Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Llun (20.4.20).
Negeseuon allweddol heddiw
• Cofiwch aros yn lleol wrth wneud ymarfer corff y penwythnos hwn. Peidiwch a gyrru i’n parciau. Os ydych yn byw yn ddigon agos i gerdded i barc, cadwch at y rheolau ac arhoswch yn ddiogel.
• Gall ein Huned Hawliau Lles roi cyngor dros y ffôn i chi ar bob mater sy’n ymwneud â hawliau Nawdd Cymdeithasol. Ffoniwch 01978 298225 rhwng 9.30am a 12pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
• Os yw eich plant yn cael prydau ysgol am ddim ac nad ydych wedi cofrestru ar gyfer ein cynllun taliadau uniongyrchol newydd, cofrestrwch erbyn dydd Gwener, 1 Mai.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Arhoswch gartref. Amddiffyn y GIG. Achub bywydau.
Mae penwythnos arall yn agosáu, ond mae ein neges yn un fath…
Parhewch i ddilyn cyfarwyddiadau’r Llywodraeth.
Arhoswch gartref, heblaw unrhyw siwrneiau hanfodol ac i wneud ymarfer corff yn lleol unwaith y dydd, a chadwch bellter o 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw.
Trwy wneud hyn, rydych yn helpu i gadw Wrecsam mor ddiogel ag y gall fod.
Parciau – dilynwch y rheolau ac arhoswch yn ddiogel
Mae’r Llywodraeth yn dweud y cewch adael eich cartref unwaith y dydd i wneud ymarfer corff…. boed hynny’n golygu mynd â’r ci am dro, mynd i redeg, neu beth bynnag sy’n eich helpu i gadw’n heini ac yn iach.
Ond nid yw hynny’n golygu teithio yn eich car i un o’n parciau ni. Ni ddylai unrhyw un fod yn gwneud hynny, mae’r Llywodraeth wedi nodi’n gwbl glir y dylem ‘aros yn lleol’ wrth wneud ymarfer corff.
Ond os ydych yn ddigon lwcus i fyw ger un o’n parciau (yn ddigon agos i gerdded), mae canllawiau pwysig iawn i chi eu dilyn.
Darllenwch yr erthygl a gyhoeddwyd gennym yn gynharach yr wythnos hon.
Diolch am eich cefnogaeth ac am bopeth rydych yn ei wneud i helpu Wrecsam a’r DU i fynd trwy’r argyfwng hwn.
Arhoswch yn ddiogel y penwythnos hwn.
Cyngor am fudd-daliadau
Yn ystod yr amseroedd anodd hyn, mae incwm nifer o bobl wedi gostwng…er enghraifft, os ydynt wedi cael eu cynnwys yn y cynllun seibiant â thâl neu sy’n hunan-ynysu.
Gall ein Huned Hawliau Lles roi cyngor dros y ffôn i breswylwyr Wrecsam ar bob mater sy’n ymwneud â hawliau Nawdd Cymdeithasol.
Mae hyn yn cynnwys cyngor ar Gredyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith, budd-daliadau anabledd ac yn y blaen.
I wybod beth yw eich hawliau, neu i drafod unrhyw faterion budd-daliadau, ffoniwch 01978 298225 rhwng 9.30am a 12pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Prydau Ysgol am Ddim
Nodyn atgoffa – cofrestrwch ar gyfer ein cynllun taliad uniongyrchol newydd erbyn dydd Gwener, 1 Mai
A yw eich plant yn cael prydau ysgol am ddim?
Byddwn yn cyflwyno system newydd ar ddydd Llun, 4 Mai fel rhan o’n hymateb parhaus i Covid-19.
Bydd arian yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, a gallwch yna ei ddefnyddio i brynu bwyd i’ch plant.
Bydd hyn yn gwneud pethau yn haws i rieni, a lleihau’r angen i deithio i fannau casglu i nol y pecynnau cinio rydym yn eu darparu yn bresennol.
Nid ydym eisiau i neb golli cyfle, felly sicrhewch eich bod yn cofrestru trwy wefan y cyngor erbyn dydd Gwener, 1 Mai (bydd angen i chi roi eich manylion banc).
Byddwch yn cael taliad misol sy’n cyfateb i £19.50 yr wythnos ar gyfer pob plentyn cymwys yn eich teulu.
Os yw eich plant dal yn mynychu’r ysgol (oherwydd eich bod yn weithiwr hanfodol neu maent yn ddiamddiffyn), bydd angen i chi ddefnyddio’r arian i dalu am eu prydau ysgol, neu i brynu bwyd er mwyn i chi eu hanfon gyda phecyn cinio.
COFRESTRWCH NAWR
Gallwch barhau i gasglu’r pecynnau cinio tan ddydd Gwener, 1 Mai
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn darparu pecynnau cinio i blant sy’n cael prydau ysgol am ddim nad ydynt yn yr ysgol ar hyn o bryd.
Rydym wedi bod yn gwneud hyn trwy ganolfannau dosbarthu ar draws y fwrdeistref sirol. https://newyddion.wrecsam.gov.uk/newyddion-da-i-orsaf-fysiau-wrecsam/
Cyflwynwyd hyn fel mesur dros dro i ganiatáu amser i ddatblygu system newydd, a byddwch dal yn gallu nol pecynnau cinio hyd at ac yn cynnwys dydd Gwener, 1 Mai.
Ond o ddydd Llun, 4 Mai bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y system taliadau uniongyrchol newydd er mwyn i chi gael bob cyfle.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ebostiwch ni ar freeschoolmeals@wrexham.gov.uk
Nodyn i atgoffa ynghylch lorïau bin
Does yna neb eisiau achosi i’r stryd gyfan golli allan ar eu casgliadau biniau, felly… os ydych chi’n parcio eich car ar y ffordd, sicrhewch eich bod yn gadael digon o le i’n lorïau bin allu mynd heibio.
Darllenwch yr erthygl a gyhoeddwyd gennym yr wythnos ddiwethaf.
A ydych yn gymwys i gael cymorth i fusnesau?
Rydym eisoes wedi talu mwy na £17.5 miliwn i 1,473 o fusnesau yn Wrecsam fel rhan o’r cymorth rhyddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
Er ein bod yn parhau i dderbyn ceisiadau bob dydd, rydym yn annog unrhyw un nad ydynt eisoes wedi gwneud cais i wirio a yw eu busnes yn gymwys ac – os felly – i gyflwyno cais ar-lein.
Os ydych yn gwneud cais, dylid gwirio’r manylion yr ydych yn eu darparu’n ofalus – yn arbennig rhifau cyfrif banc a rhifau didoli – oherwydd gall manylion anghywir arwain at oedi yn eich taliad.
Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19
Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth).
• Briff swyddogol bob dydd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19