Bydd ysgolion ar draws Wrecsam yn dechrau agor ar gyfer y tymor newydd o ddydd Mawrth, 1 Medi ymlaen fel rhan o’r broses dychwelyd yn raddol i ddisgyblion, a bydd ysgol eich plentyn wedi cysylltu â chi erbyn hyn i gadarnhau’r trefniadau.
Fel yr ydym yn agosáu at ailagor ein hysgolion yn Wrecsam, bydd gan lawer ohonoch gwestiynau am gludiant o’r cartref i’r ysgol a sut bydd yn gweithio oherwydd Covid-19. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda’n ‘Grŵp Adfer Addysg’ i gael pethau mewn lle erbyn mis Medi.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylid annog dysgwyr i ddefnyddio cyfleoedd teithio actif megis cerdded neu feicio lle mae’n rhesymol, ymarferol a diogel i wneud hynny, ond rydym yn ymwybodol nad yw’n bosib i bawb wneud hyn.
Os bydd eich plentyn yn defnyddio cludiant o’r cartref i’r ysgol, rydym eisiau eich sicrhau bod llawer o gynllunio wedi’i wneud i wneud y siwrneiau hyn mor ddiogel â phosib. Rydym yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru a bydd y cerbydau dan gontract yn lân a diogel i’w defnyddio, ond rydym yn gofyn i chi a’ch plentyn helpu i leihau’ r risg o ledaenu Covid-19.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n ddealladwy eich bod yn teimlo’n ansicr gyda’r syniad o adael eich plentyn ddefnyddio cludiant o’r cartref i’r ysgol pan fyddant yn dychwelyd, ond rydym eisiau eich sicrhau ei bod yn bwysig iawn i ni bod y plant sy’n defnyddio’r cludiant i’r ysgol yn ddiogel.
“Bydd pob un o’n cerbydau cludiant i’r ysgol yn cael eu glanhau yn fanwl yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod canllawiau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn cael eu glanhau yn aml ac yn fanwl. Bydd y cerbydau yn cael eu glanhau’n fanwl unwaith y dydd, ac yn cael eu glanhau cyn casglu’r plant yn y bore ac ar ddiwedd hebrwng y plant yn y prynhawn.
“Rydym wedi cyfrifo faint o ddisgyblion y gallwn gynnig sedd iddynt, ar sail maint y cerbyd a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, a bydd plant yn eistedd mewn clystyrau grŵp blwyddyn gyda seddi gwag yn cael eu defnyddio i ganiatáu gwagle rhwng pob grŵp blwyddyn.
“Rydym wedi rhoi’r mesurau hyn mewn lle fel bod siwrnai eich plentyn i ac o’r ysgol yn ddiogel, ond bydd rhaid i chi chwarae eich rhan hefyd. Gofynnir i ddisgyblion dros 11 oed i wisgo gorchudd wyneb wrth ddefnyddio cludiant o’r cartref i’r ysgol, felly gwnewch yn siŵr eu bod wedi paratoi ar gyfer hyn.
“Yn bwysicach oll, peidiwch, dan unrhyw amgylchiadau adael i’ch plentyn os oes ganddynt, neu unrhyw un yn eich aelwyd, dymheredd uchel neu’n dangos unrhyw symptom arall o’r coronafeirws.”
Rydym wedi paratoi Cwestiynau ac Ateb
Protocol cludiant rhwng y cartref a’r ysgol Medi 2020
YMGEISIWCH RŴAN