Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am i Gymru fod y lle gorau yn y byd i dyfu’n hŷn ynddo, ac mae wrthi’n pennu’r gwaith y bydd yn ei wneud dros y tair blynedd nesaf i wella bywydau pobl hŷn.
Ers iddi ddechrau yn y swydd, mae’r Comisiynydd wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn cwrdd ac yn siarad â phobl hŷn a sefydliadau i wrando ar beth fyddai’n gwneud Cymru’r lle gorau yn y byd i dyfu’n hyn ynddo.
Mae hyn wedi helpu’r Comisiynydd i nodi tri phrif flaenoriaeth tymor hir i Gymru. Bydd yn cyflawni ystod eang o waith ar ran pobl hŷn yn erbyn y blaenoriaethau hyn:
·Gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu heneiddio’n dda
·Rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu
·Rhoi diwedd ar gam-drin pobl hŷn yng Nghymru
Mae’r Comisiynydd yn awyddus i safbwyntiau a phrofiadau cynifer â phosib o bobl hŷn a rhanddeiliaid ddylanwadu ar ei gwaith a byddai’n croesawu eich barn ar beth dylai ganolbwyntio arno dan y meysydd blaenoriaeth hyn, yn arbennig y newidiadau rydych chi am eu gweld a’ch syniadau o ran sut mae cyflawni’r newidiadau hyn.
I ymateb i ymgynghoriad y Comisiynydd ar-lein, ewch i: http://bit.ly/OPCWCymraeg
Os hoffech dderbyn copi caled o’r ddogfen ymgynghori, e-bostiwch gofyn@olderpeoplewales.com neu ffoniwch 03442 640 670.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Gwener 22 Chwefror 2019.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR