Cynhaliwyd seremoni wobrwyo yn Linden House, yr Wyddgrug, ar ddydd Llun i ddathlu llwyddiant dwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir y Fflint a Wrecsam yn y Siarter Iaith – set o nodau wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru gyda’r bwriad o annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio Cymraeg yn gymdeithasol.
Mae’r ddwy ysgol hon wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau i annog disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ganolbwyntio ar ei defnyddio mewn sefyllfaoedd llai ffurfiol.
Yr ysgolion a ennillodd y gwobrwyon oedd Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon, ac Ysgol Bro Alun, Gwersyllt.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Derbyniwyd Ysgol Gwenffrwd y wobr aur, sy’n dangos effaith y siarter ar yr ysgol a’r gymuned leol.
Derbyniwyd Ysgol Bro Alun y wobr arian sy’n adlewyrchu cam cyflwyno’r siarter. Bydd yr ysgol yn parhau ar ei thaith i gael y wobr aur eleni.
Yn ogystal â gweithio gyda rhieni a’r cymunedau cyfagos, mae’r ysgolion hyn hefyd wedi gweithio gydag ysgolion eraill yn eu sir er mwyn hyrwyddo nodau’r Siarter Iaith a chynyddu defnydd o’r Gymraeg ymysg disgyblion.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Llongyfarchiadau mawr i’r ysgolion – mae eu hymdrechion wedi bod yn arbennig ac rydw i’n falch eu bod yn cael canmoliaeth am eu gwaith.
“Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn eithriadol o bwysig, ac mae’n dda gweld bod yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn cael eu cydnabod fel hyn am yr holl waith maen nhw wedi’i wneud i sicrhau bod plant yn cael eu hannog i siarad Cymraeg y tu allan i’r ysgol yn ogystal ag ynddi.”
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf i’r iaith Gymraeg ac rydyn ni eisiau cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yn ein sir.
“Rydyn ni’n cefnogi rhai o bob oed i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi’r hyder iddyn nhw ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd – yn y gwaith, gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymunedau.
“Llongyfarchiadau i’r holl ysgolion ar ennill gwobrau’r Siarter Iaith.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU