Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 3.4.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 3.4.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 3.4.20

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 7, 2020 11:06 am
Rhannu
Darllen 8 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad i’r wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddydd Mercher (1.4.20).

Negeseuon allweddol heddiw

● Hoffem ddiolch i bob un o weithwyr y cyngor ac aelodau’r cyhoedd am eu penderfyniad, amynedd a charedigrwydd dros yr wythnosau diwethaf.

Cynnwys
        • Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad i’r wybodaeth a roddwyd ar y blog hwn ddydd Mercher (1.4.20).
      • Negeseuon allweddol heddiw
        • Ian Bancroft – Prif Weithredwr
        • Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
      • Diolch i weithwyr y cyngor ac aelodau’r cyhoedd
  • Ysgolion
      • Y wybodaeth ddiweddaraf am brydau ysgol am ddim dros wyliau’r Pasg
  • Mynwentydd
  • Llythyr Llywodraeth Cymru at denantiaid tai cymdeithasol
  • Nodyn atgoffa – rydym yn cau ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref
  • Nodyn atgoffa – grantiau ar gyfer eich busnes?
  • Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?
  • Nodyn atgoffa – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19

● Fe fyddwn yn parhau i ddarparu pecynnau cinio i blant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim dros wyliau’r Pasg, yn ogystal ag i blant sy’n dal i fynychu’r ysgol.

● Bydd pob un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref wedi cau erbyn diwedd heddiw. Mae gwasanaeth casglu gwastraff ymyl palmant o’r tu allan i’ch cartref yn parhau fel arfer am nawr.

● Rydym yn parhau i dalu grantiau i fusnesau sy’n talu ardrethi busnes.

● Rydym wedi penodi prif swyddog newydd i arwain ein gwasanaethau cymdeithasol.

Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Diolch i weithwyr y cyngor ac aelodau’r cyhoedd

Mae llawer ohonom wedi blino. Mae llawer ohonom yn bryderus, dryslyd a rhwystredig. Ond rydym i gyd yn cario mlaen.

Beth bynnag sydd angen i ni ei wneud i frwydro trwy’r argyfwng hwn, rydym yn ei wneud.

Pa bynnag amhariadau ac anawsterau sy’n ein hwynebu, rydym yn eu hwynebu gyda’n gilydd fel teuluoedd, ffrindiau, cymdogion a chymunedau.

Felly heddiw, hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i weithwyr y cyngor ac aelodau’r cyhoedd.

Rydym yn gwybod bod staff y cyngor yn gweithio’n hynod o galed i gadw ein gwasanaethau hanfodol yn rhedeg, a bod preswylwyr lleol yn dangos dealltwriaeth ac amynedd aruthrol, wrth iddynt orfod gwneud newidiadau mawr i’w bywydau bob dydd.

Mae wedi’i nodi sawl tro yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond rydym yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen yn y DU.

Ond bydd penderfyniad, amynedd a charedigrwydd gweithwyr y cyngor a phobl leol yn ein helpu i frwydro trwy hyn yn Wrecsam.

Rydym mor ddiolchgar i chi am eich cefnogaeth.

Mae angen i ni ddal ati, ac nid oes amheuaeth mai dyna a wnawn.

Diolch.

Ysgolion

Y wybodaeth ddiweddaraf am brydau ysgol am ddim dros wyliau’r Pasg

Yn ystod dyddiau’r wythnos, byddwn yn parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim dros wyliau’r Pasg (gan gynnwys gwyliau’r banc) i blant nad ydynt yn yr ysgol…yn ogystal â phrydau i bob plentyn sy’n dal i fod yn yr ysgol.
Pecynnau cinio parod fydd pob pryd o fwyd.

Os nad yw eich plant yn yr ysgol a bod ganddynt hawl i gael prydau ysgol am ddim, gallwch gasglu eu pecyn cinio o un o’r safleoedd a ganlyn (sy’n cynnwys man casglu newydd ym Mrymbo).

