Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfnod Cyffrous ar gyfer “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyfnod Cyffrous ar gyfer “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Pobl a lle

Cyfnod Cyffrous ar gyfer “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 20, 2025 10:15 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Library
RHANNU

Cynhaliodd Llyfrgell Wrecsam ddigwyddiad pwysig yr wythnos hon i ddechrau cynllunio digwyddiadau a fydd, drwy gydol 2026, yn dathlu 150 mlwyddiant “Blwyddyn o Ryfeddod” y ddinas ym 1876.

Ym 1876 ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, agorwyd Mynwent Ffordd Rhiwabon, cynhaliwyd yr Arddangosfa Trysorau Celf a Diwydiannol 4 mis o hyd, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref am y tro cyntaf, agorwyd system tram wreiddiol Wrecsam, a llawer mwy.

Roedd hon yn flwyddyn hynod bwysig yn hanes Wrecsam, ac yn y cyfarfod yn y Llyfrgell brynhawn dydd Mercher, 15 Ionawr, gwelwyd gwahanol grwpiau yn dod at ei gilydd i ddechrau cynllunio ar gyfer coffáu’r digwyddiadau hynny y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd: “Roedd hi’n fraint cael cynnal y digwyddiad hwn yn y Llyfrgell, ac rwy’n siŵr bod cyfnod cyffrous o’n blaenau i Wrecsam gyfan.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Ddinas Diwylliant a’r celfyddydau: “Bydd hi’n wych dathlu nid yn unig y 150 mlynedd ddiwethaf o’n diwylliant, celfyddydau a diwydiant, ond hefyd gyflawniadau presennol y ddinas, yn ogystal ag edrych ymlaen at ein dyfodol.

“Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam yn ddiweddarach eleni, a chynlluniau’n cael eu gwneud i nodi pen-blwydd y Flwyddyn o Ryfeddod yn 2026, mae’n addo bod yn amser cyffrous i’r celfyddydau a diwylliant yn y fwrdeistref sirol.”

Gwnaeth Prif Weithredwr dros dro newydd Cyngor Wrecsam, Alwyn Jones, hefyd ddod o hyd i amser i fynychu. Meddai: “Hoffwn longyfarch y rhai a gymerodd ran am ddod â’r cyfan at ei gilydd. Er y byddai llawer o’r digwyddiadau hyn wedi digwydd ar wahân, mae’n dyst i ysbryd a diwylliant cymunedol Wrecsam ein bod nawr yn mynd i gael blwyddyn o ddathlu treftadaeth ac enw da Wrecsam, yma yng Nghymru ond hefyd yn rhyngwladol.”

Ysbrydolwyd y syniad gwreiddiol ar gyfer y flwyddyn o ddathlu gan y llyfryn Wrexham Revealed, a gynhyrchwyd gan Ŵyl Geiriau Wrecsam – “gŵyl lenyddol unigryw” Wrecsam. Mae’r llyfr poced yn awgrymu 20 o lefydd i ymweld â nhw o gwmpas canol y dref i bobl sydd am fwynhau taith hunan-dywys drwy hanes Wrecsam. Ac meddai cyfarwyddwr yr ŵyl, Dylan Hughes: “Mae’r llyfryn yn sôn am nifer o ddyddiadau arwyddocaol, ond mae’n tynnu sylw at faint ddigwyddodd ym 1876 ei hun, ac mae’r 150 mlwyddiant yn gyfle gwych i ni gofio pa mor falch y dylen ni i gyd fod o le Wrecsam yn y byd.”

Bydd manylion y flwyddyn o ddathlu a’r digwyddiadau unigol ar gael yn fuan.

Rhannu
Erthygl flaenorol Arwyneb pwll nofio dan do Sesiynau nofio wythnosol am ddim i bobl dan 16 oed a thros 60 oed
Erthygl nesaf Rhannwch eich straeon pêl-droed gyda'n hamgueddfa newydd! Rhannwch eich straeon pêl-droed gyda’n hamgueddfa newydd!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English