Rydym wedi clywed fod arddangosfa newydd Tŷ Pawb “Ar Bapur” wedi cyrraedd rhestr o 10 Arddangosfa y dylid eu gweld ym mis Awst yn ôl Academi Brenhinol y Celfyddydau (RAA) – mae hynny’n gyflawniad aruthrol ar gyfer lleoliad a agorodd ychydig fisoedd yn ôl.
Mae ‘Ar Bapur’ yn canolbwyntio ar gerflunwaith, lluniad a chollage. Mae’n cynnwys artistiaid Cymraeg ochr yn ochr â phobl enwog rhyngwladol megis Damian Hurst, Wolfgang Tillmans RA, Roy Lichtenstein a Bridget Riley.
Mae’r arddangosfa, sef yr ail i gael ei ddangos yn Oriel 1, yn cyd-fynd â’r cynlluniau cyffredinol i’r lleoliad gael ei adnabod fel canolfan gelfyddydau sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, tra’n parhau i gefnogi pobl leol yn Wrecsam trwy ddigwyddiadau, prosiectau a pherfformiad sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Cafodd yr RAA weld 10 arddangosfa ar gyfer mis Awst ym Mirmingham, Leeds, Wolverhampton, Edinburgh, Glasgow a’r Tate Modern yn Llundain – mae Tŷ Pawb yn Wrecsam yn sicr mewn cwmni ardderchog.
Fe fydd yr arddangosfa ar agor tan 23 Medi, felly pam na wnewch chi bicio draw yn ystod eich amser cinio neu dros y penwythnos?
Gallwch weld y 10 arddangosfa yma:
Gallwch ddarllen am yr arddangosfa yma:
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION