Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad i’r wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddoe (25.3.20).
Negeseuon allweddol heddiw:
• O ddydd Llun, 30 Mawrth, caiff cludiant o’r cartref i’r ysgol ei atal nes clywir yn wahanol ar draws y fwrdeistref sirol.
• Os yw eich plant yn gymwys am brydau ysgol am ddim, byddwch yn gallu casglu pecynnau ‘bwyd i fynd’ o un o’r 10 safle o fory ymlaen.
• Byddwn yn gohirio cyflwyno’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd newydd, ac yn parhau i gasglu gwastraff gardd am ddim am gyhyd â phosibl. Os ydych chi eisoes wedi talu, ni fyddwch yn colli allan …. byddwch yn dal i dderbyn gwasanaeth 12 mis llawn pan fydd y cynllun yn cychwyn.
• Peidiwch â rhoi hancesi papur yn y bagiau ailgylchu glas nac ym mocs uchaf y bin olwynion.
• Rydych chi bellach yn gallu hawlio Budd-Dal Plant neu Gredyd Cynhwysol cyn i chi gofrestru genedigaeth eich plentyn.
• Sicrhewch eich bod yn gwybod sut fydd y cyfreithiau newydd a gyflwynwyd i fynd i’r afael â Covid-19 yn cael effaith ar eich busnes.
• Caiff y cynllun gwirfoddoli sy’n gweithredu yn ardal Wrecsam ei gynnal gan gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a gallwch gofrestru ar-lein.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Mae’r DU wedi profi newidiadau sylweddol dros y dyddiau diwethaf – ac fel y gwyddoch – dim ond gwasanaethau hanfodol y cyngor rydym yn eu darparu ar hyn o bryd.
Pethau rydym wedi eu nodi fel hanfodol iawn i’n cymunedau ac ar gyfer rhedeg y cyngor yw’r rhain. Gwasanaethau Cymdeithasol, llety gwarchod, gwagio biniau a phethau eraill y mae pobl yn dibynnu arnynt.
Mae ein staff yn gweithio’n galed i gynnal y gwasanaethau hyn, ond mae’n heriol. Nid ydym erioed wedi wynebu her fel hon o’r blaen.
Fel ein cwsmeriaid a’n trigolion, mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i’n helpu ni, er mwyn ein galluogi i barhau i gynnal y gwasanaethau hyn a darparu cymorth lle mae ei angen fwyaf.
Mae nifer uchel iawn o alwadau i rifau ffôn y cyngor – cysylltwch â ni dros y ffôn pan fo hynny’n hanfodol ac yn ymwneud â gwasanaeth hanfodol yn unig.
Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu ymateb cyflym i bobl sydd wirioneddol ei angen.
Dylech barhau i gadw pellter oddi wrth eraill a dilyn cyfarwyddiadau’r Llywodraeth. Trwy gadw draw oddi wrth ein gilydd, rydym yn achub bywydau a helpu i gadw Wrecsam mor ddiogel â phosibl.
Rydym wedi casglu’r wybodaeth a ganlyn i’ch helpu i ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r cyngor.
Ysgolion
Fel rydych chi’n gwybod, mae ysgolion yn Wrecsam wedi bod yn darparu lleoedd i blant ‘gweithwyr allweddol’, yn ogystal â phlant sydd wedi’u cofrestru fel plant diamddiffyn.
Os ydych chi’n weithiwr allweddol, darllenwch y canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru.
“Os ydych chi wedi’ch pennu’n weithiwr hanfodol ond bod modd i chi wneud rhannau hanfodol eich swydd wrth weithio o’ch cartref, yna dylech wneud hynny.
“Os yw un rhiant yn weithiwr hanfodol ond nad yw’r llall, yna dylai’r rhiant nad yw’n weithiwr hanfodol ddarparu trefniadau diogel eraill yn y cartref lle bo’n bosibl.”
Prydau Ysgol am Ddim
Rydym ni’n gweithio’n galed i roi mesurau ar waith i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant nad ydynt yn yr ysgol ar hyn o bryd.
