Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 27.3.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 27.3.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 27.3.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/04/02 at 10:51 AM
Rhannu
Darllen 12 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad o’r wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddoe (26.3.20).

Negeseuon allweddol heddiw:

• Rydym ni’n cynnig dull hyblyg i dalu Treth y Cyngor i’r rheiny ohonoch chi sydd wedi’ch effeithio’n ariannol gan Covid-19
• Os ydi’ch plant chi’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, fe allwch chi gasglu pecyn cinio o un o’r 10 safle sydd gennym ni
• Rydym ni wedi penderfynu peidio â chyflwyno’r casgliad gwastraff gardd newydd am y tro, a pharhau i gasglu gwastraff gardd pawb hyd y gallwn. Os ydych chi eisoes wedi talu’r ffi o £25, cewch wasanaeth 12 mis llawn pan fydd y cynllun yn cael ei roi ar waith

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad o’r wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddoe (26.3.20).Negeseuon allweddol heddiw:Ian Bancroft – Prif WeithredwrY Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y CyngorDull llawn cydymdeimlad i dalu Treth y CyngorDull hyblyg i dalu Treth y Cyngor i’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19Gwneud cais am fudd-dal treth y cyngorMethu talu eich treth y cyngor i gyd?Gwastraff ac ailgylchuNodyn atgoffa – gwastraff garddYsgolionPrydau Ysgol am DdimCymorth i FusnesauGwirfoddoli yn WrecsamNodyn Atgoffa – Newidiadau Pwysig i Wasanaethau CyngorCofiwch – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Y Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Mae effaith Covid-19 ar swyddi a busnesau yn glir, a gwn y bydd y cyfnod hwn yn un anodd dros ben i nifer o bobl… o ran iechyd ac arian.

Mae treth yn chwarae rhan bwysig i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau ar draws y DU, ond gwyddwn, yn y sefyllfa sydd ohoni, y bydd pobl yn ei chael hi’n anodd talu Treth y Cyngor.

Felly, i’r rheiny ohonoch chi sydd wedi’ch effeithio’n ariannol gan y feirws, rydym ni’n cynnig dull llawn cydymdeimlad a hyblyg i dalu Treth y Cyngor yn ystod y tri mis nesaf.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn helpu aelwydydd sy’n wynebu caledi ariannol.

Cewch ragor o fanylion is i lawr.

Os fedrwch chi dalu, yna parhewch i dalu yn ôl yr arfer. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i gynnig gwasanaethau hanfodol yn ystod yr argyfwng hwn.

Cofiwch barhau i gadw pellter a dilyn cyfarwyddiadau diweddaraf y Llywodraeth. Drwy gadw pellter rydym ni’n achub bywydau ac yn helpu i gadw Wrecsam mor ddiogel â phosibl.

Rydym ni wedi darparu’r wybodaeth ganlynol i’ch helpu chi ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r Cyngor.

Dull llawn cydymdeimlad i dalu Treth y Cyngor

Dull hyblyg i dalu Treth y Cyngor i’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan Covid-19

Mae digwyddiadau diweddar wedi rhoi rhai pobl mewn sefyllfa sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu gwneud eu taliadau arferol.

Dydi’r Llywodraeth ddim wedi cyfarwyddo cynghorau i ddarparu ‘gwyliau talu’ gorfodol ar gyfer Treth y Cyngor, ond rydym ni’n gwerthfawrogi bod y cyfnod hwn yn un eithriadol a byddwn yn gweithio gyda chwsmeriaid i geisio lleihau unrhyw faich ariannol.

Byddwn yn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw gam adennill yn cael ei gymryd yn erbyn aelwydydd sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws a methu fforddio talu Treth y Cyngor yn ystod y tri mis nesaf (Ebrill – Mehefin).

Bydd hyn yn rhoi amser i’r cwsmeriaid hynny edrych i mewn i unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw – gan gynnwys budd-dal treth y cyngor.

Fodd bynnag, disgwylir i’r rheiny sy’n gallu talu barhau i dalu Treth y Cyngor yn ôl yr arfer. Bydd hyn yn ein helpu ni i barhau i gynnig gwasanaethau hanfodol yn ystod yr argyfwng hwn.

