Mae Hysbysiad Cau wedi ei gyflwyno i’r Greyhound Inn, Ffordd Holt, Wrecsam, ar ôl methu a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r perygl y bydd staff a chwsmeriaid yn dod i gysylltiad â Coronafeirws.
Cafodd person oedd wedi cael prawf positif am Coronavirus fynediad i holl ardaloedd y dafarn ac nid oedd yn hunan-ynysu.
Bydd y cau yn digwydd ar unwaith a bydd yn parhau mewn grym nes bod yr eiddo wedi ei lanhau’n drylwyr, Asesiad Risg yn disgrifio pob gweithdrefn i atal lledaeniad y feirws yn cael ei gynhyrchu i ddangos y bydd 2 fetr o bellter cymdeithasol yn cael ei gadw, fod yr holl gwsmeriaid yn eistedd wrth fyrddau gyda gwasanaeth bwrdd yn unig, bod pawb yn gwisgo mygydau yn yr eiddo heb law am pan eu bod yn eistedd a bod manylion cyswllt yn cael eu cofnodi.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n hanfodol bod aelodau o’r cyhoedd yn hyderus fod pob rhagofal wedi eu cymryd cyn iddynt ymweld ag eiddo trwyddedig. Yn yr achos hwn, ni chafodd eu diogelwch ei amddiffyn ac roedd y perygl o ddod i gysylltiad â’r feirws yn uchel.
“Mae mwyafrif llethol yr eiddo masnachol wedi cadw at y rheoliadau ac yn cydnabod eu bod ar waith er mwyn diogelu staff a’r cyhoedd. Ar yr achlysur hwn fodd bynnag, mae’n amlwg nad oedd hyn yn wir ac nid oedd dewis gan swyddogion ond cyflwyno’r hysbysiad cau ar unwaith.
“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pawb fod Coronafeirws yn dal yn ein cymuned a nes bod hynny’n newid, fyddwn ni ddim yn oedi cyn gweithredu er mwyn cadw Wrecsam yn ddiogel.”
Mae canllawiau ar hunan-ynysu ar gael gan Lywodraeth Cymru a dylem fod yn ymwybodol o’r camau y mae’n rhaid i ni eu cymryd os oes gennym symptomau neu’n cael prawf positif am Coronafeirws.
https://llyw.cymru/hunanynysu-canllawiau-aros-gartref-i-aelwydydd-coronafeirws-posibl
Gallwch ddarllen yr Hysbysiad Cau llawn ar ein gwefan:
Welsh: https://www.wrecsam.gov.uk/service/gorchymuniadau-gwella-chau
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG