Heidiodd deiliaid trwyddedau o bob cornel o’r fwrdeistref sirol i seremoni wobrwyo Braf Bob Nos yn Neuadd Maesgwyn, Wrecsam, nos Fercher.
Mae Braf Bob Nos Wrecsam yn rhan o gynllun gwirfoddol cenedlaethol ar gyfer lleoliadau nos, sydd wedi ei greu i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel tra’n cydnabod rhagoriaeth o fewn y diwydiant trwy ‘archwiliad trwyadl’ sy’n manylu ar dros 120 o feini prawf – a’r rheiny yn cynnwys popeth o reolaeth gyfrifol a diogel i ofal cwsmeriaid.
Anogir ymddygiad cyfrifol gan ddeiliaid trwyddedau sy’n cymryd rhan. Fe’u hanogir hefyd i gymryd balchder yn eu safleoedd a’r hyn sydd o’u cwmpas a thrwy wneud hynny, cyfrannu yn ôl i’w trefi a’u cymunedau lleol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Daw’r cynllun i uchafbwynt blynyddol mewn seremoni wobrwyo sydd yn dathlu’r hyn y mae’r holl leoliadau wedi ei gyflawni.
Rhedir y cynllun mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae ganddo’r nod o geisio lleihau nifer y digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol trwy godi safonau tai trwyddedig ac adeiladu perthnasau cadarnhaol rhwng yr holl randdeiliaid, gan gynnwys gweithredwyr tai trwyddedig a’u staff.
Mae’r cynllun ar hyn o bryd yn agored i fangreoedd canol tref. Roedd 13 mangre yn cymryd rhan eleni, gyda’r asesiadau terfynol yn cael eu cynnal yn Hydref 2018.
Yn ystod Tachwedd, cyfarfu’r panel beirniadu er mwyn ystyried pob cais, gan benderfynu ar enillwyr mewn pedwar categori – Bar Gorau, Tafarn Orau, Bwyty Gorau, Clwb Gorau, yn ogystal â Phrif Enillydd Braf Bob Nos 2018.
Enillwyr eleni yw …
• Prif Enillydd Braf Bob Nos Wrecsam – Ironworks, Wrecsam
• Bar Gorau – Ironworks, Wrecsam
• Clwb Gorau – Atik, Wrecsam
• Tafarn Orau – The Fat Boar, Wrecsam
• Bwyty Gorau – Frankie and Benny’s, Wrecsam
Caiff yr holl leoliadau sy’n rhan o Gynllun Gwobrau Braf Bob Nos eu harchwilio gan aseswyr hyfforddedig ac, os yn llwyddiannus, byddant yn dod yn aelod achrededig o’r cynllun gan ennill gwobr Aur, Arian neu Efydd. Caiff y lleoliadau gorau wedyn eu beirniadu gan banel annibynnol sydd yn dewis yr enillwyr ym mhob adran.
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae cymryd rhan yn y cynllun Best Bar None yn wirfoddol, ac mae angen ymrwymiad a llawer o waith caled gan bob un o’r cyfranogwyr – felly, mae’r penderfyniad ynglŷn â’r categoriadau “orau” yn sialens go wir. Ddylem gymeradwyo pob un o’r tafarndai, clybiau a thai bwyta a chymerodd ran yn y cynllun am y gwaith y maent yn eu gwneud i ddiogelu Wrecsam.”
Cafodd gwobrau Braf Bob Nos eu noddi eleni gan Wrexham Lager, Carlsberg, a Synergy Security.
Rhestr lawn o holl leoliadau achrededig Braf Bob Nos Wrecsam …
Aur:
The Nags Head
Atik
The Fat Boar
Penny Black
The Ironworks
The Bank
Frankie & Benny’s, Dol yr Eryrod
Arian:
The Wynnstay
The Ramada
The Royal Oak
Elihu Yale
North & South Wales Bank
Efydd:
The Welch Fusiliers
Rydym ni a’n partneriaid ar hyn o bryd yn rhedeg ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, sydd yn ceisio annog pobl ifanc i edrych ar ôl eu hunain drwy yfed llai cyn mynd allan … yn ogystal â chadw cyfrif o faint maen nhw’n yfed unwaith maen nhw’n cyrraedd barrau, tafarndai a chlybiau Wrecsam.
Canfod mwy am ymgyrch Yfed Llai, Mwynhau Mwy.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU