 i wneud apwyntiad dros y ffôn.
Bydd y Cofrestrydd yn eu ffonio nôl ar amser yr apwyntiad, a byddant yn darparu’r un gefnogaeth drugarog a phroffesiynol ag arfer.
Mae ysbytai lleol, meddygon teulu a chyfarwyddwyr angladdau yn ymwybodol o’r weithdrefn newydd.
Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?
Fe allwch chi gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn annog pobl i gofrestru.
Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Caiff gwybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys y Prif Weinidog).
• Mewn briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym iawn, felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth fel y bo angen ac fel y bo’n briodol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19