Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Llun (6.4.20).
Negeseuon allweddol heddiw
• Arhoswch adref dros benwythnos Gŵyl y Banc. Dylech ond fynd allan os yw eich taith yn hanfodol fel yr amlinellir gan y Llywodraeth.
• Os ydych yn defnyddio unrhyw un o’n parciau neu’n llwybrau cyhoeddus, defnyddiwch y rheiny’n gyfrifol. Peidiwch â gyrru yno, a chofiwch gadw pellter cymdeithasol ar bob adeg.
• Os ydych yn weithiwr hanfodol gyda phlant oed cyn ysgol, gallwch wneud cais am ofal plant am ddim.
• Byddwn yn gwagu eich biniau a chasglu eich gwastraff ailgylchu fel arfer dros gyfnod y Pasg. Parciwch eich ceir yn ofalus ar ochr y ffordd, er mwyn i’n lorïau bin allu pasio.
• Peidiwch â thanio coelcerthi i losgi sbwriel
• Gall clybiau chwaraeon cymunedol bellach wneud cais am gyllid o gronfa cymorth mewn argyfwng.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Arhoswch adref dros y Pasg… peidiwch â theithio i’n parciau
Wrth i benwythnos Gŵyl y Banc agosáu, mae un neges yn sefyll allan uwchlaw pob un arall…
‘Arhoswch adref’.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn sylweddoli ein bod, drwy aros adref gymaint â phosib, yn helpu i amddiffyn y GIG ac achub bywydau.
Ond mae pryder mawr ar draws y DU bod gormod o bobl yn ymgynnull yn ein parciau a’n mannau agored ar benwythnosau.
Mae’r Llywodraeth yn dweud y cewch adael eich cartref unwaith y dydd i wneud ymarfer corff…. boed hynny’n golygu mynd â’r ci am dro, mynd i redeg, neu beth bynnag sy’n eich helpu i gadw’n heini ac yn iach.
Ond nid yw hynny’n golygu teithio yn eich car i un o’n parciau ni. Ni ddylai unrhyw un fod yn gwneud hynny, mae’r Llywodraeth wedi nodi’n gwbl glir y dylem ‘aros yn lleol’ wrth wneud ymarfer corff.
Y penwythnos diwethaf, bu i swyddogion yr heddlu adrodd cynnydd pryderus yn nifer y bobl a oedd yn gyrru i rai o’n parciau yn Wrecsam.
Gadewch i ni sicrhau nad yw hynny’n digwydd y penwythnos hwn.
Peidiwch â theithio i’n parciau.
Over the weekend officers have witnessed an increase in members of the public using vehicles to transport themselves to exercise or walk their dogs in local parks. This is a clear breach to guidlines. Please help us keep everyone safe #covid19 #wrexham @leaderlive @wrexham pic.twitter.com/NCgVfVbQCq
— NWP Wrexham Town (@NWPWrexhamTown) April 7, 2020
Os ydych chi’n byw o fewn pellter cerdded ac eisiau gwneud ymarfer corff yn un o’n parciau, mae’n rhaid i chi ddilyn cyfarwyddiadau’r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol…
Arhoswch o leiaf dau fetr i ffwrdd o unrhyw nad ydych chi’n byw â nhw.
Trwy gadw pellter oddi wrth ein gilydd, rydym yn achub bywydau, ac yn helpu Wrecsam i fod mor ddiogel â phosibl.
Gofal plant am ddim i weithwyr hanfodol yn ystod pandemig Covid-19
Os ydych yn weithiwr hanfodol gyda phlant oed cyn ysgol, gallwch wneud cais am ofal plant am ddim.
Cyhoeddwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon ac mae hefyd yn berthnasol i wirfoddolwyr hanfodol y GIG.
Fodd bynnag, dylai plant dderbyn gofal yn eu cartrefi lle y bo’n bosibl ac yn ddiogel i wneud hynny.
Bydd gofal plant am ddim yn Wrecsam fel arfer ar gael i weithwyr hanfodol a gwirfoddolwyr hanfodol y GIG gyda phlant oed cyn ysgol (hyd at bum mlwydd oed), pan fo:
• Rôl hanfodol y rhiant yn ei gwneud yn amhosibl, ar adegau, iddo ofalu am ei blentyn / plant yn ddiogel gartref yn ystod y pandemig.
