Mae’r nodyn hwn yn rhoi diweddariad ar y wybodaeth a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Gwener (24.4.20).
Negeseuon allweddol heddiw
• Fe hoffem ni ddiolch o waelod calon i bawb sy’n gweithio ar y rheng flaen yn ystod yr argyfwng hwn.
• Mae canllawiau newydd yn golygu y gallwch chi bellach ymweld â’r ardd gofio ym Mhentrebychan i ddangos parch i anwyliaid.
• Os yw eich plant yn derbyn prydau ysgol am ddim ac nad ydych chi wedi cofrestru eto, gofynnwn i chi gofrestru ar ein cynllun taliadau uniongyrchol newydd erbyn dydd Gwener, 1 Mai.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Diolch i weithwyr ar y rheng flaen
Mae pobl wedi bod yn dod o hyd i bob math o ffyrdd i ddiolch i weithwyr ar y rheng flaen dros yr wythnosau diwethaf.
O godi arian hyd at ysgrifennu negeseuon ‘diolch’ ar y pafin tu allan i’w cartrefi mewn sialc.
Mae ‘clap’ wythnosol i ofalwyr, sydd i’w chlywed ar draws cymunedau Wrecsam pob nos Iau, a negeseuon twymgalon o gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Rydyn ni’n gwneud hyn gan ein bod yn gwybod bod pobl mewn pob math o swyddi sy’n mynd yr ail filltir, ddydd ar ôl dydd, i helpu i’n cadw ni’n ddiogel a darparu’r pethau rydym ni eu hangen i ni.
Gweithwyr y GIG a gweithwyr gofal, gweithwyr archfarchnadoedd, swyddogion yr heddlu a’r gwasanaeth tân, criwiau ambiwlans a llawer o bobl eraill mewn swyddi allweddol.
Mae ein timau gwastraff ni hefyd, sydd wedi’u cyffwrdd gan yr arwyddion ‘diolch’ mae nifer o’n trigolion wedi’u gosod ar eu biniau a’u giatiau, a staff ysgolion, gweithwyr cymdeithasol a llawer o weithwyr eraill y cyngor sydd ar y rheng flaen yn gwneud gwaith arbennig.
Mae dewrder, gwytnwch a charedigrwydd anhygoel pobl sy’n gweithio yn y swyddi hyn wedi gwneud i ni deimlo’n werthfawrogol, yn ddiolchgar… efallai hyd yn oed fel nad oes dim y gallwn ei wneud, wrth i ni sylweddoli cymaint o gyfraniad maent yn ei wneud i’n byd ni ar hyn o bryd a chymaint o wahaniaeth maent yn ei wneud i’n bywydau.
Efallai mai’r peth gorau y gallwn ni ei wneud ar hyn o bryd – ac efallai yr unig beth y gallwn ei wneud – yw dal i ddweud ‘diolch’. Eto ac eto.
Felly ar ran Cyngor Wrecsam – a Wrecsam i gyd – diolch i bawb sy’n gweithio ar y rheng flaen.
Rydych chi’n anhygoel.
Munud o dawelwch
Bydd munud o dawelwch heddiw am 11am i gofio am y gweithwyr allweddol sydd wedi marw oherwydd Covid-19.
Cymerwch ran os gallwch chi.
Yr amlosgfa – gardd gofio’n ailagor
Mae canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu i ni lacio’r cyfyngiadau yn ein hamlosgfa.
Gall pobl bellach ymweld â’r ardd gofio ym Mhentrebychan, a oedd ar gau yn flaenorol.
Mae newidiadau i’r ddeddfwriaeth bellach yn caniatáu i bobl ymweld â mynwentydd a gerddi cofio i ddangos parch i anwyliaid.
Rydyn ni’n gwybod bod cau’r safle wedi bod yn anodd i nifer o bobl dros yr wythnosau diwethaf ac y byddant yn croesawu’r newyddion hwn.
Bydd ein giatiau ar agor ar yr amseroedd arferol.
Mae ein mynwentydd yn Wrecsam a Phandy’n dal i fod ar agor.
Gofynnwn i chi gadw pellter cymdeithasol wrth i chi ymweld â’r amlosgfa neu’r mynwentydd.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Prydau ysgol am ddim
Nodyn atgoffa – ydych chi wedi cofrestru ar gyfer ein cynllun taliadau uniongyrchol newydd?
Ydi eich plant chi’n derbyn prydau ysgol am ddim?
Fe fyddwn ni’n cyflwyno system newydd ddydd Llun, 4 Mai yn rhan o’n hymateb parhaus i Covid-19.
Bydd y system yn golygu bod arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc, a gallwch chi ddefnyddio hwn wedyn i brynu bwyd i’ch plant.
Bydd hyn yn gwneud pethau’n haws i rieni, gan leihau’r angen am deithio i fannau casglu i dderbyn y pecynnau cinio parod rydyn ni’n eu darparu ar hyn o bryd.
Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un fod ar ei golled, felly os nad ydych chi wedi gwneud cais yn barod, cofiwch gofrestru trwy wefan y Cyngor erbyn dydd Gwener, 1 Mai (bydd angen i chi ddarparu eich manylion banc).
Fe gewch chi daliad misol gwerth £19.50 yr wythnos i bob plentyn cymwys yn eich teulu.
Sylwch, os yw eich plant yn dal i fynd i’r ysgol (gan eich bod chi’n weithiwr allweddol neu eu bod nhw’n agored i niwed) y bydd angen i chi ddefnyddio’r arian i dalu am eu prydau ysgol, neu i brynu bwyd er mwyn darparu pecyn cinio ar eu cyfer.
COFRESTRWCH RŴAN
Gallwch barhau i gasglu pecynnau cinio parod o’n canolfannau dosbarthu tan ddydd Gwener, 1 Mai.
Ond o ddydd Llun, 4 Mai ymlaen, bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar y system taliadau uniongyrchol newydd fel nad ydych chi’n colli taliadau.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch neges e-bost at freeschoolmeals@wrexham.gov.uk
Nodyn atgoffa – lorïau bin
Ni fydd unrhyw un eisiau bod ar fai nad yw biniau eu stryd gyfan yn cael eu gwagio, felly, os ydych chi’n parcio’ch car ar y ffordd, gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod digon o le i’n lorïau bin allu mynd heibio.
Darllenwch yr erthygl ddiweddar gennym ni.
Nodyn atgoffa – ydych chi’n gymwys i gael cymorth i’ch busnes?
Rydyn ni eisoes wedi talu mwy na £17.5 miliwn i 1,473 o fusnesau yn Wrecsam yn rhan o’r cymorth llacio ardrethi busnes a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Er ein bod ni’n dal i dderbyn ceisiadau bob dydd, rydyn ni’n annog unrhyw un sydd heb wneud cais eto i wirio a yw eu busnes yn gymwys ac, os yw, i gyflwyno cais ar-lein.
Os ydych chi’n gwneud cais, gwiriwch y manylion rydych chi’n eu rhoi’n ofalus iawn – yn enwedig rhifau cyfrifon banc a chodau didoli – gan y gallai manylion anghywir arwain at oedi cyn cael taliadau.
Nodyn atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl wneud yn ei gylch yn cael ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth).
• Sesiynau briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19