Os yw eich plant yn gymwys am brydau ysgol am ddim, byddwch yn gallu casglu pecynnau ‘bwyd i fynd’ o un o’r safleoedd canlynol o fory ymlaen.
• Swyddfa Ystâd Parc Caia
• Swyddfa Ystâd Plas Madoc
• Swyddfa Ystâd Brychdyn
• Swyddfa Ystâd Gwersyllt
• Swyddfa Ystâd Rhos (Stiwt)
• Neuadd Goffa Wrecsam
• Plas Pentwyn, Coedpoeth
• Canolfan Adnoddau Llai
• Llyfrgell Owrtyn (Ystafelloedd Cocoa)
• Ysgol y Waun
Gallwch fynd i’ch safle agosaf.
Dylid casglu’r pecyn cinio rhwng 11.30am ac 1pm gan riant neu ofalwr.
Bydd yn rhaid i chi roi enw eich plentyn / plant a’r ysgol y maent yn ei mynychu i’r staff, a byddwch ond yn gallu casglu pecyn cinio i’ch plentyn / plant eich hun.
Bydd gofyn i chi ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ogystal, drwy gadw pellter oddi wrth bobl eraill.
Byddwn yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn yn ystod dyddiau ysgol arferol.
Cludiant i’r Ysgol
O ddydd Llun, 30 Mawrth, caiff cludiant o’r cartref i’r ysgol ei atal nes clywir yn wahanol ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae hyn er mwyn lleihau teithio nad yw’n angenrheidiol ac er mwyn sicrhau bod plant yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd.
Mae’r nifer sy’n manteisio ar gludiant o’r cartref i’r ysgol wedi bod yn hynod o isel yr wythnos hon, ac mae hyn wedi cyfrannu at y penderfyniad hefyd.
Bydd cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer plant ag AAA (Anghenion Addysg Arbennig) yn parhau ar gyfer plant sy’n teithio i’w cyfleusterau arferol.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Gwastraff ac ailgylchu
Gwastraff gardd
Roeddem ni wedi bwriadu cyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff gardd newydd y byddai’n rhaid i drigolion dalu amdano bob blwyddyn ym mis Ebrill.
Byddwn yn gohirio cyflwyno’r gwasanaeth hwn, ac yn parhau i gasglu gwastraff gardd am ddim am gyhyd â phosibl.
Ni allwn ddarparu unrhyw ad-daliadau, ond os ydych chi eisoes wedi talu’r £25, byddwch yn derbyn gwasanaeth 12 mis llawn pan fydd y cynllun yn dechrau.. felly ni fyddwch yn colli allan. Does dim rhaid i chi gysylltu â ni, mae gennym gofnod llawn o’r cwsmeriaid sydd wedi talu.
Er mwyn helpu i leddfu’r pwysau ar ein staff yn y Ganolfan Gyswllt, ni fyddwn yn derbyn taliadau am y cynllun newydd nes clywch chi’n wahanol, byddwn ond yn ymdrin ag ymholiadau ar gyfer gwasanaethau hanfodol.
Os nad ydych chi eisoes wedi talu, peidiwch â phoeni. Byddwn yn ailddechrau cymryd taliadau pan fydd yr argyfwng drosodd, a phan fyddwn mewn sefyllfa i gyflwyno’r gwasanaeth newydd.
Mae’n bwysig ein bod yn lleddfu’r pwysau ar ein staff yn y Ganolfan Gyswllt, bydd pobl â chyflyrau iechyd presennol yn derbyn llythyrau gan y Llywodraeth dros y dyddiau nesaf, a bydd rhai ohonynt angen cysylltu â ni i ofyn am gymorth.
Felly mae’n bwysig bod ein staff ar gael i’w helpu nhw.
Os oes arnoch chi angen cysylltu â ni, anfonwch e-bost at contact-us@wrexham.gov.uk neu ymwelwch â’n gwefan ar www.wrexham.gov.uk.
Hancesi Papur
Peidiwch â rhoi hancesi papur yn y bagiau ailgylchu glas nac ym mocs uchaf y bin olwynion.