• Y teulu yn byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
• Lleoliad eisoes wedi’i drefnu rhwng y rhiant a darparwr gofal plant cofrestredig (gwarchodwr plant, cylch chwarae, meithrinfa ddydd, darpariaeth mewn ysgol).
• Pawb yn iach ac nad yw unrhyw un sy’n byw gyda’r plentyn / plant yn arddangos symptomau o Covid-19 neu’n hunan-ynysu oherwydd y feirws.
•
Cewch ragor o wybodaeth a gwneud cais am ofal plant am ddim ar ein gwefan.
Sylwer bod hwn yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gall cymhwyster, prosesau ymgeisio a’r cyfraddau a delir am ofal plant amrywio mewn siroedd eraill yng Nghymru.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ysgolion Wrecsam yn cynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i helpu â’r frwydr yn erbyn Covid-19
Gwastraff ac ailgylchu
Dim newid i gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Pasg
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, byddwn yn gwagio eich biniau a chasglu eich gwastraff ailgylchu fel arfer dros gyfnod y Pasg.
Felly os yw eich ‘diwrnod casglu’ ar ddydd Gwener neu ddydd Llun fel arfer, byddwn yn gwagio eich biniau ar ddydd Gwener y Groglith neu ddydd Llun y Pasg… ni fydd y gwyliau banc yn effeithio ar unrhyw beth.
Parciwch yn ofalus – peidiwch ag atal ein lorïau bin rhag pasio
Ar adegau, mae ein lorïau yn cael trafferth mynd heibio rhai strydoedd ac eiddo oherwydd y ceir sydd wedi’u parcio ar ochr y ffordd. Mae hyn weithiau’n golygu nad ydym yn gallu gwagio biniau pobl.
Gallwch ein helpu drwy gymryd gofal ychwanegol wrth barcio eich cerbydau ar eich diwrnod casglu.
Rydym yn deall nad oes gan bawb dramwyfa neu garej, ac mae llawer o bobl yn dibynnu ar barcio ar y stryd.
Ond os ydych chi’n gwybod y bydd eich biniau’n cael eu casglu, edrychwch ar y stryd a gwiriwch fod digon o le i’n cerbydau mawr allu ymgymryd â’u dyletswyddau’n ddiogel.
Cofiwch, mae ein lorïau yn drwm ac yn llydan, felly mae’n rhaid i’n gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio ar hyd strydoedd a throi’r cerbyd heb achosi unrhyw ddifrod.
Helpwch i gadw pawb yn ddiogel wrth drin eich biniau
O ran gwagio eich biniau, gofynnwn i chi ddilyn rhai mesurau hylendid – yn cynnwys diheintio handlenni eich biniau a chynwysyddion gwastraff eraill.
Bydd y camau syml hyn o gymorth i’ch cadw chi a’n gweithwyr yn ddiogel, ac atal lledaeniad Covid-19.
Darllenwch y blog a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon.
Peidiwch â thanio coelcerthi
Rydym yn cefnogi ein cydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac yn gofyn i chi beidio â thanio coelcerthi.
Darllenwch y blog a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon.
Cronfa argyfwng ar gyfer clybiau chwaraeon cymunedol
Gall clybiau chwaraeon cymunedol yng Nghymru bellach wneud cais am gyllid o gronfa cymorth mewn argyfwng.
Mae clybiau dielw yn rhan bwysig o’n cymunedau, a gallai’r arian eu helpu i gynnal eu hunain yn ystod argyfwng Covid-19.
Darparwyd y cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru a gall clybiau wneud cais am uchafswm o £5,000.
Cewch fwy o wybodaeth ar wefan Chwaraeon Cymru.
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae troseddwyr diegwyddor yn ecsbloetio ein hofnau am Covid-19 ac yn poenydio’r cyhoedd – yn enwedig pobl hŷn a phobl ddiamddiffyn.
Mae ein Swyddogion Safonau Masnach yn cefnogi’r Safonau Masnach Cenedlaethol wrth iddynt rybuddio pobl i fod yn wyliadwrus.
Darllenwch y blog a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon.
Nodyn Atgoffa – Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?
Gallwch gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn annog pobl i gofrestru.
Nodyn Atgoffa – Ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth).
• Briff swyddogol bob dydd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth pan fo hynny’n briodol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19