Gwneud cais am fudd-dal treth y cyngor

Yn ystod y tri mis nesaf fe allwch chi wneud cais am ostyngiad treth y cyngor (budd-dal) yn seiliedig ar incwm eich aelwyd.

Os ydi’ch incwm yn ddigon isel, byddwch yn derbyn cymorth tuag at eich treth y cyngor. I dderbyn ffurflen gais anfonwch neges i housingbenefits@wrexham.gov.uk

Os hoffech chi drafod eich hawliad fe allwch chi gysylltu â’n tîm budd-daliadau ar 01978 292033 – ond cofiwch drio cysylltu â ni ar e-bost os yn bosibl.

Methu talu eich treth y cyngor i gyd?

Mae cynnal asesiad budd-daliadau yn cymryd amser ac efallai na fyddwch chi’n gymwys i dderbyn budd-dal treth y cyngor llawn.

Felly, rydym ni’n argymell cwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio’n ariannol gan y coronafeirws i wneud taliadau llai yn ystod y tri mis nesaf.

Os ydych chi’n talu drwy ddebyd uniongyrchol efallai yr hoffech chi newid neu ganslo hyn gyda’ch banc os ydych chi’n teimlo y bydd y taliadau yn arwain at galedi ariannol.

Ar ôl i’r tri mis yma ddod i ben, gan obeithio y byddwch chi mewn sefyllfa ariannol well, dylech chi gysylltu â ni i drafod eich dewisiadau.

Bydd arnoch chi angen anfon neges i counciltax@wrexham.gov.uk ym mis Mehefin neu ffonio 01978 298992 (ond anfonwch e-bost os yn bosibl).

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gwastraff ac ailgylchu

Nodyn atgoffa – gwastraff gardd

Ym mis Ebrill roeddem i fod i ddechrau ein casgliadau gwastraff gardd newydd – gwasanaeth lle codir tâl amdano.

Rydym ni wedi penderfynu peidio â chyflwyno’r casgliad gwastraff gardd newydd am y tro, a pharhau i gasglu gwastraff gardd pawb hyd y gallwn

Nid ydym ni’n gallu cynnig ad-daliadau ond, os ydych chi eisoes wedi talu’r ffi o £25, cewch wasanaeth 12 mis llawn pan fydd y cynllun yn cael ei roi ar waith… felly fyddwch chi ddim ar eich colled. Does dim rhaid i chi gysylltu â ni gan fod gennym ni gofnod llawn o’r cwsmeriaid sydd wedi talu.

I helpu i leihau’r baich ar staff ein Canolfan Gyswllt, hyd nes clywch yn wahanol, ni fyddwn yn derbyn rhagor o daliadau ar gyfer y cynllun newydd a byddwn ond yn trin ymholiadau ar gyfer gwasanaethau hanfodol.

Os nad ydych chi wedi talu, peidiwch â phoeni. Byddwn yn derbyn taliadau unwaith eto ar ôl i’r argyfwng hwn ddod i ben a phan fyddwn ni mewn sefyllfa well i gyflwyno’r gwasanaeth newydd.

Mae lleihau’r baich ar staff ein Canolfan Gyswllt yn bwysig iawn gan y bydd pobl gyda chyflyrau iechyd sylfaenol yn derbyn llythyrau gan y Llywodraeth gyda hyn, a bydd ar rai ohonyn nhw angen cysylltu â ni am gymorth.

Felly mae’n bwysig bod ein staff ar gael i’w helpu.

Os oes arnoch chi angen cysylltu â ni, anfonwch neges i contact-us@wrexham.gov.uk neu ewch i’n gwefan yn www.wrecsam.gov.uk.

Ysgolion

Prydau Ysgol am Ddim

Rydym ni’n gweithio’n galed iawn i geisio darparu prydau ysgol am ddim i blant nad ydyn nhw yn yr ysgol ar hyn o bryd.

