Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 22.5.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 22.5.20
Y cyngor

Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 22.5.20

Diweddarwyd diwethaf: 2021/02/26 at 2:27 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad ar yr wybodaeth a bostiwyd yn y blog hwn ddydd Llun (15.5.20).

Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw

• Wrth i ni wynebu penwythnos gŵyl y banc arall, cofiwch fod y neges ‘aros adref’ yn dal i gael ei gweithredu yng Nghymru.
• Byddwn yn gwagio eich biniau ac yn casglu eich ailgylchu fel arfer ddydd Llun gŵyl y banc (Mai 25).
• Os ydych wedi eich cofrestru ar gyfer cyfraddau busnes a’ch bod yn masnachu hyd at y cyfnod cyfyngiadau ar symud , efallai eich bod yn colli cyfle i fanteisio ar grant o hyd at £25,000.

Cynnwys
Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad ar yr wybodaeth a bostiwyd yn y blog hwn ddydd Llun (15.5.20).Negeseuon allweddol ar gyfer heddiwIan Bancroft – Prif WeithredwrMark Pritchard – Arweinydd y CyngorPeidiwch â rhoi’r ffidil yn y to rŵan, a pheidiwch â mentro cael dirwy…arhoswch adrefCynyddu’r dirwyon am dorri’r cyfyngiadau ar symudDoes dim newid i gasgliadau biniau dros ŵyl y bancCanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref BrymboYdych chi wedi gwneud cais am grant cymorth i fusnesau?Bwganod brain Owrtyn yn codi calonCofiwch – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to rŵan, a pheidiwch â mentro cael dirwy…arhoswch adref

Wrth i ni wynebu penwythnos gŵyl y banc arall, cofiwch fod y neges ‘aros adref’ yn dal i gael ei gweithredu yng Nghymru.

Ac er y cewch adael eich cartref i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd rŵan, dylech barhau i ymarfer yn eich ardal leol, a mynd ar deithiau hanfodol yn unig.

Mae pobl wedi dangos gwydnwch rhyfeddol yma yn Wrecsam, ond mae’n rhaid i ni ddal ati. Felly plîs….peidiwch â neidio i’r car a gyrru i’n parciau’r penwythnos hwn.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Peidiwch â gyrru i’n canolfannau ailgylchu oni bai eich bod chi wir angen gwneud hynny.
Arhoswch yn lleol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i bawb ddal ati i wneud y peth cywir, ac yn cynnig cyngor gwerthfawr yn y fideo hwn ar Facebook…

Cynyddu’r dirwyon am dorri’r cyfyngiadau ar symud

Yn ogystal â’ch siomi chi eich hun ac eraill, mae goblygiadau ariannol sylweddol os ydych chi’n torri’r rheolau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau – o heddiw ymlaen – y bydd y cosbau uchaf am dorri’r cyfyngiadau ar symud, yn codi.

Yn hytrach na rhoi dirwyon o £60 am drosedd gyntaf, gan godi i £1,920 am ail drosedd a throseddau dilynol, bydd y dirwyon rŵan yn dyblu gyda phob trosedd – gan godi o £60 i £120 i £1,920 am y chweched trosedd.

Cadwch at y rheolau. Cadwch yn ddiogel. Peidiwch â mentro cael dirwy.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Does dim newid i gasgliadau biniau dros ŵyl y banc

Byddwn yn gwagio’ch biniau ac yn casglu’ch deunyddiau ailgylchu fel arfer ddydd Llun gŵyl y banc (Mai 25)

Felly os mai dydd Llun yw eich diwrnod bin arferol, rhowch eich biniau a’ch deunyddiau ailgylchu allan fel arfer….fydd gŵyl y banc yn newid dim ar hynny.

Edrychwch ar yr erthygl a bostiwyd gennym yn gynharach yr wythnos hon…a helpwch ni i gasglu’ch deunyddiau ailgylchu yn ddiogel.

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo

Fe ail-agorwyd ein tair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref ar 15 Mai, ac – oherwydd problemau traffig – cyflwynwyd system archebu lle ar gyfer safle Brymbo yn gynharach yr wythnos hon.

Os ydych eisiau archebu lle yn safle Brymbo, ffoniwch 01978 801463 rhwng 8am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Does dim angen archebu lle er mwyn defnyddio safleoedd Lôn y Bryn neu Blas Madog. Ond, dylech ymweld â’n canolfannau ailgylchu ddim ond os oes gwir angen gwneud hynny, a chadwch at reolau’r safle.

Ydych chi wedi gwneud cais am grant cymorth i fusnesau?

Rydym bellach wedi talu mwy na £21 miliwn i 1,806 o fusnesau yn Wrecsam fel rhan o’r cymorth rhyddhad cyfraddau busnes a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

Os ydych wedi eich cofrestru ar gyfer cyfraddau busnes a’ch bod yn masnachu hyd at y cyfyngiadau ar symud, efallai eich bod yn colli cyfle i fanteisio ar grant o hyd at £25,000.

Efallai fod gennych chi siop, swyddfa, siop trin gwallt, garej neu orsaf betrol? Efallai eich bod hyd yn oed yn rhedeg canolfan neu adeilad cymunedol nad yw’n eiddo i’r cyngor?

Pa fath bynnag o fusnes ydych chi’n ei redeg, os nad ydych wedi gwneud cais hyd yma, ewch i’n gwefan i wirio a ydych chi’n gymwys a gwnewch gais.

Bwganod brain Owrtyn yn codi calon

Mae ambell fwgan brain gwych wedi ymddangos ym mhentref Owrtyn – fel y gweithiwr hwn yn gwagio’r biniau 🙂

Ymgais hyfryd i gael tipyn o hwyl yn y cyfnod caled hwn.

Overton scarecrow

Cofiwch – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Darperir yr wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl ei wneud yn ei gylch drwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) am tua 5pm.
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru am tua 12.30pm.
• Briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Covid-19 (Novel Coronavirus) – nodyn briffio’r cyhoedd 15.5.20

Rhannu
Erthygl flaenorol ipads Mae’r iPads wedi cyrraedd, gan wneud gwahaniaeth mawr i gartrefi gofal yn Wrecsam!
Erthygl nesaf Gwnewch gais rŵan am gludiant i’r ysgol ym mis Medi Gwnewch gais rŵan am gludiant i’r ysgol ym mis Medi

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
housing repairs van
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English