Er mwyn ailagor ardaloedd chwarae sy’n eiddo i’r Cyngor, ardaloedd chwaraeon amlddefnydd a chaeau pêl-droed yn ddiogel rydym yn cynnal asesiadau risg ar hyn o bryd ar gyfer pob cyfleuster unigol ac yn edrych ar pa arwyddion sydd angen eu gosod.
Mae’n bwysig ein bod yn ailagor y cyfleusterau hyn yn ddiogel ac rydym yn gobeithio gallu gwneud hynny gynted ag y gallwn ac y caniateir i ni wneud hynny – er y bydd yna oedi os bydd yr asesiad risg yn nodi y bydd angen mesurau diogelwch pellach yn eu lle cyn i gyfleuster ailagor.
Ar gyfer yr holl gyfleusterau awyr agored uchod nid oes yna ddyddiad ailagor ar hyn o bryd ond byddwn yn gadael i chi wybod pan fydd hyn yn newid a phan fyddant yn agor.
Mae’r cyfleusterau hamdden dan do ac arwyr agored a weithredir gan Freedom Leisure ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd ynghau ar hyn o bryd heb ddyddiad ailagor swyddogol:
- Canolfan Byd Dŵr
- Y Waun
- Canolfan Gwyn Evans:
- Queensway – gan gynnwys y trac athletau
- Darland
- Clywedog
- Morgan Llwyd
- Rhosnesni
- Rhiwabon
- Lleiniau 3G
Ar hyn o bryd rydym yn gobeithio agor ardaloedd chwarae i blant a champfeydd awyr agored ar 24 Gorffennaf gydag arwyddion priodol yn eu lle.
Ar gyfer yr holl gyfleusterau awyr agored uchod byddwn yn gadael i chi wybod pan fydd hyn yn newid a phan fyddant yn agor.
Yn y cyfamser, dilynwch yr holl gyngor gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gadw’n ddiogel ac i ganiatáu i ni gyd gadw Wrecsam yn ddiogel.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN