Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen ‘Cryfach gyda’n gilydd’ Arweinydd Cyngor Wrecsam yw’r cadeirydd newydd y CMD
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham Guildhall
Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > ‘Cryfach gyda’n gilydd’ Arweinydd Cyngor Wrecsam yw’r cadeirydd newydd y CMD
Busnes ac addysg

‘Cryfach gyda’n gilydd’ Arweinydd Cyngor Wrecsam yw’r cadeirydd newydd y CMD

Diweddarwyd diwethaf: 2020/06/26 at 9:39 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
Councillor Mark Pritchard
RHANNU
Arweinydd newydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn siarad am swyddi, buddsoddi a goresgyn heriau Covid-19…

Mae gan arweinydd newydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy neges syml i nodi dechrau ei dymor…

Cynnwys
Arweinydd newydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn siarad am swyddi, buddsoddi a goresgyn heriau Covid-19…Hyd at 50,000 o swyddi newyddGoroesi a ffynnuLlais cryfOeddech chi’n gwybod…

“Rydym ni’n gryfach gyda’n gilydd.”

Mae Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, wedi’i ethol i swydd cadeirydd y bartneriaeth drawsffiniol sy’n cefnogi busnesau, swyddi a seilwaith ar draws gogledd ddwyrain Cymru, Gorllewin Caer a Wirral.

Bydd y Cyng. Pritchard yn arwain y bartneriaeth dros y ddwy flynedd nesaf – gan adeiladu ar waith ei ragflaenydd, y Cyng. Louise Gittins o Orllewin Caer a Chaer.

Bydd yn derbyn cefnogaeth ei is-gadeirydd, y Cyng. Stuart Whittingham o Gyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Wirral.

Hyd at 50,000 o swyddi newydd

Y nod yw datblygu potensial economaidd safleoedd cyflogaeth allweddol y rhanbarth ymhellach.

Mae’r rhain yn cynnwys Dyfroedd Wirral (rhan o Ardal Fenter Dyfroedd Mersi), Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, Stad Ddiwydiannol Wrecsam a’r Parc Technoleg, Caer ac Ellesmere Port (rhan o Ardal Fenter Coridor Gwyddoniaeth Swydd Gaer).

Gyda’r buddsoddiad cywir credir y gall y safleoedd hyn greu hyd at 50,000 o swyddi newydd yn ystod y 15 i 20 mlynedd nesaf.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Goroesi a ffynnu

I helpu i ryddhau’r potensial heb ei gyffwrdd hwn, bydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol – cysylltedd cludiant trawsffiniol, sgiliau a chyflogaeth, seilwaith digidol a thwf carbon isel / glân.

Meddai’r Cyng. Pritchard: “Mae’r rhanbarth eisoes yn llwyddiannus iawn yn economaidd.

“Ond os oes arnom ni eisiau adeiladu ar hynny, ac annog mwy o fuddsoddiad, mae’n rhaid i ni wneud cynnydd o fewn y pedwar maes allweddol yma.

“Bydd gwell cysylltiadau cludiant – o ran ffyrdd a rheilffyrdd – yn hanfodol i gefnogi gweithrediadau busnes a chadwyni cyflenwi.

“Bydd hyn hefyd yn gwneud pethau’n haws i bobl gymudo – gan ddarparu mwy o gyfleoedd swyddi a helpu cwmnïau i fanteisio ar weithlu ehangach.

“Mae arnom ni hefyd angen cefnogi’r sgiliau cywir o fewn ein cymunedau. Mae hynny yn ffactor allweddol i berswadio cyflogwyr i fuddsoddi a chreu swyddi.”

Mae’r Cyng. Pritchard hefyd yn dweud bod pandemig Covid-19 wedi rhoi pwyslais pellach ar gael seilwaith digidol da ar gyfer yr economi rhanbarthol a chenedlaethol…

“Rŵan, yn fwy nag erioed, mae ar fusnesau angen y rhyngrwyd i oroesi a ffynnu.

“Dydi cysylltedd digidol o’r radd flaenaf ddim yn ychwanegiad dewisol… mae’n angenrheidiol.

“Yn olaf, mae arnom ni angen gwneud yn siŵr bod twf economaidd rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy yn garedig i’r amgylchedd. Mae’n rhaid iddo fod yn lân a charbon isel.

“Mae hynny’n bwysig iawn ar gyfer ansawdd bywyd ac, unwaith eto, yn ffactor allweddol wrth ddenu buddsoddiad.”

Llais cryf

Wedi’i sefydlu yn 2007 mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn bartneriaeth gref a phrofiadol – yn dylanwadu ar benderfynwyr allweddol i ddenu buddsoddiad i’r ardal.

Ychwanegodd y Cyng. Pritchard: “Dw i’n edrych ymlaen at gynrychioli’r Gynghrair a helpu i wneud yn siŵr bod lles pennaf y rhanbarth yn cael ei gefnogi.

“Mae Wrecsam, Caer, Wirral a Sir y Fflint yn llefydd gwych yn eu rhinwedd eu hunain, gyda’u hunaniaethau unigryw. Ond mae gennym ni hefyd fond economaidd cryf, ac mae ein llais yn llawer cryfach a mwy dylanwadol pan fyddwn ni’n cydweithio.

“Gyda llawer o sefydliadau ac unigolion dawnus ac ymroddedig, gall Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy barhau i sicrhau buddsoddiad ar gyfer yr ardal.

“Mae’n gyfnod heriol iawn ar gyfer economi’r DU, ond dw i hefyd yn edrych ymlaen at y dyfodol.”

Oeddech chi’n gwybod…

  • Mae ardal Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn cynnwys Sir y Fflint, Wrecsam, Gorllewin Caer a Wirral.
  • Mae ganddi boblogaeth o bron i filiwn o bobl.
  • Mae’n cynhyrchu oddeutu £21.8 biliwn GVA y flwyddyn, ac yn bwysig i economïau Cymru a Lloegr.
  • Mae gan yr ardal grynodiad uchel o weithgynhyrchu uwch, a chlystyrau pwysig o ddiwydiannau ynni, awyrofod, modurol, peirianneg, cemegol a phrosesu bwyd, yn ogystal â gwasanaethau proffesiynol ac ariannol.
  • Mae’r prif gyflogwyr yn cynnwys Airbus, Tata, Toyota, Vauxhall, JCB, Unilever, Cammell Laird, Bank of America, Essar, Encirc ac Iceland Foods.
  • Mae 16% o’r gweithlu (65,100 o bobl) wedi’u cyflogi yn y diwydiant gweithgynhyrchu / peirianneg o gymharu â chyfartaledd o 9% ar draws y DU.
  • Mae’r canolfannau gwybodaeth yn cynnwys Prifysgol Caer a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Coleg Cambria, Coleg Caer a Choleg Metropolitan Wirral. Mae ymchwil a datblygu hefyd yn nodwedd amlwg mewn llefydd fel Parc Gwyddoniaeth Thornton, Optic Glyndŵr, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru a’r Ganolfan Gwybodaeth Forol.
  • Mae’r Gynghrair yn cynnal chwe brecwast busnes y flwyddyn. Caent eu hystyried ymhlith y digwyddiadau rhwydweithio gorau yn yr ardal ac maent yn aml yn denu 150 o gynrychiolwyr. Bydd y digwyddiad nesaf yn gyfarfod rhithiol / ar-lein ar 30 Mehefin.

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mattress Scam Rhybudd – mae prynu matras neu wely gan alwr digroeso yn beryglus iawn
Erthygl nesaf Wedding Diweddariad ynglŷn â Seremonïau Priodas

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor Medi 11, 2025
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor Medi 11, 2025
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
J
Busnes ac addysgY cyngor

Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 21, 2025
funding
Busnes ac addysg

Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi

Awst 19, 2025
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A
Busnes ac addysg

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr Lefel As ac A

Awst 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English