Os ydi’ch plant chi’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, fe allwch chi gasglu pecyn cinio o un o’r safleoedd canlynol:

• Swyddfa Stadau Parc Caia
• Swyddfa Stadau Plas Madoc
• Swyddfa Stadau Brychdyn
• Swyddfa Stadau Gwersyllt
• Swyddfa Stadau Rhos (Stiwt)
• Neuadd Goffa Wrecsam
• Plas Pentwyn, Coedpoeth
• Canolfan Adnoddau Llai
• Llyfrgell Owrtyn (Ystafelloedd Cocoa)
• Ysgol y Waun, y Waun

Cewch fynd i’r safle agosaf.

Mae’n rhaid i riant neu ofalwr gasglu’r pecynnau cinio rhwng 11.30am ac 1pm.

Bydd arnoch chi angen darparu enw’ch plentyn/plant a’r ysgol, a chewch chi ddim casglu pecynnau cinio plant eraill.

Cofiwch barhau i ddilyn y canllawiau cadw pellter, gan gadw 2 metr rhyngoch chi a phobl eraill.

Cymorth i Fusnesau

Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno pecyn o fesurau i helpu busnesau – gan gynnwys pobl hunangyflogedig – yn ystod y cyfnod hwn o amhariadau.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU.

Gwirfoddoli yn Wrecsam

Mae peth dryswch wedi bod yn dilyn galwad y Llywodraeth am 250,000 o wirfoddolwyr i gefnogi’r GIG, a’r ap y mae modd i bobl ei ddefnyddio i gofrestru.

Mae hwn yn gynllun ar gyfer Lloegr yn unig, ac nid yw’n berthnasol i Gymru.

Mae’r rhaglen wirfoddoli sydd ar gael yn Wrecsam yn cael ei rhedeg gan AVOW ac fe allwch chi gofrestru ar-lein.

Nodyn Atgoffa – Newidiadau Pwysig i Wasanaethau Cyngor

Dyma nodyn i’ch atgoffa am rai o’r newidiadau eraill rydym ni wedi’u gwneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf mewn ymateb i Covid-19.

• Dim ond gwasanaethau hanfodol rydym ni’n eu cynnig bellach. Rhain yw’r pethau rydym ni wedi’u nodi yn bethau hollol hanfodol i’n cymunedau ac i redeg y Cyngor
• Rydym ni wedi rhoi’r gorau i godi tâl am barcio yn ein meysydd parcio er mwyn helpu gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau hanfodol a phobl sy’n gadael y tŷ i brynu bwyd a nwyddau hanfodol yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth
• Mae ein llwybrau troed ar agor, ond cofiwch gadw pellter gan nad oes arnom ni eisiau dechrau cau llwybrau
• Mae’r holl lefydd chwarae yng ngofal y Cyngor wedi’u cau
• Dim ond mewn argyfwng y cewch chi ffonio’r Tîm Atgyweiriadau Tai (01978 298993). Gallwch roi gwybod am unrhyw waith atgyweirio nad oes brys amdano drwy Fy Nhŷ Cyngor neu housingrepairs@wrexham.gov.uk
• O ddydd Llun 30 Mawrth, ni fyddwn yn darparu cludiant o’r cartref i’r ysgol nes clywch yn wahanol. Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer dysgwyr AAA
• Mae effaith y coronafeirws i’w weld ar ein gwasanaethau cynllunio a rheoli adeiladu. Mae cyfarfod mis Ebrill y Pwyllgor Cynllunio wedi’i ganslo.
• Rydym ni wedi cynnig ‘gwyliau’ rhent a thaliadau ffioedd gwasanaeth o dri mis i’n tenantiaid masnachol a’n stondinwyr sydd wedi’u heffeithio gan y sefyllfa bresennol

Cofiwch – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19

Darperir yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y dylai pobl wneud drwy:

● Datganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (yn cynnwys gan y Prif Weinidog)
● Briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, a gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm

Mae hon yn sefyllfa sy’n newid yn gyflym, felly byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth bellach fel y bo’n briodol.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Rhannu
Erthygl flaenorol Library Eich llyfrgell, ar-lein
Erthygl nesaf home schooling Ail Wythnos Addysgu yn y Cartref? Fe all hyn eich helpu…..

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English