Dylid rhoi hancesi papur mewn bagiau a’u rhoi mewn biniau sbwriel cyffredinol.
Mae ein criwiau casglu wedi rhoi gwybod am gynnydd yn nifer yr hancesi papur a gaiff eu rhoi mewn cynwysyddion ailgylchu dros yr wythnos ddiwethaf.
Os oes unrhyw aelod o’ch cartref wedi dangos symptomau o Covid-19, dylid rhoi hancesi papur mewn dwy fag, eu clymu’n dynn a’u cadw ar wahân i wastraff eraill.
Dylid neilltuo’r bagiau hyn am o leiaf 72 awr, cyn eu rhoi yn eich bin gwastraff cartref allanol.
Cofrestru genedigaethau a hawlio Budd-Dal Plant / Credyd Cynhwysol
Rydych chi bellach yn gallu hawlio Budd-Dal Plant neu Gredyd Cynhwysol cyn i chi gofrestru genedigaeth eich plentyn.
Dan amgylchiadau arferol, dylid cofrestru’r enedigaeth cyn i chi wneud hawliad, ond mae’r rheolau wedi newid yn sgil y sefyllfa bresennol.
Mae bob apwyntiad ar gyfer cofrestru genedigaethau a phriodasau / partneriaethau sifil yn Neuadd y Dref wedi’u gohirio nes y clywch chi’n wahanol.
Cymorth Busnes
Cyfreithiau newydd
Sicrhewch eich bod yn gwybod sut fydd y cyfreithiau newydd a gyflwynwyd er mwyn mynd i’r afael â Covid-19 yn cael effaith ar eich busnes.
Rhent masnachol
Os ydych chi’n un o’n tenantiaid masnachol neu’n ddeiliad stondin, os nad ydych chi eisoes wedi derbyn neges gennym, byddwch yn derbyn e-bost cyn bo hir ynghylch taliadau gwasanaeth a rhent.
Os yw’r sefyllfa bresennol wedi cael effaith ar eich busnes, mae cyfnod ‘gwyliau’ tri mis ar daliadau ffioedd gwasanaeth a rhent ar gael (rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin).
Mae’r Llywodraeth wedi awgrymu’r un cyfnod o amser ar gyfer ‘gwyliau’ morgais.
Bydd gofyn i chi dalu am y cyfnod tri mis hwn ddiwedd mis Mehefin, oni bai bod angen ymestyn y cyfnod gwyliau (byddwn yn parhau i dderbyn canllawiau gan y Llywodraeth).
Os bydd y sefyllfa yn newid, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n tenantiaid masnachol a deiliaid stondinau.
Cŵn ar dennyn mewn mannau cyhoeddus
Er mwyn cefnogi cadw pellter cymdeithasol, rydym yn gofyn i berchnogion cŵn gadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn mewn parciau, mannau agored cyhoeddus a llwybrau cyhoeddus bob amser.
Gwirfoddoli yn Wrecsam
Bu rhywfaint o ddryswch yn dilyn galwad y Llywodraeth am 250,000 o wirfoddolwyr i gefnogi’r GIG, a’r ap y mae pobl yn gallu ei ddefnyddio i gofrestru.
Nodwch mai ar gyfer Lloegr yn unig mae’r cynllun hwn, nid yw’n berthnasol yng Nghymru.
Caiff y cynllun gwirfoddoli sy’n gweithredu yn ardal Wrecsam ei gynnal gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam a gallwch gofrestru ar-lein.
Gallwch hefyd anfon e-bost at Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam ar covid19@avow.org neu ffonio 01978 312556 i ddysgu sut gallwch chi helpu.
Mae cynllun y Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn ychwanegol i’r nifer o gynlluniau sydd wedi’u sefydlu ar lefel stryd mewn cymdogaethau lleol. Gallwch ddarganfod mwy am gynlluniau cymdogaethau lleol drwy eich cynghorwyr lleol neu eich cyngor cymuned.
Nodyn atgoffa – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19
Caiff gwybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
● Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gan y Prif Weinidog)
● Briff swyddogol bob dydd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth pan fo hynny’n briodol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19