● Swyddfa Ystâd Parc Caia

● Swyddfa Ystâd Plas Madoc

● Swyddfa Ystâd Brychdyn

● Swyddfa Ystâd Gwersyllt

● Swyddfa Ystâd Rhos (Stiwt)

● Neuadd Goffa, Wrecsam

● Plas Pentwyn, Coedpoeth

● Canolfan Adnoddau Llai

● Llyfrgell Owrtyn (Cocoa Rooms)

● Ysgol y Waun, y Waun

● Canolfan Adnoddau Brymbo

Gallwch fynd i’r safle agosaf.

Rhaid i riant neu ofalwr gasglu pecynnau cinio rhwng 11.30am a 1pm.

Bydd angen i chi rhoi enw eich plentyn / plant i’r staff a dweud i ba ysgol maen nhw’n mynd, a dim ond ar gyfer eich plentyn / plant eich hunain fyddwch chi’n gallu casglu pecyn cinio.

Daliwch i ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol…cadw eich pellter oddi wrth bobl eraill.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Mynwentydd

Mae ein mynwentydd yn dal i fod ar agor, ond rhaid i unrhyw un sy’n ymweld â nhw ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol.

Cadwch o leiaf ddau fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw.

Llythyr Llywodraeth Cymru at denantiaid tai cymdeithasol

Mae llythyr wedi’i anfon at bob tenant tai cymdeithasol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Darllen y llythyr.

Nodyn atgoffa – rydym yn cau ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref

Yn gynharach yr wythnos hon, gwnaethom gyhoeddi y byddem yn cau pob un o’n tair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref.

Caeodd safle Plas Madoc ddydd Mawrth, a bydd Lôn y Bryn a Brymbo yn cau erbyn 4pm heddiw (3 Ebrill).

Galwch ddarllen mwy am y rhesymau pam rydym yn cau’r safleoedd yn yr erthygl blog a gyhoeddwyd ddoe.

Mae casgliadau gwastraff ymyl palmant (gwagio eich biniau du, cynwysyddion ailgylchu, biniau gwyrdd ac ati) yn parhau fel arfer am nawr.

Fodd bynnag, rydym yn gorfod adolygu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu bob dydd, wrth i ni geisio cydbwyso anghenion preswylwyr gyda chanllawiau Llywodraeth y DU, ac iechyd a diogelwch ein cymunedau a’n staff.

Nodyn atgoffa – grantiau ar gyfer eich busnes?

Ydych chi’n talu ardrethi busnes? Gall Cyngor Wrecsam ddarparu grantiau o £10,000 i gwmnïau sy’n cael Rhyddhad Ardrethi Busnes Bach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y cyllid ar gael yn ddiweddar, ac mae’r grantiau wedi’u hanelu at fusnesau sy’n seiliedig mewn eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £12,000.

Mae grant £25,000 ar gael hefyd i fusnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, sy’n seiliedig mewn eiddo â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.

Mae’r ddau grant ar gael i gwmnïau sydd ar y gofrestr ardrethi busnes o 20 Mawrth, 2020 yn unig.

I wneud cais, darllenwch y canllawiau ar ein gwefan ac – os ydych yn credu bod eich busnes yn gymwys – llenwch y ffurflen ar-lein. 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os ydych am wybod am becynnau cefnogaeth eraill, cysylltwch â’n tîm Busnes a Buddsoddiad ar 01978 667300 neu business@wrexham.gov.uk

Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Gallwch gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.

Mae AVOW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam) yn annog pobl i gofrestru.

Nodyn atgoffa – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19

Caiff gwybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:

● Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gan y Prif Weinidog)
● Briff swyddogol bob dydd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth pan fo hynny’n briodol.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Prif Swyddog newydd i arwain y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Alwyn Jones Prif Swyddog newydd i arwain y Gwasanaethau Cymdeithasol
Erthygl nesaf Home Schooling Addysgu gartref? Rydych yn gwneud gwaith gwych!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English