Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Gwener (3.4.20).
Negeseuon allweddol heddiw
• Mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun cymorth gofal plant i helpu gweithwyr hanfodol yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.
• Byddwn yn parhau i wagu eich biniau a chasglu eich gwastraff ailgylchu fel arfer dros gyfnod y Pasg.
• Rydym yn gweithio gyda’r heddlu yn Wrecsam i atal unigolion rhag ymgynnull mewn tafarndai i yfed a chymdeithasu, yn dilyn cais y llywodraeth i bobl aros gartref. Ni fydd Cyngor Wrecsam yn goddef ymddygiad o’r fath a bydd busnesau ac unigolion yn wynebu canlyniadau difrifol os cânt eu canfod yn euog.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Meddyliwch am ein plant
Fel y gweddill ohonom, mae plant yn gorfod aberthu llawer iawn o bethau ar hyn o bryd.
Fel arfer, byddent yn mwynhau gwyliau’r Pasg…yn gwneud pethau gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn ymweld â’r parc, yn chwarae pêl ac ati.
Ond eleni, mae’r angen i aros gartref ac achub bywydau wedi newid hynny i gyd.
Felly mae’n werth cymryd munud i gydnabod yr aberth mae ein plant yn ei wneud, ac mor aeddfed y mae’n rhaid iddynt fod wrth iddynt helpu’r wlad i ymladd yn erbyn Covid-19.
Mae plant yn chwarae eu rhan fel y gweddill ohonom a dylem ddiolch iddynt….a rhoi sylw iddynt pryd bynnag y gallwn.
Cadw pellter cymdeithasol
Gyda’r tywydd braf yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd, mae’n werth ailadrodd cyfarwyddiadau’r Llywodraeth.
Arhoswch o leiaf dau fetr i ffwrdd o unrhyw nad ydych chi’n byw â nhw, a dim ond am y rhesymau canlynol y dylech adael y tŷ:
• Siopa am hanfodion sylfaenol megis bwyd.
• Ymarfer corff unwaith y dydd.
• Unrhyw angen meddygol, i ddarparu gofal neu i helpu unigolyn diamddiffyn.
• Teithio i’r gwaith ac yn ôl, dim ond pan fo hynny’n hollol angenrheidiol.
Daliwch i gadw pellter oddi wrth eich gilydd. Trwy gadw pellter oddi wrth ein gilydd, rydym yn achub bywydau, ac yn helpu Wrecsam i fod mor ddiogel â phosibl.
Gofal plant am ddim i weithwyr hanfodol
Mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun cymorth gofal plant i helpu gweithwyr hanfodol yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.
O dan y cynlluniau, bydd cynghorau’n gallu defnyddio cyllid o Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru i dalu am ddarparwyr gofal plant cofrestredig i ofalu am blant cyn oedran ysgol gweithwyr hanfodol.
Bydd plant sy’n cael eu hystyried fel rhai agored i niwed yn cael eu cynnwys yn y cynllun.
Bydd y newidiadau yn darparu ar gyfer y tri mis nesaf. Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Dim newid i gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Pasg
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, byddwn yn parhau i wagu eich biniau a chasglu eich gwastraff ailgylchu fel arfer dros gyfnod y Pasg.
Felly os yw eich ‘diwrnod casglu’ ar ddydd Gwener neu ddydd Llun fel arfer, byddwn yn parhau i wagu eich biniau fel arfer ar ddydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg… ni fydd y gwyliau banc yn effeithio ar unrhyw beth.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ydych chi’n ystyried ymgynnull mewn tafarn â’ch ffrindiau i yfed a chymdeithasu â’r drws ar glo? Peidiwch.
Mae ein gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi’i blesio’n arw â’r ymateb cadarnhaol gan y rhan fwyaf o fasnachwyr trwyddedig i orfod cau tafarndai a bwytai yn ddiweddar.
Mae’r busnesau hyn yn gwneud y peth iawn, er gwaetha’r niwed y mae gorfod cau yn ei wneud i’w busnesau.
Mae’r deddfau brys, sydd y tu cefn i’r orfodaeth i gau, wedi cael eu gosod oherwydd y bygythiad digynsail gan Covid-19. Maent yn gwbl hanfodol er mwyn ceisio arafu lledaeniad y feirws.
Fodd bynnag, mae’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn ymdrin â llif cyson o gwynion am leiafrif bychan o fasnachwyr sydd yn parhau i fasnachu, ac maent wedi rhybuddio y bydd camau yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw un sy’n torri’r gyfraith.
Gall unrhyw eiddo trwyddedig sydd ar agor am fusnes wynebu camau gorfodi – yn cynnwys erlyniad – a cholli eu trwydded i werthu alcohol.
Os ydych yn mynd i’r dafarn, neu’n meddwl mynd yno, meddyliwch eto. Byddwch chithau hefyd yn torri’r gyfraith ac fe allech wynebu cosb benodedig neu erlyniad.
Mae’r Heddlu a Gwarchod y Cyhoedd yn patrolio ac yn edrych i mewn i unrhyw wybodaeth a dderbynnir.
Arhoswch gartref, gwarchodwch y GIG, achubwch fywydau.
Nodyn Atgoffa – Allai’r grantiau hyn helpu eich busnes?
Rydym eisoes wedi talu £6 miliwn i fusnesau lleol.
Os ydych yn talu ardrethi busnes, gall Cyngor Wrecsam ddarparu grantiau o £10,000 i gwmnïau sy’n cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychain.
Darparwyd y cyllid yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r grantiau wedi’u hanelu at fusnesau sydd wedi’u lleoli mewn eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £12,000.
Mae yna hefyd grant o £25,000 ar gael i fusnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, sydd wedi’u lleoli mewn eiddo â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.
Mae’r ddau grant ar gael i gwmnïau sydd ar y gofrestr ardrethi busnes o 20 Mawrth, 2020 yn unig.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os ydych am wybod am becynnau cefnogaeth eraill, cysylltwch â’n tîm Busnes a Buddsoddiad ar 01978 667300 neu business@wrexham.gov.uk
Nodyn Atgoffa – Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?
Gallwch gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn annog pobl i gofrestru.
Nodyn Atgoffa – Ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gan y Prif Weinidog).
• Briff swyddogol bob dydd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth pan fo hynny’n briodol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19